Ein Gwasanaeth
Cymwysterau cyflogaeth
Mae Sir Benfro yn Dysgu yn cynnig nifer o gyrsiau sy'n darparu cymhwyster sy'n ddefnyddiol ar gyfer gwaith a bywyd. Cyrsiau byr yw'r rhain fel arfer.
- Cymorth Cyntaf Brys yn y Gwaith
- Cymorth Cyntaf Brys i Blant
- Diogelwch Bwyd mewn Arlwyo
- Arlwywyr mewn Rheoli Alergenau Bwyd
- Trwyddedu Personol
Ddim yn gweld yr hyn yr ydych yn chwilio amdano? Ffoniwch y Gwasanaethau Canolog ar 01437 770130 neu e-bostiwch learn@pembrokeshire.gov.uk i drafod eich gofynion gyda'n tîm cyfeillgar.
Ieithoedd
Mae dysgu iaith newydd yn gallu bod yn fater hwyliog a gwerth chweil. Efallai eich bod yn bwriadu mynd dramor ar wyliau neu gymryd y camau cyntaf tuag at fywyd newydd mewn gwlad dramor. Ni waeth beth yw'ch rhesymau, mae gan Sir Benfro yn Dysgu amrywiaeth aruthrol o gyrsiau iaith sy'n addas ar gyfer pawb - o'r dechreuwr pur hyd at y dysgwr uwchraddol.
Pa ieithoedd allaf i eu dysgu?
Ar hyn o bryd mae cyrsiau ar gael yn yr ieithoedd hyn:
- Eidaleg
- Ffrangeg
- Sbaeneg
Sut fyddaf i'n gwybod pa lefel y bydd arnaf ei hangen?
Cyrsiau gwyliau: Bwriad y cyrsiau hyn yw rhoi sgiliau hanfodion iaith i chi er mwyn ichi allu mwynhau a manteisio i'r eithaf ar eich gwyliau mewn gwlad dramor. Byddwch yn dod i ddeall, mewn modd ymarferol, beth yw hanfodion yr iaith a byddwch yn deall sut i gyfathrebu'n llwyddiannus.
Blwyddyn 1: Nod y cwrs hwn yw eich rhoi ar ben y ffordd, mewn modd syml, ynghylch beth yw strwythur yr iaith a'ch galluogi i ddefnyddio'r iaith yn effeithiol mewn nifer o sefyllfaoedd bob dydd. Mae'r cwrs hwn yn addas i bobl nad ydynt yn gwybod fawr ddim am yr iaith.
Blwyddyn 2: Bwriad y cwrs hwn yw meithrin yr hyn a wyddoch am yr iaith. Bydd yn cynorthwyo pobl i ymdrin, yn hyderus, ag amrywiaeth o sefyllfaoedd ac i sgwrsio am wahanol bynciau, yn cynnwys y gorffennol a'r dyfodol. Dylai'r myfyrwyr fod wedi dilyn cwrs rhagarweiniol neu dylent feddu ar beth profiad o astudio/siarad yr iaith.
Blwyddyn 3: Cwrs canolradd yw hwn ac fe gaiff ei anelu at y bobl hynny sydd â gwybodaeth sylfaenol, gadarn o'r iaith. Bydd yn eich cynorthwyo i feithrin y sgiliau cyfathrebu gan ddefnyddio amrywiaeth o amserau'r ferf, gramadeg a geirfa. Dylai'r myfyrwyr fod wedi cwblhau cwrs rhagarweiniol neu dylent feddu ar 1-2 flynedd o brofiad o astudio'r iaith.
Blwyddyn 4: Bydd y cwrs hwn yn eich cynorthwyo i feithrin rhagor ar eich sgiliau iaith, trwy gyfrwng astudio uwch ramadeg, testun a recordiadau cyfoes, ac agweddau eraill ar ddiwylliant cyfoes. Bydd y dosbarthiadau'n rhoi'r cyfle ichi ddod yn fwy rhugl a deall yr iaith yn well, a hyn i gyd mewn awyrgylch agored a chyfeillgar. Dylai'r myfyrwyr fod wedi astudio'r iaith ers o leiaf 2-3 blynedd.
Blwyddyn 5: Cwrs lefel uwch yw hwn sydd wedi'i anelu at y bobl hynny sydd wedi astudio'r iaith ers 3-4 blynedd ac sy'n dymuno ymarfer eu sgiliau siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu yn yr iaith ar lefel uwch.
Pa gymwysterau sydd ar gael?
Er bod rhai o'r dosbarthiadau'n cael eu hachredu, nid yw pob un ohonynt yn arwain at gymhwyster ffurfiol. Fodd bynnag, fe gewch adborth yn rheolaidd gan eich tiwtor ynghylch y cynnydd yr ydych yn ei wneud ac fe gewch gynllun dysgu unigol i gofnodi eich nodau a'ch llwyddiannau personol.
Am faint mae'r cwrs yn para?
Bydd y cyrsiau'n cael eu cynnal am rhwng un awr a dwy awr yr wythnos, a hynny dros dri thymor o 10 wythnos yr un. Fel rheol caiff cyrsiau gwyliau eu cynnal dros gyfnod o un neu ddau dymor yn unig.
Creadigol a Pherfformio
Os ydych chi erioed wedi breuddwydio am allu dawnsio, canu offeryn cerdd, ysgrifennu llyfr neu beintio llun . . .
Neu efallai eich bod yn dymuno mynd i'r afael â'ch camera digidol a newid maint neu ailgaboli eich ffotograffau . . .
Neu efallai eich bod yn dyheu am fod yn greadigol mewn ffyrdd eraill; gwneud eich gemwaith, cardiau cyfarch neu'ch cerameg eich hun. . .
Neu efallai taw'r unig beth yr ydych yn ei ddymuno yw joio eich hun a chwrdd â phobl newydd . . .
Ni waeth beth yw'ch diddordeb penodol, mae gan Sir Benfro yn Dysgu ddosbarthiadau bach, cyfeillgar ym maes sgiliau creadigol a pherfformio. Gallant fod yn fodd i hybu hunanhyder yn eich dewis faes a'ch helpu i wireddu eich breuddwydion!
Mae'r cyrsiau'n addas ar gyfer dechreuwyr pur, yn ogystal â'r bobl hynny sy'n dymuno meithrin ac ymarfer eu sgiliau.
Taflen cwrs
Yn cynnig cyrsiau mewn lleoliadau cymunedol ac ar-lein.
Dysgu heddiw ar gyfer yfory gwell. Dewiswch eich cwrs ac archebwch nawr!
Ar y dudalen hon:
Sut i gadw lle
Mae gwybodaeth ar sut i gofrestru ar gael ar ran uchaf bob tudalen fesul categori cwrs. Mae gwybodaeth y Canolfannau Dysgu Cymunedol ar waelod y dudalen.
Sgiliau Hanfodol
Ar gyfer dosbarthiadau Saesneg, Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill, Mathemateg neu Sgiliau Digidol, ffoniwch Rhadffôn 0808 100 3302 drefnu trafodaeth bersonol er mwyn dewis y cwrs iawn i chi.
Saesneg
Ydych chi eisiau gwella eich sgiliau siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu Saesneg ar gyfer eich hun, eich teulu neu ar gyfer eich gwaith?
Gall cyrsiau Sgiliau Hanfodol rhad ac am ddim eich helpu i ddatblygu eich sgiliau Saesneg o lefel mynediad 1 hyd at lefel sy’n gyfwerth â TGAU.
Sgiliau Hanfodol Cymru - Cyfathrebu, Llythrennedd, Sgiliau Bywyd, Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill, Bywyd yn y DU, Prawf Gyrru - Theori
Mathemateg
A oes angen i chi wella’ch sgiliau mathemateg i’ch helpu gartref, rhoi cymorth i’ch teulu neu ennill cymhwyster ar gyfer gwaith?
Gall ein cyrsiau Mathemateg rhad ac am ddim eich helpu i ennill tystysgrif o lefel Mynediad hyd at lefel sy’n gyfwerth â TGAU.
Sgiliau Hanfodol Cymru - Cymhwyso Rhif, Rhifedd
Sgiliau Llythrennedd Digidol
Ydych chi’n awyddus i ddatblygu eich sgiliau digidol? Gall dosbarthiadau lefel Mynediad Rhad ac am ddim eich helpu i ennill sgiliau newydd. Mae angen talu ffi ar gyfer rhai cyrsiau lefel uwch sy’n mynd hyd at lefel 2.
Sgiliau Digidol:
- Camau Cyntaf a Rhagor o Sgiliau
- Microsoft Office
- Defnyddio eich tabled
- Windows
- Tystysgrif Ryngwladol Llythrennedd Digidol (ICDL)
Cyrsiau Cymwysterau
I ymuno ag unrhyw gwrs TGAU neu gwrs cymwysterau, ffoniwch eich canolfan leol neu ewch i’n gwefan Sir Benfro yn dysgu ac archebwch gan ddefnyddio Fy Nghyfrif Cyngor Sir Penfro.
A oes angen unrhyw gymwysterau arnoch i’ch helpu i symud ymlaen yn y gwaith neu wella sgiliau i gael cyflogaeth?
Gall cymwysterau mewn Cymorth Cyntaf Brys, Diogelwch Bwyd a Chymorth Cyntaf Pediatrig Brys eich helpu.
TGAU
Oes angen TGAU arnoch i wella eich rhagolygon gwaith neu i fynd i addysg bellach?
Mae Sir Benfro yn Dysgu yn cynnal cyrsiau TGAU mewn Saesneg a Mathemateg.
Cymorth Cyntaf Brys yn y Gwaith, Cymorth Cyntaf Pediatrig Brys, Diogelwch Bwyd ym Maes Arlwyo, TGAU Saesneg Iaith - CBAC, TGAU Mathemateg - CBAC, Trwyddedu Personol
Y Gymraeg
I gofrestru ar gwrs Cymraeg, ewch i Dysgu Cymraeg (yn agor mewn tab newydd) neu, am ragor o wybodaeth, e-bost neu ffoniwch 01437 770180
Oes gennych chi ddiddordeb mewn gwella eich defnydd o’r Gymraeg gartref, yn y gwaith neu yn eich cymuned?
Mae Dysgu Cymraeg Sir Benfro yn rhedeg cyrsiau o lefel Mynediad, hyd at lefel Sylfaen, Canolradd Uwch a Gloywi. Ni fu erioed yn haws dod o hyd i gwrs sy’n iawn i chi naill ai ar-lein neu yn eich canolfan ddysgu leol.
Mae pob lefel heblaw Gloywi yn cynnig arholiad CBAC.
- Mynediad
- Sylfaen
- Canolradd
- Uwch
- Gloywi
Ieithoedd
I ymuno ag unrhyw gwrs iaith, ffoniwch eich canolfan leol neu ewch i’n gwefan Sir Benfro yn dysgu i archebu gan ddefnyddio Fy Nghyfrif Cyngor Sir Penfro
Ydych chi eisiau datblygu eich gallu i gyfathrebu mewn iaith arall?
Mae Sir Benfro yn Dysgu yn cynnal amrywiaeth o gyrsiau iaith o lefel Mynediad i lefel Uwch. Gall ein cyrsiau eich helpu wrth deithio dramor ar gyfer gwaith neu bleser yn ogystal â’ch cefnogi i gyfathrebu â phobl sy’n ymweld neu’n byw yn Sir Benfro nad ydynt yn siarad Saesneg fel eu hiaith gyntaf.
- Ffrangeg - lefel Mynediad a lefel Sylfaen
- Eidaleg - lefel Sylfaen
- Sgwrsio Eidaleg
- Sbaeneg - lefel Mynediad, lefel Sylfaen a lefel Uwch
- Sbaeneg sgwrsiol
Diddordeb Cyffredinol
I ymuno ag unrhyw gwrs Diddordeb Cyffredinol, ffoniwch eich canolfan leol neu ewch i’n gwefan Sir Benfro yn dysgu i archebu gan ddefnyddio Fy Nghyfrif Cyngor Sir Penfro
Oes gennych chi ddiddordeb mewn darganfod mwy am sut mae pobl a lleoedd wedi esblygu dros amser?
Bydd cyrsiau Hanes a Seicoleg Sir Benfro yn Dysgu yn eich helpu i ddatblygu gwell dealltwriaeth o sut mae pobl wedi esblygu dros amser. Pa bynnag faes astudio y byddwch yn cychwyn arno, byddwch yn siŵr o fod ar daith ddiddorol yn darganfod!
- Tsieina ac Iaith Tsieina
- Hanes - Cymysgedd canoloesol / Adeiladu ymerodraeth
- Hanes Celfyddyd
- Ffotograffiaeth - Ddigidol sylfaenol / Datblygu sgiliau pellach
Iechyd a Llesiant
I ymuno â chwrs Iechyd a Llesiant, ffoniwch eich canolfan leol neu ewch i’n gwefan Sir Benfro yn dysgu ac archebwch gan ddefnyddio Fy Nghyfrif Cyngor Sir Penfro.
Ydych chi eisiau teimlo’n well a gwella’ch ffitrwydd trwy ymarfer corff ysgafn?
Os mai ‘ydw’ yw’r ateb, yna mae gan Sir Benfro yn Dysgu ystod wych o gyrsiau i chi ddewis o’u plith, dan arweiniad tiwtoriaid profiadol, gofalgar a chefnogol iawn. Beth bynnag fo lefel eich profiad neu ffitrwydd, gall ein tiwtoriaid ddarparu ar gyfer eich anghenion a byddwch yn teimlo’n well o’r herwydd.
- Pilates
- Pilates - Ymestyn ac ystwytho
- Tai Chi
- Ioga, Ioga - Cardio a chryfder / Ioga cadair / Ymlacio, anadl, myfyrdod a sain / Ioga ar gyfer pobl dros 50 mlwydd oed
Y Celfyddydau Creadigol
I ymuno â chwrs Creadigol, ffoniwch eich canolfan leol neu ewch i’n gwefan Sir Benfro yn dysgu ac archebwch gan ddefnyddio Fy Nghyfrif Cyngor Sir Penfro
Ydych chi eisiau archwilio eich ochr greadigol, datblygu sgiliau newydd neu ddysgu ffyrdd newydd o weithio gyda gwahanol gyfryngau?
Mae gan Sir Benfro yn Dysgu lu o diwtoriaid dawnus a all eich arwain ar lwybr creadigol newydd. Byddwch yn rhyfeddu at yr hyn y gallwch ei gyflawni gyda chymorth ymarferwyr profiadol. Beth bynnag fo’ch man cychwyn … mae gennym gwrs i chi, o Wnïo i Wydr Lliw.
- Celf - pynciau amrywiol
- Paentio brwsh Tseiniaidd
- Ysgrifennu creadigol
- Gwnïo
- Gwnïo Dillad
- Elfennau Photoshop
- Gwydr lliw
- Clustogwaith Traddodiadol
- Gwaith basged helyg
Y Celfyddydau Perfformio
I ymuno â chwrs perfformio, ffoniwch eich canolfan leol neu ewch i’n gwefan Sir Benfro yn dysgu i archebu gan ddefnyddio Fy Nghyfrif Cyngor Sir Penfro
A fyddech chi’n dymuno cael amser ar gyfer mwy o gerddoriaeth yn eich bywyd?
Gall dosbarthiadau Cerddoriaeth Sir Benfro yn Dysgu godi’ch ysbryd, datblygu sgiliau newydd a’ch helpu i wneud ffrindiau newydd. Mae cyrsiau wedi’u cynllunio ar gyfer pobl sydd heb unrhyw brofiad blaenorol a dysgwyr sydd am ddatblygu eu sgiliau ymhellach.
- Gitâr lefel Mynediad
- Canu lefel Mynediad
- Gitâr lefel Ganolradd
- Canu lefel Ganolradd
Sbardun
I gael rhagor o fanylion am gyrsiau Sbardun yn ein 12 ysgol bartner, ewch i dudalen Facebook Sbardun Sir Benfro (yn agor mewn tab newydd) neu ffoniwch 07500 918050.
Hoffech chi ddatblygu sgiliau newydd i helpu eich teulu i ffynnu?
Mae Springboard+ yn cynnal ystod eang o weithgareddau am ddim i gefnogi teuluoedd i ddatblygu
eu Sgiliau Hanfodol trwy ystod eang o weithgareddau hwyliog a diddorol sy’n gysylltiedig â Chwricwlwm Cymru.
Mae Springboard yn newid ei raglen o weithgareddau bob hanner tymor. Ewch i’r Springboard+ Padlet am holl fanylion ein cwrs cyfredol.
- Bro Cleddau
- Fenton
- Johnston
- Ysgol Gynradd Gymunedol Aberdaugleddau
- Neyland
- Ysgol Gymunedol Doc Penfro
- Uned Cyfeirio Disgyblion
- Ysgol Gynradd Dinbych-y-Pysgod
- Waldo Williams
- Ysgol Glannau Gwaun
- Ysgol Hafan y Môr
Coleg Sir Benfro
Yng Ngholeg Sir Benfro mae amrywiaeth enfawr o gyrsiau amser llawn a rhan-amser ar gael i oedolion 19 oed neu hŷn.
P’un a ydych chi’n awyddus i ennill sgiliau a gwybodaeth ychwanegol i roi hwb i’ch gyrfa, eisiau ailhyfforddi mewn sector gwahanol i ddilyn cyfleoedd newydd, neu’n syml yn edrych i ymgymryd â hobi, mae cannoedd o gyrsiau i ddewis ohonynt yn y Coleg.
Mae gennym gyrsiau o lefel mynediad hyd at lefel gradd, felly beth bynnag fo’ch sgiliau presennol gallwn eich helpu i ddod o hyd i’r cwrs sy’n iawn i chi i’ch galluogi i barhau ar eich taith ddysgu.
Cyrsiau
- Cyfrifeg
- Therapi Harddwch
- Cadw Cyfrifon
- Gweinyddu Busnes
- Gwaith Saer
- Gofal Plant
- Cyfrifiadura
- Adeiladu
- Cwnsela
- Ysgrifennu Creadigol
- Marchnata Digidol
- Peirianneg
- Cymorth Cyntaf
- Trin Gwallt
- Iechyd a Diogelwch
- Cynnal a Chadw Cartref
- Lletygarwch
- Ffotograffiaeth
- Crochenwaith
- Adweitheg
- Sgiliau Gwnïo
- Therapi Tylino Chwaraeon
- Weldio a Ffabrigo
- Gwaith Coed
Edrychwch ar ein cyrsiau yn: Coleg Sir Benfro (yn agor mewn tab newydd) neu ffoniwch ein tîm derbyniadau ar 0800 9 776 788 am gyngor ac arweiniad diduedd.
Dod o hyd i’r cwrs iawn i chi
Gyda chymaint o gyrsiau i ddewis o’u plith, gall dewis y cwrs cywir fod yn llethol weithiau, ond peidiwch â phoeni, mae ein tîm derbyniadau cyfeillgar ar gael trwy gydol y flwyddyn i gynnig cyngor ac arweiniad diduedd i helpu i’ch gosod ar y llwybr cywir i gyflawni eich uchelgeisiau yn y dyfodol. Mae arweiniad ar gael naill ai wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu ar-lein a gellir trefnu sesiwn ar adeg sy’n gyfleus i chi.
Cymorth ariannol
Cysylltwch â Chyllid Myfyrwyr ar 01437 753 134 neu e-bostiwch: s.finance@pembrokeshire.ac.uk i weld a ydych yn gymwys i gael cymorth ariannol.
Cysylltiadau
Gallwch ffonio Canolfannau Cymunedol Sir Benfro yn Dysgu am fwy o wybodaeth ac i gadw lle!
Cyrsiau Sgiliau Hanfodol a Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill yn Rhad am ddim
Rhadffôn 0808 100 3302
Dysgu Cymraeg Sir Benfro
01437 770180
learnwelsh@pembrokeshire.gov.uk
Canolfannau Dysgu Cymunedol Gogledd Sir Benfro
01437 770140
northpembs.Learning@pembrokeshire.gov.uk
Canolfannau Dysgu Cymunedol Canolbarth Sir Benfro
01437 770150
midpembs.learning@pembrokeshire.gov.uk
Canolfan Dysgu Cymunedol Doc Penfro
01437 770170
pembrokedock.learning@pembrokeshire.gov.uk
Canolfan Ddysgu Gymunedol Dinbych-y-Pysgod
01437 770190
tenby.learning@pembrokeshire.gov.uk
Sbardun
07500 918050
springboard@pembrokeshire.gov.uk
Swyddfa Gwasanaethau Canolog Arberth
01437 770130
learn@pembrokeshire.gov.uk
Dilynwch ni ar Facebook (yn agor mewn tab newydd)
Sbardun
Prosiect gan Dysgu Sir Benfro yw Sbardun sy’n cynnal ystod eang o gyrsiau hwyliog, am ddim a chyffrous i oedolion a theuluoedd i ddatblygu sgiliau mathemateg a rhifedd mewn 12 o ysgolion cynradd partner yn Sir Benfro.
Pam ymuno â Sbardun?
Trwy ymuno ag un o’n cyrsiau gallwch chi a’ch teulu gael hwyl, dysgu sgiliau newydd, cwrdd â phobl newydd, a symud ymlaen.
Pa fathau o gyrsiau allwch chi eu gwneud?
Mae cyrsiau Sbardun wedi’u cynllunio i oedolion a theuluoedd gael hwyl wrth ddysgu a datblygu sgiliau newydd a hanfodol sy’n ategu pedwar diben craidd y Cwricwlwm newydd i Gymru.
Er bod y rhaglen a gynigir gan y prosiect yn amrywiol ac yn cysylltu â phob maes dysgu a phrofiad, mae sgiliau hanfodol wedi’u gwreiddio’n greadigol yn ein holl weithgareddau mewn ffordd ymarferol ac ystyrlon.
Ble gallaf weld yr amserlenni presennol?
Mae pob ysgol bartner yn rhannu gwybodaeth am ba weithdai sy’n cael eu cynnal yn eu hysgolion trwy eu apiau eu hunain fel ClassDojo, Seesaw a ParentMail. Fodd bynnag, os ydych chi am weld yr amserlenni Sbardun ar gyfer pob maes yn fras, ewch i’r Padlet Sbardun (yn agor mewn tab newydd)
Pwy all gymryd rhan?
Mae cyrsiau Sbardun yn agored i oedolion sydd â phlentyn yn eu teulu sy’n mynychu un o’n 12 ysgol bartner ac sy’n teimlo y byddant yn elwa o gymryd rhan yn ein cyrsiau.
Pryd mae gweithgareddau Sbardun yn cael eu cynnal?
Mae Sbardun yn cynnal rhaglen wahanol o weithgareddau bob ochr i bob hanner tymor. Mae ein sesiynau bore a phrynhawn wedi’u hamseru’n berffaith i gyd-fynd â’r diwrnod ysgol, yn ystod y tymor yn unig.
Ble mae ein gweithgareddau yn digwydd?
Fel arfer, cynhelir cyrsiau Springboard yn ystafelloedd cymunedol pob ysgol gynradd bartner, ond gallant hefyd ddigwydd yn yr awyr agored, gan ddefnyddio tai crwn yr ysgol.
Sut gallwch chi gymryd rhan?
Mae’n hawdd cymryd rhan. Gallwch glicio ar y ddolen cadw lle y mae ysgolion yn ei rhannu ynghyd â’n taflenni yn eu apiau ysgol fel ClassDojo. Fel arall, gallwch anfon neges destun, ffonio neu anfon neges e-bost at y Cynghorydd Sbardun sy’n gyfrifol am ddarparu Sbardun yn eich ysgol bartner. Mae eu manylion cyswllt ar y Padlet Sbardun (yn agor mewn tab newydd)
Sut mae ein cyrsiau yn cael eu hariannu?
Ar hyn o bryd, mae ysgolion yn cefnogi gwaith Springboard yn eu hysgolion priodol ac mae'r prosiect yn ceisio cyllid cyfatebol gan gyrff dyfarnu grantiau sy'n gysylltiedig â gwahanol feysydd dysgu.
I drafod sut y gallech weithio gyda phrosiect Sbardun, cysylltwch â:
Laura Phillips, Cydlynydd Sbardun
Ffôn: 07500 918 050
E-bost: laura.phillips@pembrokeshire.gov.uk
Cymraeg
Mae pobl eisiau dysgu Cymraeg am wahanol resymau, ond dod yn rhugl yn yr iaith yw dymuniad y rhan fwyaf. Os byddwch chi'n penderfynu dysgu Cymraeg fe allech chi fod yn un o'r cannoedd o bobl sy'n llwyddo i ddod yn siaradwyr Cymraeg rhugl bob blwyddyn.
Mae dysgu Cymraeg yn llawer o hwyl a gall unrhyw un sydd am fod yn ddysgwr, ond sydd efallai'n pryderu am ymdopi â gramadeg, fod yn sicr bod y pwyslais heddiw yn bendant iawn ar Gymraeg llafar ac ar ddefnyddio'r iaith o'r cychwyn cyntaf.
Os ydych chi angen mwy o wybodaeth, mae popeth ar gael ar Dysgu Cymraeg Sir Benfro (yn agor mewn tab newydd) neu gellir cysylltu gyda ni ar 01437 770180 am gyngor.
Cyn i chi chwilio am gwrs, mae dau beth pwysig y dylech eu hystyried: dewis y lefel iawn a'r cyflymder iawn.
Dewis y lefel iawn
Mae pob cwrs erbyn hyn wedi ei enwi yn unol â'r fframwaith dilyniant cenedlaethol ar gyfer Cymraeg i Oedolion, sy'n cynnwys 5 lefel:
- Mynediad - cyrsiau i ddechreuwyr. Mae'r pwyslais ar siarad Cymraeg - mae trafod manylion personol a digwyddiadau yn y gorffennol ymysg y pynciau o dan sylw.
- Sylfaen - datblygu eich sgiliau siarad. Mae teulu, gwaith a diddordebau ymysg y pynciau o dan sylw.
- Canolradd - mae'r pwyslais yn dal i fod ar siarad, ond gan gyflwyno ychydig mwy o ysgrifennu, darllen a gwrando. Fe ddylech fedru cynnal sgwrs yn weddol rwydd ynglŷn â phynciau pob dydd erbyn diwedd y lefel hon.
- Uwch - gyda'r pwyslais yn dal i fod ar sgiliau siarad, fe gewch hefyd eich cyflwyno'n raddol i radio, teledu a phapurau newydd Cymraeg. Mae'r cyrsiau hyn yn gymorth hefyd i chi ysgrifennu'n fedrus.
- Hyfedredd - cyrsiau ar gyfer pobl sy'n siarad Cymraeg yn rhugl (iaith gyntaf neu ail iaith) sy'n dymuno cryfhau eu gafael ar yr iaith.
Dewis y Cyflymder Iawn
Y ffordd orau i ddysgu iaith yw trochi eich hun ynddi, felly fe ddylech chi ystyried dewis y cwrs mwyaf dwys y gallwch chi roi eich amser iddo.
Fel un sy'n dechrau o'r newydd, fe gewch ddewis gweithio gan symud ymlaen yn hamddenol ar gyrsiau sy'n cwrdd unwaith yr wythnos, neu'n fwy dwys gyda dau ddosbarth yr wythnos.
Mae'r cyrsiau sy'n cwrdd unwaith yr wythnos fel arfer yn ymdrin ag un o'r lefelau uchod tros ddwy flynedd (tair blynedd ar gyfer y lefel Uwch) ac mae'r cyrsiau mwy dwys yn ymdrin ag un lefel y flwyddyn. Mae'r ddau lwybr fel arfer yn cyfuno wrth i chi fynd ymlaen i'r lefelau uwch.
Cymraeg Gwaith
Os ydych yn gweithio yng Nghymru, bydd y gallu i siarad Cymraeg yn rhoi mantais bendant i chi a gallai arwain at ddyrchafiad neu swydd well.
Mae rhagor a rhagor o gyflogwyr yn ystyried yr iaith Gymraeg yn sgil y mae ei hangen yn y gweithle, yn enwedig o fewn y sector cyhoeddus lle mae gofyn a galw am wasanaeth dwyieithog.
Pob blwyddyn mae ugeiniau o bobl yn mynychu dosbarthiadau Cymraeg i wella rhagolygon eu gyrfa, a dyma pam:
- Mae'n fwy tebygol y bydd gweithwyr gyda sgiliau dwyieithog yn ennill rhwng 8 a 10% yn rhagor na'r rhai heb sgiliau dwyieithog
- Mae sgiliau iaith Gymraeg yn gaffaeliad pwysig ym mhob sefydliad yn y sector cyhoeddus
- Gyda nifer y siaradwyr Cymraeg yn dal i gynyddu, bydd y galw am wasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn cynyddu hefyd
Os dych chi’n gweithio i Gyngor Sir Penfro, cysylltwch â Cath Holgate am ragor o wybodaeth am y dosbarthiadau/lefelau sydd ar gael yn y gweithle – cath.holgate@pembrokeshire.gov.uk
Cymraeg yn y cartref
Gyda rhagor a rhagor o blant yn elwa ar fanteision addysg ddwyieithog a dysgu Cymraeg yn yr ysgol, mae llawer o rieni ac aelodau eraill o'r teulu eisiau bod yn rhan o'r holl beth. Mae llawer o'n cyrsiau wedi eu trefnu ar gyfer amserau a lleoliadau sy'n hwylus i rieni ac rydym hefyd yn cynnig cyrsiau penodol sy'n fodd i chi ddysgu rhywfaint o Gymraeg y gallwch ei defnyddio gyda'r plant.
Dilyniant - arholiadau
Mae llawer o ddysgwyr yn darganfod bod ennill cymhwyster yn ffordd dda o gofnodi eu cynnydd ac yn gymhelliant i adolygu!
Mae CBAC yn cynnig cymhwyster ar bedair lefel i oedolion sy'n dysgu Cymraeg yng nghyfres arholiadau Defnyddio'r Gymraeg. Y lefelau yw: Mynediad, Sylfaen, Canolradd ac Uwch.
Cyrsiau dydd
Unwaith y bydd eich cwrs wedi dechrau, gallwch hefyd roi hwb i'ch rhaglen ddysgu drwy fynychu cyrsiau undydd Sadwrn Siarad a chyrsiau bloc, megis cyrsiau yn ystod y Pasg a'r Haf. Fel arfer, cânt eu cynnal yn ein Canolfannau Dysgu Cymunedol.
Darperir hyfforddiant ar bob lefel ac mae nifer yr oriau cyswllt yn cyfateb i o leiaf ddau ddosbarth nos.
Sgiliau Hanfodol (Saesneg, mathemateg, digidol)
Hoffech chi wella eich sgiliau darllen, ysgrifennu, sillafu neu fathemateg? Neu a ydych chi'n adnabod rhywun a fyddai'n elwa ar gael cymorth unigol?
Mae Sir Benfro yn Dysgu yn darparu dosbarthiadau AM DDIM i oedolion ledled Sir Benfro.
Gwyliwch y fideo hwn i glywed dysgwyr yn siarad am eu profiadau o ddysgu (yn agor mewn tab newydd) gyda Dysgu Sir Benfro.
Saesneg a mathemateg (Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif)
Bydd cyfweliad cydgyfrinachol yn cael ei gynnig i bawb, cyn iddynt ymuno â dosbarth. Yna bydd Cynllun Dysgu Unigol yn cael ei gytuno gyda chi, er mwyn ichi allu gweithio wrth eich pwysau, a fesul camau sy'n addas i chi, mewn man ymlaciol a chyfeillgar.
Gallwn ni roi cymorth i ddysgwyr sydd ag anawsterau dysgu difrifol, hyd at y bobl hynny sy'n dymuno gloywi eu sgiliau neu sydd am gael cymorth er mwyn ennill TGAU neu NVQ.
I ymuno â dosbarth hoffem siarad â chi yn gyntaf: ffoniwch 0808 100 3302, e-bostiwch Essential.Skills@pembrokeshire.gov.uk neu galwch mewn i'ch canolfan ddysgu gymunedol agosaf
Sgiliau Digidol
P'un a ydych yn chwilio am waith neu hamdden mae gennym y cwrs cyfrifiadurol i chi.
Erioed wedi defnyddio cyfrifiadur neu lechen o'r blaen? Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau lefel rhagarweiniol sy'n addas ar gyfer y dechreuwr llwyr.
Os oes gennych chi rywfaint o brofiad cyfrifiadura eisoes mae gennym ni amrywiaeth o gyrsiau i ddatblygu eich sgiliau.
I gael gwybod mwy, ffoniwch ni ar 01437 770130 neu e-bostiwch learn@pembrokeshire.gov.uk i drafod eich gofynion gyda'n tîm cyfeillgar.
Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (SSIE)
Os ydych wedi symud i fyw neu i weithio yn y Deyrnas Unedig ac yn dymuno gwella eich sgiliau Saesneg, yna mae dosbarthiadau SSIE yn addas ar eich cyfer.
Mae yna ddosbarthiadau ar gael i'ch helpu os oes gennych ychydig o sgiliau Saesneg yn unig, neu ddim o gwbl, yn ogystal â dosbarthiadau i'ch helpu os ydych yn dymuno gwella eich sgiliau Saesneg.
- Dosbarthiadau i Ddechreuwyr (Cyn-mynediad a Mynediad 1) os oes gennych ychydig o sgiliau Saesneg yn unig, neu ddim o gwbl
- Dosbarthiadau Mynediad 2-3 – os ydych yn meddu ar rywfaint o sgiliau Saesneg ac yn dymuno dysgu rhagor
- Dosbarthiadau Mynediad 3/Lefel 1 – os ydych yn dymuno gwella eich sgiliau Saesneg
Am ragor o wybodaeth ffoniwch 0808 100 3302, e-bostiwch ESOL@pembrokeshire.gov.uk
neu galwch mewn i'ch canolfan ddysgu gymunedol agosaf
Cyrsiau Iechyd a Lles
Mae Sir Benfro yn Dysgu yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau sy'n gallu cyfrannu at eich iechyd a'ch lles.
Os ydych chi'n gobeithio ymlacio a hamddena, yn ogystal â gwella pa mor ystwyth ydych chi, rydym yn cynnig y dosbarthiadau hyn - ymarfer corff cymedrol, pilates, tai chi a ioga.
Diddordebau cyffredinol
Mae'r adran hon yn ymdrin ag amrywiaeth eang o gyrsiau sy'n darparu ar gyfer pobl sydd am feithrin sgiliau mewn hobïau a difyrion poblogaidd, yn ogystal ag un neu ddau o ddiddordebau arbenigol. Ar ben hynny bydd cyrsiau ar ffotograffiaeth, ysgrifennu creadigol a seicoleg.
Mae gyda ni ddewis o gyrsiau hanes, fel hanes lleol a hanes cenedlaethol.
Cymwysterau cyffredinol (gan gynnwys TGAU ac ICDL)
Mae ennill cymwysterau’n gallu eich helpu i symud ymlaen yn eich gyrfa bresennol neu gymryd eich camau cyntaf tuag at swydd newydd neu gwrs astudio uwch.
Weithiau, mae’n gallu bod yn anodd dod o hyd i amser i ennill cymwysterau newydd, yn enwedig os ydych chi eisoes yn cydbwyso gofynion gwaith a theulu. Trwy ddarparu cyrsiau mewn lleoliadau lleol ac ar wahanol adegau yn ystod y dydd, mae Sir Benfro yn Dysgu yn gallu hwyluso pethau i chi.
Yn y DU, dyfernir cymwysterau gan amrywiaeth o wahanol sefydliadau.
Ar hyn o bryd, mae Sir Benfro yn Dysgu yn darparu cyrsiau sy’n arwain at gymwysterau a ddyfernir gan y sefydliadau canlynol:
Hefyd, rydym yn cynnig cyrsiau sy’n arwain at gymwysterau Cymorth Cyntaf a Diogelwch Bwyd.
Agored Cymru
Mae Agored Cymru yn achredu cyrsiau byr, ymarferol. Mae Sir Benfro yn Dysgu yn cynnig yr achrediad hwn mewn amrywiaeth o sgiliau, fel sgiliau digidol a chyfrifiadurol, rhifedd, llythrennedd, cyfathrebu a Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL).
Cymdeithas Gyfrifiadurol Prydain (BCS)
Cafodd Tystysgrif Ryngwladol Llythrennedd Digidol (ICDL) yn gymhwyster cyflogaeth uchel iawn ei barch. Mae Sir Benfro yn Dysgu yn cynnig Dyfarniad ICDL lefel 1 a Dyfarniad ICDL lefel 2.
Unedau unigol ICDL lefel 1 – Prosesu geiriau, taenlenni a chyflwyno.
Dyfarniad ICDL lefel 1 – Mae’n eich addysgu sut i reoli’r peryglon sy’n gysylltiedig â defnyddio cyfrifiaduron, fel sbam a dwyn hunaniaeth, sut i drefnu’ch cyfrifiadur a sut i ddefnyddio’r rhyngrwyd ac e-bost.
Mae Dyfarniad ICDL lefel 2 yn datblygu eich sgiliau yn 3 o’r unedau canlynol – prosesu geiriau, taenlenni, cyflwyniadau neu gronfeydd data.
Cyd-bwyllgor Addysg Cymru (WJEC)
Tystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd (TGAU)
Os na lwyddoch i ennill y rhain, neu os hoffech gael gwell graddau, rydym yn cynnig cyfle i chi astudio Saesneg a Mathemateg.
Hefyd, rydym yn cynnig cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru ar wahanol lefelau mewn Cymhwyso Rhif ac mewn Cyfathrebu.
Cymraeg
Mae llawer o bobl sy’n dysgu Cymraeg yn sylweddoli bod ennill cymhwyster yn ffordd dda o wella eu rhagolygon swyddi neu fonitro eu cynnydd.
Mae CBAC yn cynnig cymwysterau ar bedair lefel i oedolion sy’n dysgu Cymraeg, yn y gyfres "Defnyddio'r Gymraeg". Y lefelau yw Mynediad, Sylfaen, Canolradd ac Uwch.
Ein Gwasanaeth
Ein nod yw darparu ystod eang o gyrsiau sy'n addas i'n holl gwsmeriaid, wyneb-i-wyneb ac ar-lein. Os ydych am ddatblygu sgiliau a diddordebau newydd, gweithio tuag at gymhwyster, neu wella eich rhagolygon gyrfa.
Rydym hefyd yn gallu darparu hyfforddiant pwrpasol i fusnesau; boed hynny ar gyfer unigolyn neu sefydliad cyfan, gallwn deilwra'r hyfforddiant i ddiwallu anghenion penodol.
Cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg
Ein nod yw darparu cyrsiau’n ddwyieithog lle bynnag y bo modd. Wrth ichi holi ynghylch ymgymryd â chwrs, byddwn yn gofyn ichi a hoffech chi ddilyn y cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig. Byddwn yn darparu cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig pan mae niferoedd yn cyrraedd y lefel isaf.