COVID-19: Bydd unrhyw wybodaeth benodol yn ymwneud â Sir Benfro yn cael ei diweddaru ar www.sir-benfro.gov.uk/coronafeirws neu am wybodaeth sut i wneud cais am breaf Covid-19 ewch i llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws-covid-19

Ein Cyrsiau

Sgiliau Hanfodol

Hoffech chi wella eich sgiliau darllen, ysgrifennu, sillafu neu fathemateg? Neu a ydych chi'n adnabod rhywun a fyddai'n elwa ar gael cymorth unigol?

Mae Sir Benfro yn Dysgu yn darparu dosbarthiadau AM DDIM  i oedolion ledled Sir Benfro.

Bydd cyfweliad cydgyfrinachol yn cael ei gynnig i bawb, cyn iddynt ymuno â dosbarth.  Yna bydd Cynllun Dysgu Unigol yn cael ei gytuno gyda chi, er mwyn ichi allu gweithio wrth eich pwysau, a fesul camau sy'n addas i chi, mewn man ymlaciol a chyfeillgar. 

Gallwn ni roi cymorth i ddysgwyr sydd ag anawsterau dysgu difrifol, hyd at y bobl hynny sy'n dymuno gloywi eu sgiliau neu sydd am gael cymorth er mwyn ennill TGAU neu NVQ.

I ymuno â dosbarth, hoffwn inni siarad â chi yn gyntaf

Ffoniwch 0808 100 3302

ID: 1939, adolygwyd 22/01/2018