Ein Gwasanaeth

Cymwysterau cyffredinol (gan gynnwys TGAU ac ICDL)

Mae ennill cymwysterau’n gallu eich helpu i symud ymlaen yn eich gyrfa bresennol neu gymryd eich camau cyntaf tuag at swydd newydd neu gwrs astudio uwch.

Weithiau, mae’n gallu bod yn anodd dod o hyd i amser i ennill cymwysterau newydd, yn enwedig os ydych chi eisoes yn cydbwyso gofynion gwaith a theulu. Trwy ddarparu cyrsiau mewn lleoliadau lleol ac ar wahanol adegau yn ystod y dydd, mae Sir Benfro yn Dysgu yn gallu hwyluso pethau i chi.

Yn y DU, dyfernir cymwysterau gan amrywiaeth o wahanol sefydliadau.

Ar hyn o bryd, mae Sir Benfro yn Dysgu yn darparu cyrsiau sy’n arwain at gymwysterau a ddyfernir gan y sefydliadau canlynol:

Hefyd, rydym yn cynnig cyrsiau sy’n arwain at gymwysterau Cymorth Cyntaf a Diogelwch Bwyd.



Agored Cymru

Mae Agored Cymru yn achredu cyrsiau byr, ymarferol. Mae Sir Benfro yn Dysgu yn cynnig yr achrediad hwn mewn amrywiaeth o sgiliau, fel sgiliau digidol a chyfrifiadurol, rhifedd, llythrennedd, cyfathrebu a Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL).



Cymdeithas Gyfrifiadurol Prydain (BCS)

Cafodd Tystysgrif Ryngwladol Llythrennedd Digidol (ICDL) yn gymhwyster cyflogaeth uchel iawn ei barch. Mae Sir Benfro yn Dysgu yn cynnig Dyfarniad ICDL lefel 1 a Dyfarniad ICDL lefel 2.

Unedau unigol ICDL lefel 1 – Prosesu geiriau, taenlenni a chyflwyno.

Dyfarniad ICDL lefel 1 – Mae’n eich addysgu sut i reoli’r peryglon sy’n gysylltiedig â defnyddio cyfrifiaduron, fel sbam a dwyn hunaniaeth, sut i drefnu’ch cyfrifiadur a sut i ddefnyddio’r rhyngrwyd ac e-bost.

Mae Dyfarniad ICDL lefel 2 yn datblygu eich sgiliau yn 3 o’r unedau canlynol – prosesu geiriau, taenlenni, cyflwyniadau neu gronfeydd data.

Chwilio am gwrs 



Cyd-bwyllgor Addysg Cymru (WJEC)

Tystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd (TGAU)

Os na lwyddoch i ennill y rhain, neu os hoffech gael gwell graddau, rydym yn cynnig cyfle i chi astudio Saesneg a Mathemateg.

Hefyd, rydym yn cynnig cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru ar wahanol lefelau mewn Cymhwyso Rhif ac mewn Cyfathrebu.

Chwilio am gwrs 

Cymraeg

Mae llawer o bobl sy’n dysgu Cymraeg yn sylweddoli bod ennill cymhwyster yn ffordd dda o wella eu rhagolygon swyddi neu fonitro eu cynnydd. 

Mae CBAC yn cynnig cymwysterau ar bedair lefel i oedolion sy’n dysgu Cymraeg, yn y gyfres "Defnyddio'r Gymraeg". Y lefelau yw Mynediad, Sylfaen, Canolradd ac Uwch.

ID: 1945, adolygwyd 17/12/2024