Ein Cyrsiau

Taflen Cwrs

Yn cynnig cyrsiau mewn lleoliadau cymunedol ac ar-lein.

Dysgu heddiw ar gyfer yfory gwell.

Sgiliau Hanfodol

TGAU

Sgiliau Digidol

Iechyd a Lles

Diddordeb Cyffredinol

Sgiliau creadigol a pherfformio

Sbardun

Dysgu Cymraeg Sir Benfro

Gweithdai

Ieithoedd

Sut i Gofrestru

Cysylltiadau

Sgiliau Hanfodol

A hoffech fireinio eich Saesneg neu Fathemateg? Mae cyrsiau Sgiliau Hanfodol am ddim yma i’ch helpu.

Gall fod o gymorth i chi gael swydd, i helpu eich plant ac ennill cymwysterau.

Os dych chi eisiau dysgu Saesneg mae dosbarthiadau Saesneg am ddim ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL).

Os ydych eisiau ymuno â dosbarth Sgiliau Hanfodol neu ESOL, hoffem siarad â chi’n gyntaf. Gadewch neges gyda’ch rhif ac fe wnawn eich ffonio chi yn ôl.

Rhadffon 0808 100 3302

TGAU

A oes angen cymhwyster TGAU arnoch i wella eich rhagolygon gwaith a chyflogaeth neu ar gyfer addysg bellach?

TGAU Iaith Saesneg l TGAU Mathemateg

Sgiliau Digidol

Mae sicrhau eich bod yn meddu ar y sgiliau digidol diweddaraf yn hollbwysig. P’un a ydych yn ddechreuwr neu os oes gennych rai sgiliau digidol eisoes, mae gennym gwrs i ddiwallu eich anghenion a fydd yn eich helpu i ddysgu rhywbeth newydd, ennill cymhwyster neu’n eich helpu o ran cyflogaeth.

Mae’r dosbarthiadau’n fach a chyfeillgar felly ymunwch â ni i weld yr hyn y gallwch ei ddysgu. Mae gennym gyrsiau ar-lein yn cael eu cyflwyno gan diwtor hefyd y gallwch eu mynychu o esmwythder eich cartref eich hun.

  • Llythrennedd digidol - Camau cyntaf
  • Llythrennedd digidol - Rhagor o sgiliau
  • ICDL
  • Sgiliau Microsoft Office
  • Elfennau Photoshop - Cyflwyniad
  • Defnyddio eich llechen - Cyflwyniad
  • Defnyddio Windows

A hoffech chi ddysgu o esmwythder eich cartref eich hun?

Rydym yn cynnig ystod o gyrsiau ar-lein dan arweiniad tiwtor erbyn hyn trwy Barth Dysgu, Sir Benfro yn Dysgu.

Iechyd a Lles

Mae meddwl bywiog a chorff heini yn allweddol i wneud y mwyaf o’ch bywyd a chyfoethogi bywydau’r rheini o’ch cwmpas. Edrychwch i weld yr hyn y gallwch chi ei wneud.

  • Cymorth Cyntaf Argyfwng yn y Gweithle Lefel 3
  • Cymorth Cyntaf Brys i Blant
  • Pilates
  • Pilates - Ymestyn ac ystwytho
  • Tai Chi
  • Ioga
  • Ioga - Ioga cadair
  • Ioga i Ddechreuwyr
  • Ioga ar gyfer pobl dros 50 mlwydd oed

Diddordeb Cyffredinol 

  • Diogelwch bwyd mewn arlwyo
  • Hanes Diwylliannol
  • Hanes y Cymry
  • Hanes -  20fed Ganrif
  • Hanes - Profiadau o’r Rhyfel Mawr
  • Hanes - Bywyd mewn pentref canoloesol
  • Hanes - bywyd yn oes y Tuduriaid
  • Hanes y Cymry
  • Trwyddedu Personol
  • Ffotograffiaeth - Datblygu sgiliau pellach
  • Ffotograffiaeth ddigidol sylfaenol
  • Diogelu - Plant a Phobl Ifanc Lefel 2

Sgiliau creadigol a pherfformio

Mae rhywbeth at ddant pawb! Rhowch gynnig arni! Gall dysgu sgiliau newydd roi ymdeimlad o gyflawniad i chi a gwella eich hyder

  • Celf - Lluniadu a phaentio
  • Celf - bywluniad
  • Celf i bawb
  • Paentio brwsh Tseiniaidd
  • Ysgrifennu creadigol
  • Gwniadwaith
  • Gwniadwaith a dodrefn meddal
  • Gwneud ffelt
  • Gweithdy gwneud ffelt
  • Gweithdy dyfrlliw Graham Hadlow
  • Gitâr i ddechreuwyr
  • Dyddlyfrau a llyfrau atgofion - mynediad
  • Gweithdy Dewch i wneud printiau
  • Dewch i wnïo
  • Macrame
  • Gwneud printiau - cyflwyniad
  • Canu - Dewch o hyd i’ch llais i mwynhewch ganu
  • Gwydr lliw
  • Clustogwaith Traddodiadol
  • Iwcwlili
  • Gwaith basged helyg
  • Addurniadau Nadolig helyg
  • Chynnal planhigion helyg

Sbardun

Mae Springboard yn brosiect Sir Benfro yn Dysgu, sy’n darparu cyrsiau am ddim i oedolion a theuluoedd mewn partneriaeth ag ysgolion cynradd Sir Benfro, mewn ardaloedd penodol.

Dilynwch ni ar Facebook: Sbardun Sir Benfro

Dysgu Cymraeg Sir Benfro

Dyn ni’n darparu dosbarthiadau a digwyddiadau anffurfiol i oedolion o bobl lefel.

O Sesiynau blasu, Cymraeg yn y Cartref, Mynediad , Sylfaen, Canolradd ac Uwch. Dewch o hyd i gwrs sy’n addas i chi a dysgwch ar-lein neu yn eich canolfan leol.

01437 770180 

learnwelsh@pembrokeshire.gov.uk

Gweithdai

  • Ddim yn siŵr beth i’w wneud? Mae ein gweithdai yn ffordd berffaith i roi cynnig ar rywbeth newydd!
  • Cymorth Cyntaf yn y Gweithle
  • Cymorth Cyntaf Brys i Blant
  • Gweithdy celf blodau
  • Diogelwch bwyd mewn arlwyo
  • Gweithdy dyfrlliw Graham Hadlow
  • Macrame
  • Trwyddedu Personol
  • Diogelu  - Plant a Phobl Ifanc Lefel 2
  • Addurniadau Nadolig helyg
  • Chynnal planhigion helyg

Ieithoedd

Ffrangeg/Almaeneg/Groeg/Eidaleg/Rwseg/Sbaeneg

Mae dysgu iaith yn hwyl ac yn cadw eich meddwl yn effro!  Gall eich helpu i wneud y mwyaf o’ch gwyliau dramor, ymestyn eich gorwelion diwylliannol, ymestyn rhagolygon gyrfa a chyfathrebu ag ymwelwyr tramor.

Opsiynau dysgu ar-lein, yn yr ystafell ddosbarth a dysgu cyfunol - gweler y manylion ar ein gwefan.

Sut i Gofrestru

Os na allwch weld yr hyn yr hoffech ei wneud - ffoniwch ni. Mae gennym nifer o glybiau a grwpiau sy’n cyfarfod yn rheolaidd yn ein canolfannau.

Mae’n hawdd iawn cofrestru ar gyfer cwrs!

Mae’r cyrsiau ar gyfer oedolion dros 16 oed. Gallwch gofrestru ar-lein, drwy e-bost, yn uniongyrchol neu dros y ffôn. Rydym yn derbyn arian parod, siec a thaliadau â cherdyn.

Chwiliwch am gyrsiau ar ein gwefan: Addysg i Oedolion

neu cysylltwch â’ch Canolfan Ddysgu Gymunedol neu eich swyddfa Gwasanaethau Canolog leol i gael manylion am y cyrsiau sydd ar gael 

Cofiwch gofrestru’n gynnar! Nid ydym am i chi golli’r cyfle

Cysylltiadau

Canolfannau Dysgu Cymunedol Gogledd Sir Benfro

(Ardal Abergwaun, Crymych, Trefdraeth a Tyddewi)

Lleolir Yng Nghanolfan Ddysgu Gymunedol, Abergwaun

01437 770140

07468 743867                                       

Canolfannau Dysgu Cymunedol Canolbarth Sir Benfro

(Ardal Hwlffordd, Aberdaugleddau a Neyland)                                                   
Lleolir yn Archifdy Sir Benfro, Hwlffordd                                                               

midpembs.learning@pembrokeshire.gov.uk  

 01437 770150

 01437 770165

 07557 191452               
                                                        

Canolfan Ddysgu Gymunedol Doc Penfro

pembrokedock.learning@pembrokeshire.gov.uk

01437 770170

Canolfan Ddysgu Gymunedol y Preseli - Crymych

Dysgu Cymraeg Sir Benfro

learnwelsh@pembrokeshire.gov.uk                         

01437 770180   
                                                                                                                   

Canolfan Ddysgu Gymunedol Dinbych-y-Pysgod                                                 

tenby.learning@pembrokeshire.gov.uk   

01437 770190                                                          

Canolfan Gymunedol Bloomfield - Arberth 

01437 770136

01834 860293

narberth.learning@pembrokeshire.gov.uk 

                                                                                        
Sbardun

springboard@pembrokeshire.gov.uk     

07500 918050                                                               

     
Swyddfa Gwasanaethau Canolog - Arberth

01437 770130

07500 127146

learn@pembrokeshire.gov.uk 

Essential Skills and English for Speakers of Other Languages (ESOL)                                                                        

Rhadffon 0808 100 3302

Dilynwch ni ar Facebook: Sir Benfro yn Dysgu

Wefan: Addysg i oedolion

 

ID: 4296, adolygwyd 19/05/2023

Sbardun

Mae Sbardun yn brosiect Sir Benfro yn Dysgu sy'n cynnal amrywiaeth eang o gyrsiau llawn hwyl, am ddim a chyffrous i oedolion a theuluoedd.

Pam ymgysylltu â'r prosiect?
Learning Pembrokeshire Springboard

Trwy ymuno ag un o'n cyrsiau fe allwch chi a'ch teulu gael hwyl, dysgu sgiliau newydd, cwrdd â phobl newydd ac ehangu eich gorwelion

Pa fath o gyrsiau allwch chi eu gwneud?                                 

Cynllunnir cyrsiau Sbardun ar gyfer oedolion a'u teuluoedd sydd am gael hwyl wrth ddysgu O Wneud Bara i Gyrsiau Harddwch, Gwaith Coed i Goginio, o Ganu i Ddiogelwch Safle...,os ydyw'n eich helpu chi a'ch teulu i gael y gorau allan o ddysgu , fe drefnwn ni!!

Ble galla i weld yr amserlenni cyfredol?

Er mwyn gweld amserlenni cyfredol ar gyfer pob ardal Sbardun, cerwch at ein tudalen Gweplyfr o'r enw 'Springboard, Pembrokeshire'. Springboard Pembrokeshire Facebook (Mewn ffenest newydd)  

Pwy all gymryd rhan?

Mae cyrsiau Sbardun yn agored i oedolion sydd â phlentyn yn y teulu sy'n mynychu un o'n hysgolion partner.

Pryd y cynhelir gweithgareddau Sbardun?

Mae Sbardun yn cynnal rhaglen wahanol bob ochr i bob hanner tymor. Amserir ein cyrsiau'n berffaith fel eu bod yn ffitio ag amser mynd a dod o'r ysgol.

Ble fydd ein gweithgareddau'n digwydd?

Mae cyrsiau Sbardun yn digwydd yng nghanol eich cymuned, trwy eich ysgol leol gymunedol 

Oes unrhyw help gyda gofal plant? 

Mae cyrsiau Sbardun yn digwydd yng nghanol eich cymuned, trwy eich ysgol leol gymunedol

Sut alla i gymryd rhan?

Mae'n hawdd cymryd rhan. Testun, ffoniwch neu e-bostiwch y Cydlynydd Sbardun

Laura Phillips, Cydlynydd Sbardun
Ffôn: 07500 918 050, 
Ebost: laura.phillips@pembrokeshire.gov.uk

Gweplyfr: Springboard Pembrokeshire Facebook (Mewn ffenest newydd)  

ID: 1967, adolygwyd 27/03/2023

Cymraeg

Mae pobl eisiau dysgu Cymraeg am wahanol resymau, ond dod yn rhugl yn yr iaith yw dymuniad y rhan fwyaf.  Os byddwch chi'n penderfynu dysgu Cymraeg fe allech chi fod yn un o'r cannoedd o bobl sy'n llwyddo i ddod yn siaradwyr Cymraeg rhugl bob blwyddyn.

Mae dysgu Cymraeg yn llawer o hwyl a gall unrhyw un sydd am fod yn ddysgwr, ond sydd efallai'n pryderu am ymdopi â gramadeg, fod yn sicr bod y pwyslais heddiw yn bendant iawn ar Gymraeg llafar ac ar ddefnyddio'r iaith o'r cychwyn cyntaf.

Os ydych chi angen mwy o wybodaeth, mae popeth ar gael ar Dysgu Cymraeg Sir Benfro neu gellir cysylltu gyda ni ar 01437 770180 am gyngor.

Cyn i chi chwilio am gwrs, mae dau beth pwysig y dylech eu hystyried: dewis y lefel iawn a'r cyflymder iawn.

Dewis y lefel iawn

Mae pob cwrs erbyn hyn wedi ei enwi yn unol â'r fframwaith dilyniant cenedlaethol ar gyfer Cymraeg i Oedolion, sy'n cynnwys 5 lefel:

  • Mynediad - cyrsiau i ddechreuwyr. Mae'r pwyslais ar siarad Cymraeg - mae trafod manylion personol a digwyddiadau yn y gorffennol ymysg y pynciau o dan sylw.
  • Sylfaen - datblygu eich sgiliau siarad. Mae teulu, gwaith a diddordebau ymysg y pynciau o dan sylw.
  • Canolradd - mae'r pwyslais yn dal i fod ar siarad, ond gan gyflwyno ychydig mwy o ysgrifennu, darllen a gwrando.  Fe ddylech fedru cynnal sgwrs yn weddol rwydd ynglŷn â phynciau pob dydd erbyn diwedd y lefel hon.
  • Uwch - gyda'r pwyslais yn dal i fod ar sgiliau siarad, fe gewch hefyd eich cyflwyno'n raddol i radio, teledu a phapurau newydd Cymraeg.  Mae'r cyrsiau hyn yn gymorth hefyd i chi ysgrifennu'n fedrus.
  • Hyfedredd  - cyrsiau ar gyfer pobl sy'n siarad Cymraeg yn rhugl (iaith gyntaf neu ail iaith) sy'n dymuno cryfhau eu gafael ar yr iaith.

Dewis y Cyflymder Iawn

Y ffordd orau i ddysgu iaith yw trochi eich hun ynddi, felly fe ddylech chi ystyried dewis y cwrs mwyaf dwys y gallwch chi roi eich amser iddo.  

Fel un sy'n dechrau o'r newydd, fe gewch ddewis gweithio gan symud ymlaen yn hamddenol ar gyrsiau sy'n cwrdd unwaith yr wythnos, neu'n fwy dwys gyda dau ddosbarth yr wythnos. 

Mae'r cyrsiau sy'n cwrdd unwaith yr wythnos fel arfer yn ymdrin ag un o'r lefelau uchod tros ddwy flynedd (tair blynedd ar gyfer y lefel Uwch) ac mae'r cyrsiau mwy dwys yn ymdrin ag un lefel y flwyddyn.  Mae'r ddau lwybr fel arfer yn cyfuno wrth i chi fynd ymlaen i'r lefelau uwch.  

Yr Iaith ar Waith

Os ydych yn gweithio yng Nghymru, bydd y gallu i siarad Cymraeg yn rhoi mantais bendant i chi a gallai arwain at ddyrchafiad neu swydd well.   

Mae rhagor a rhagor o gyflogwyr yn ystyried yr iaith Gymraeg yn sgil y mae ei hangen yn y gweithle, yn enwedig o fewn y sector cyhoeddus lle mae gofyn a galw am wasanaeth dwyieithog.  

Pob blwyddyn mae ugeiniau o bobl yn mynychu dosbarthiadau Cymraeg i wella rhagolygon eu gyrfa, a dyma pam:

  • Mae'n fwy tebygol y bydd gweithwyr gyda sgiliau dwyieithog yn ennill rhwng 8 a 10% yn rhagor na'r rhai heb sgiliau dwyieithog
  • Mae sgiliau iaith Gymraeg yn gaffaeliad pwysig ym mhob sefydliad yn y sector cyhoeddus
  • Gyda nifer y siaradwyr Cymraeg yn dal i gynyddu, bydd y galw am wasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn cynyddu hefyd  

Cymraeg i'r Teulu

Gyda rhagor a rhagor o blant yn elwa ar fanteision addysg ddwyieithog a dysgu Cymraeg yn yr ysgol, mae llawer o rieni ac aelodau eraill o'r teulu eisiau bod yn rhan o'r holl beth.  Mae llawer o'n cyrsiau wedi eu trefnu ar gyfer amserau a lleoliadau sy'n hwylus i rieni ac rydym hefyd yn cynnig cyrsiau penodol sy'n fodd i chi ddysgu rhywfaint o Gymraeg y gallwch ei defnyddio gyda'r plant.

Dilyniant - Arholiadau

Mae llawer o ddysgwyr yn darganfod bod ennill cymhwyster yn ffordd dda o gofnodi eu cynnydd ac yn gymhelliant i adolygu!

Mae CBAC yn cynnig cymhwyster ar bedair lefel i oedolion sy'n dysgu Cymraeg yng nghyfres arholiadau Defnyddio'r Gymraeg.  Y lefelau yw: Mynediad, Sylfaen, Canolradd ac Uwch.

Cyrsiau Dydd

Unwaith y bydd eich cwrs wedi dechrau, gallwch hefyd roi hwb i'ch rhaglen ddysgu drwy fynychu cyrsiau undydd Sadwrn Siarad a chyrsiau bloc, megis cyrsiau yn ystod y Pasg a'r Haf. Fel arfer, cânt eu cynnal yn ein Canolfannau Dysgu Cymunedol.

Darperir hyfforddiant ar bob lefel ac mae nifer yr oriau cyswllt yn cyfateb i o leiaf ddau ddosbarth nos.

ID: 1938, adolygwyd 27/03/2023

Sgiliau Hanfodol

Hoffech chi wella eich sgiliau darllen, ysgrifennu, sillafu neu fathemateg? Neu a ydych chi'n adnabod rhywun a fyddai'n elwa ar gael cymorth unigol?

Mae Sir Benfro yn Dysgu yn darparu dosbarthiadau AM DDIM  i oedolion ledled Sir Benfro.

Bydd cyfweliad cydgyfrinachol yn cael ei gynnig i bawb, cyn iddynt ymuno â dosbarth.  Yna bydd Cynllun Dysgu Unigol yn cael ei gytuno gyda chi, er mwyn ichi allu gweithio wrth eich pwysau, a fesul camau sy'n addas i chi, mewn man ymlaciol a chyfeillgar. 

Gallwn ni roi cymorth i ddysgwyr sydd ag anawsterau dysgu difrifol, hyd at y bobl hynny sy'n dymuno gloywi eu sgiliau neu sydd am gael cymorth er mwyn ennill TGAU neu NVQ.

I ymuno â dosbarth hoffem siarad â chi yn gyntaf: ffoniwch 0808 100 3302, e-bostiwch Essential.Skills@pembrokeshire.gov.uk neu galwch mewn i'ch canolfan ddysgu gymunedol agosaf

 

ID: 1939, adolygwyd 17/01/2023

Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill (ESOL)

Os ydych wedi symud i fyw neu i weithio yn y Deyrnas Unedig ac yn dymuno gwella eich sgiliau Saesneg, yna mae dosbarthiadau ESOL yn addas ar eich cyfer.

Mae yna ddosbarthiadau ar gael i'ch helpu os oes gennych ychydig o sgiliau Saesneg yn unig, neu ddim o gwbl, yn ogystal â dosbarthiadau i'ch helpu os ydych yn dymuno gwella eich sgiliau Saesneg.     

  • Dosbarthiadau i Ddechreuwyr (Cyn-mynediad a Mynediad 1) os oes gennych ychydig o sgiliau Saesneg yn unig, neu ddim o gwbl
  • Dosbarthiadau Mynediad 2-3 – os ydych yn meddu ar rywfaint o sgiliau Saesneg ac yn dymuno dysgu rhagor
  • Dosbarthiadau Mynediad 3/Lefel 1 – os ydych yn dymuno gwella eich sgiliau Saesneg

Am ragor o wybodaeth ffoniwch 0808 100 3302, e-bostiwch ESOL@pembrokeshire.gov.uk

neu galwch mewn i'ch canolfan ddysgu gymunedol agosaf

 

 

ID: 1940, adolygwyd 17/01/2023

Cyrsiau iechyd a lles

Mae Sir Benfro yn Dysgu yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau sy'n gallu cyfrannu at eich iechyd a'ch lles.

Os ydych chi'n gobeithio ymlacio a hamddena, yn ogystal â gwella pa mor ystwyth ydych chi, rydym yn cynnig y dosbarthiadau hyn - ymarfer corff cymedrol, pilates, tai chi a ioga.

Rydym hefyd yn cynnal cyrsiau ymarferol ar gymorth cyntaf a hylendid bwyd, y mae'r ddau ohonynt yn arwain at gymhwyster.

Yn ein Gweithdai ar Fyw mewn modd Cynaliadwy a Hamdden fe gewch ddigonedd o gyfle i drafod pethau.  Maent hefyd yn ffordd wych o fwrw golwg fanylach ar y pynciau hyn er mwyn eu deall yn well.

ID: 1942, adolygwyd 05/07/2022

Sgiliau a Gweithgareddau Eraill

Sgiliau creadigol a pherfformio

Os ydych chi erioed wedi breuddwydio am allu dawnsio, canu offeryn cerdd, ysgrifennu llyfr neu beintio llun . . .

Neu efallai eich bod yn dymuno mynd i'r afael â'ch camera digidol a newid maint neu ailgaboli eich ffotograffau . . .

Neu efallai eich bod yn dyheu am fod yn greadigol mewn ffyrdd eraill; gwneud eich gemwaith, cardiau cyfarch neu'ch cerameg eich hun. . .

Neu efallai taw'r unig beth yr ydych yn ei ddymuno yw joio eich hun a chwrdd â phobl newydd . . .

Ni waeth beth yw'ch diddordeb penodol, mae gan Sir Benfro yn Dysgu ddosbarthiadau bach, cyfeillgar ym maes sgiliau creadigol a pherfformio. Gallant fod yn fodd i hybu hunanhyder yn eich dewis faes a'ch helpu i wireddu eich breuddwydion!

Mae'r cyrsiau'n addas ar gyfer dechreuwyr pur, yn ogystal â'r bobl hynny sy'n dymuno meithrin ac ymarfer eu sgiliau.

Diddordebau cyffredinol

Byddwn yn ceisio darparu amrywiaeth eang o gyrsiau sy'n addas ar gyfer pawb - trigolion a busnesau Sir Benfro. Ni waeth beth yr ydych am ei wneud - meithrin sgiliau a diddordebau newydd, dilyn cwrs er mwyn ennill cymhwyster neu hybu eich gobeithion gyrfaol, mae ein cyrsiau'n rhoi'r cyfle perffaith ichi.

Mae'r adran hon yn ymdrin ag amrywiaeth eang o gyrsiau sy'n darparu ar gyfer pobl sydd am feithrin sgiliau mewn hobïau a difyrion poblogaidd, yn ogystal ag un neu ddau o ddiddordebau arbenigol. 

Ymysg ein cyrsiau ymarferol mae yn ogystal â sgiliau mordwyo - y gellir eu hastudio hyd at lefel cymhwyster y RYA.

Ar ben hynny bydd cyrsiau ar ffotograffiaeth draddodiadol (ar gyfer ffotograffiaeth ddigidol a llawdrin delweddau, chwiliwch o dan TG/Cyfriadura), barddoniaeth a hanes.

Mae gyda ni ddewis o gyrsiau hanes, fel hanes lleol, hanes cenedlaethol a'r cwrs mwy ymarferol sy'n olrhain hanes eich teulu - ar gyfer y bobl hynny sy'n dymuno cael gwybod y gwir am eu gwreiddiau.

Ieithoedd modern

Mae dysgu iaith newydd yn gallu bod yn fater hwyliog a gwerth chweil.  Efallai eich bod yn bwriadu mynd dramor ar wyliau neu gymryd y camau cyntaf tuag at fywyd newydd mewn gwlad dramor.  Ni waeth beth yw'ch rhesymau, mae gan Sir Benfro yn Dysgu amrywiaeth aruthrol o gyrsiau iaith sy'n addas ar gyfer pawb - o'r dechreuwr pur hyd at y dysgwr uwchraddol.

Pa ieithoedd allaf i eu dysgu?

Ar hyn o bryd mae cyrsiau ar gael yn yr ieithoedd hyn:

  • Almaeneg
  • Eidaleg
  • Ffrangeg
  • Groeg
  • Rwseg
  • Sbaeneg

Sut fyddaf i'n gwybod pa lefel y bydd arnaf ei hangen?

Cyrsiau gwyliau:  Bwriad y cyrsiau hyn yw rhoi sgiliau hanfodion iaith i chi er mwyn ichi allu mwynhau a manteisio i'r eithaf ar eich gwyliau mewn gwlad dramor.  Byddwch yn dod i ddeall, mewn modd ymarferol, beth yw hanfodion yr iaith a byddwch yn deall sut i gyfathrebu'n llwyddiannus.

Blwyddyn 1:  Nod y cwrs hwn yw eich rhoi ar ben y ffordd, mewn modd syml, ynghylch beth yw strwythur yr iaith a'ch galluogi i ddefnyddio'r iaith yn effeithiol mewn nifer o sefyllfaoedd bob dydd.  Mae'r cwrs hwn yn addas i bobl nad ydynt yn gwybod fawr ddim am yr iaith.

Blwyddyn 2:  Bwriad y cwrs hwn yw meithrin yr hyn a wyddoch am yr iaith. Bydd yn cynorthwyo pobl i ymdrin, yn hyderus, ag amrywiaeth o sefyllfaoedd ac i sgwrsio am wahanol bynciau, yn cynnwys y gorffennol a'r dyfodol.  Dylai'r myfyrwyr fod wedi dilyn cwrs rhagarweiniol neu dylent feddu ar beth profiad o astudio/siarad yr iaith.

Blwyddyn 3:  Cwrs canolradd yw hwn ac fe gaiff ei anelu at y bobl hynny sydd â gwybodaeth sylfaenol, gadarn o'r iaith.  Bydd yn eich cynorthwyo i feithrin y sgiliau cyfathrebu gan ddefnyddio amrywiaeth o amserau'r ferf, gramadeg a geirfa.  Dylai'r myfyrwyr fod wedi cwblhau cwrs rhagarweiniol neu dylent feddu ar 1-2 flynedd o brofiad o astudio'r iaith.

Blwyddyn 4:  Bydd y cwrs hwn yn eich cynorthwyo i feithrin rhagor ar eich sgiliau iaith, trwy gyfrwng astudio uwch ramadeg, testun a recordiadau cyfoes, ac agweddau eraill ar ddiwylliant cyfoes.  Bydd y dosbarthiadau'n rhoi'r cyfle ichi ddod yn fwy rhugl a deall yr iaith yn well, a hyn i gyd mewn awyrgylch agored a chyfeillgar.  Dylai'r myfyrwyr fod wedi astudio'r iaith ers o leiaf 2-3 blynedd.

Blwyddyn 5:  Cwrs lefel uwch yw hwn sydd wedi'i anelu at y bobl hynny sydd wedi astudio'r iaith ers 3-4 blynedd ac sy'n dymuno ymarfer eu sgiliau siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu yn yr iaith ar lefel uwch.

Pa gymwysterau sydd ar gael?

Er bod rhai o'r dosbarthiadau'n cael eu hachredu, nid yw pob un ohonynt yn arwain at gymhwyster ffurfiol.  Fodd bynnag, fe gewch adborth yn rheolaidd gan eich tiwtor ynghylch y cynnydd yr ydych yn ei wneud ac fe gewch gynllun dysgu unigol i gofnodi eich nodau a'ch llwyddiannau personol.

Am faint mae'r cwrs yn para?

Bydd y cyrsiau'n cael eu cynnal am rhwng un awr a dwy awr yr wythnos, a hynny dros dri thymor o 10 wythnos yr un.  Fel rheol caiff cyrsiau gwyliau eu cynnal dros gyfnod o un neu ddau dymor yn unig.

ID: 1943, adolygwyd 29/09/2022

Cymwysterau

Mae ennill cymwysterau’n gallu eich helpu i symud ymlaen yn eich gyrfa bresennol neu gymryd eich camau cyntaf tuag at swydd newydd neu gwrs astudio uwch.

Weithiau, mae’n gallu bod yn anodd dod o hyd i amser i ennill cymwysterau newydd, yn enwedig os ydych chi eisoes yn cydbwyso gofynion gwaith a theulu. Trwy ddarparu cyrsiau mewn lleoliadau lleol ac ar wahanol adegau yn ystod y dydd, mae Sir Benfro yn Dysgu yn gallu hwyluso pethau i chi.

Yn y DU, dyfernir cymwysterau gan amrywiaeth o wahanol sefydliadau.

Ar hyn o bryd, mae Sir Benfro yn Dysgu yn darparu cyrsiau sy’n arwain at gymwysterau a ddyfernir gan y sefydliadau canlynol:

Hefyd, rydym yn cynnig cyrsiau sy’n arwain at gymwysterau Cymorth Cyntaf a Diogelwch Bwyd.

Mae Agored Cymru yn achredu cyrsiau byr, ymarferol. Mae Sir Benfro yn Dysgu yn cynnig yr achrediad hwn mewn amrywiaeth o sgiliau, fel sgiliau digidol a chyfrifiadurol, rhifedd, llythrennedd, cyfathrebu a Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL).

Cymdeithas Gyfrifiadurol Prydain (BCS)

Cafodd Tystysgrif Ryngwladol Llythrennedd Digidol (ICDL) yn gymhwyster cyflogaeth uchel iawn ei barch. Mae Sir Benfro yn Dysgu yn cynnig Dyfarniad ICDL lefel 1, Dyfarniad ICDL lefel 2 ac ICDL Uwch.

Unedau unigol ICDL lefel 1 – Prosesu geiriau, taenlenni a chyflwyno.

Dyfarniad ICDL lefel 1 – Mae’n eich addysgu sut i reoli’r peryglon sy’n gysylltiedig â defnyddio cyfrifiaduron, fel sbam a dwyn hunaniaeth, sut i drefnu’ch cyfrifiadur a sut i ddefnyddio’r rhyngrwyd ac e-bost.

Mae Dyfarniad ICDL lefel 2 yn datblygu eich sgiliau yn 3 o’r unedau canlynol – prosesu geiriau, taenlenni, cyflwyniadau neu gronfeydd data.

Mae ICDL Uwch (lefel 3) yn dangos eich bod yn hyderus, yn fedrus ac yn effeithlon wrth ddefnyddio ystod o raglenni cyfrifiadurol gwahanol. Mae pedwar modiwl, sef prosesu geiriau, taenlenni, cronfeydd data a chyflwyniadau, ac mae tystysgrif unigol ar gael ar gyfer pob un.

Y Gymdeithas Frenhinol dros Hwylio (RYA)

Ar hyn o bryd, mae Sir Benfro yn Dysgu yn cynnig cymwysterau Capten Dydd ar y Lan yr RYA a Chapten Arfordirol/Iotfeistr Pell o’r Lan yr RYA mewn rhai canolfannau.

Canolfan Hyfforddi Gydnabyddedig:
Canolfan Dysgu Cymunedol Abergwaun, Ysgol Bro Gwaun, Abergwaun SA65 9DT

Mae yna hefyd ddwy ganolfan loeren:
Canolfan Dysgu Cymunedol Doc Penfro, Sgwâr Albion, Doc Penfro SA72 6XF a Chanolfan Dysgu Cymunedol Dinbych-y-pysgod, Greenhill Avenue, Dinbych-y-pysgod SA70 7LB

Cyd-bwyllgor Addysg Cymru (WJEC)

Tystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd (TGAU)
Os na lwyddoch i ennill y rhain, neu os hoffech gael gwell graddau, rydym yn cynnig cyfle i chi astudio Saesneg a Mathemateg. 

Hefyd, rydym yn cynnig cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru ar wahanol lefelau mewn Cymhwyso Rhif ac mewn Cyfathrebu.

Cymraeg  

Mae llawer o bobl sy’n dysgu Cymraeg yn sylweddoli bod ennill cymhwyster yn ffordd dda o wella eu rhagolygon swyddi neu fonitro eu cynnydd. 

Mae CBAC yn cynnig cymwysterau ar bedair lefel i oedolion sy’n dysgu Cymraeg, yn y gyfres "Defnyddio'r Gymraeg". Y lefelau yw Mynediad, Sylfaen, Canolradd ac Uwch. 

 

ID: 1945, adolygwyd 27/03/2023

Gwasanaethau Busnes TG Cymunedol

Mae Sir Benfro yn Dysgu yn gallu sefydlu, cefnogi a darparu hyfforddiant i fusnesau lleol. 

I gael y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y rhaglen gyfredol a’r taliadau, ffoniwch TG Cymunedol Sir Benfro yn Dysgu ar 01437 770130.

Dosbarthiadau cyfrifiaduron

Mae Sir Benfro yn Dysgu yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau byr sy’n addas i ddechreuwyr a defnyddwyr profiadol. Mae’r dosbarthiadau’n fach ac yn gyfeillgar, gyda phwyslais ar waith ymarferol.

Hefyd, rydym yn cynnig cyrsiau o wahanol hydoedd – o weithdai hanner diwrnod i raglenni 5 i 10 wythnos.

Cynhelir y cyrsiau hyn yn rheolaidd yn ein Canolfannau Dysgu:

  • Tŷ Bloomfield, Arberth
  • Crymych
  • Abergwaun
  • Hwlffordd
  • Penfro
  • Dinbych-y-pysgod

Neu, gellir trefnu hyfforddiant ar eich safle busnes.

Cyngor ar Hyfforddiant Cyfrifiadurol

Mae Sir Benfro yn Dysgu ar gael i gynghori busnesau ar eu hanghenion hyfforddi. Os hoffech help a chyngor ar ganfod a threfnu hyfforddiant addas i’ch staff, cysylltwch ar 01437 770130. Mae’r gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim.

Hyfforddiant wedi ei Deilwrio'n Arbennig

Gellir trefnu hyfforddiant wedi’i addasu’n arbennig i fodloni eich anghenion penodol.

Cysylltwch â TG Cymunedol Sir Benfro yn Dysgu ar 01437 770130 i drafod eich gofynion.

Mynediad i gyfleusterau ac offer cyfrifiadurol

Mae Canolfannau Dysgu Cymunedol yn cynnig amrywiaeth o gyfleusterau trwy drefniant:

  • Defnyddio cyfarpar TG
  • Mynediad i’r rhyngrwyd
  • Lleoliad ar gyfer cyfarfodydd, grwpiau, digwyddiadau a chynadleddau
  • Mae gliniaduron symudol ar gael

Cysylltwch â ni am ragor o fanylion: Ein Canolfannau

Arweiniad - gallwn ni eich helpu

  • Ddim yn gallu dod o hyd i'r cwrs iawn?
  • Wedi drysu gyda'r hyn sydd ar gael?
  • Eisiau help i benderfynu pa gwrs sy'n addas i chi?
  • Eisiau gwella neu ennill cymwysterau?

Mae Sir Benfro yn Dysgu yn darparu amrywiaeth helaeth o gyrsiau digidol a llwybrau cynnydd sy’n addas ar gyfer unrhyw allu.

Os hoffech help a chyngor i ddewis cwrs, mae croeso i chi ffonio Arberth ar 01437 770130.

ID: 1946, adolygwyd 29/09/2022

Ein Cyrsiau

Ein nod yw darparu ystod eang o gyrsiau sy'n addas i'n holl gwsmeriaid – trigolion a busnesau Sir Benfro. Os ydych am ddatblygu sgiliau a diddordebau newydd, gweithio tuag at gymhwyster, neu wella eich rhagolygon gyrfa, mae ein cyrsiau'n darparu'r cyfle lleol delfrydol.

Yn ogystal â chael eu cynnal mewn llawer o leoliadau gwahanol ledled y Sir, mae rhai o gyrsiau Dysgu Sir Benfro hefyd yn cael eu darparu ar-lein, gan ei gwneud yn haws nag erioed dod o hyd i amser addas i chi. Rydym hefyd yn gallu darparu hyfforddiant pwrpasol i fusnesau; boed hynny ar gyfer unigolyn neu sefydliad cyfan, gallwn deilwra'r hyfforddiant i ddiwallu anghenion penodol.

Chwilio am Gyrsiau

Cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg

Er mwyn iddi fod yn ariannol hyfyw inni gynnal cyrsiau, rydym angen nifer isaf o bobl i gymryd rhan.  Ein nod yw darparu cyrsiau’n ddwyieithog lle bynnag y bo modd.  Wrth ichi holi ynghylch ymgymryd â chwrs, byddwn yn gofyn ichi a hoffech chi ddilyn y cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig.  Byddwn yn darparu cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig pan mae niferoedd yn cyrraedd y lefel isaf.

ID: 1935, adolygwyd 27/03/2023

Sgiliau Digidol

Ni waeth a ydych chi’n chwilio am waith neu hamdden, mae gyda ni’r cwrs cyfrifiadurol iawn ar eich cyfer chi.

Mae Cyrsiau Lefel Ragarweiniol fel y Llythrennedd digidol - Camau cyntaf yn berffaith i’r dechreuwr pur neu beth am ichi roi cynnig ar ein cyrsiau meithrin sgiliau os ydych chi’n dymuno datblygu rhagor ar eich sgiliau.

Llythrennedd Digidol - Rhagor o sgiliau - Galluogi dysgwyr i weithio a chyfathrebu ar-lein mewn modd diogel a chyfrifol gydag ymwybyddiaeth o’u hôl-troed digidol personol.  Rhyngweithio’n ddiogel ar-lein, dysgu sut i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol a defnyddio diogelwch cyffredinol i ddiogelu eich dyfeisiau digidol a’ch gwybodaeth.

Bydd nifer fawr o’n cyrsiau, gan gynnwys cwrs sgiliau Microsoft Office ac ICDL yn arwain at gymhwyster ITQ. Mae ITQ yn ddull hyblyg o ennill sgiliau cyfrifiadurol newydd a chael cymhwyster gwerthfawr ar yr un pryd, ni waeth beth yw’ch rheswm dros wneud hynny - gwella eich gobeithion gyrfaol neu eich cynorthwyo i deimlo’n fwy hyderus pan fyddwch chi’n defnyddio cyfrifiadur yn eich amser hamdden.

Os gwyddoch chi rywfaint am TG yn barod, yna peidiwch â becso. Byddwn yn cymryd i ystyriaeth unrhyw gymwysterau cydnabyddedig yr ydych wedi eu hennill eisoes er mwyn sicrhau nad oes rhaid ichi drin a thrafod pynciau yr ydych yn eu deall yn barod.

Dim amser am gwrs hir? Beth am roi cynnig ar un o’n gweithdai blasu hanner diwrnod?

Heb weld eich dewis gwrs chi? Yna mae croeso ichi ffonio TG Gymunedol ar 01437 770130 neu anfon e-bost at communityit.learning@pembrokeshire.gov.uk er mwyn ichi gael trafod eich anghenion â’n tîm cyfeillgar.

ID: 1936, adolygwyd 27/03/2023