Ein Gwasanaeth

Sbardun

Mae Springboard yn cynnal ystod eang o weithgareddau AM DDIM sy’n gysylltiedig â Chwricwlwm Cymru i helpu teuluoedd i ddatblygu eu Sgiliau Hanfodol a’u cynnydd.

Pam ymuno â Sbardun?

Trwy ymuno ag un o’n cyrsiau gallwch chi a’ch teulu gael hwyl, dysgu sgiliau newydd, cwrdd â phobl newydd, a symud ymlaen.

 

Pa fathau o gyrsiau allwch chi eu gwneud?

Mae cyrsiau Sbardun wedi’u cynllunio i oedolion a theuluoedd gael hwyl wrth ddysgu a datblygu sgiliau newydd a hanfodol sy’n ategu pedwar diben craidd y Cwricwlwm newydd i Gymru.

Er bod y rhaglen a gynigir gan y prosiect yn amrywiol ac yn cysylltu â phob maes dysgu a phrofiad, mae sgiliau hanfodol wedi’u gwreiddio’n greadigol yn ein holl weithgareddau mewn ffordd ymarferol ac ystyrlon.

 

Ble gallaf weld yr amserlenni presennol?

Mae pob ysgol bartner yn rhannu gwybodaeth am ba weithdai sy’n cael eu cynnal yn eu hysgolion trwy eu apiau eu hunain fel ClassDojo, Seesaw a ParentMail. Fodd bynnag, os ydych chi am weld yr amserlenni Sbardun ar gyfer pob maes yn fras, ewch i’r Padlet Sbardun (yn agor mewn tab newydd)

 

Pwy all gymryd rhan?

Mae cyrsiau Sbardun yn agored i oedolion sydd â phlentyn yn eu teulu sy’n mynychu un o’n ysgolion bartner ac sy’n teimlo y byddant yn elwa o gymryd rhan yn ein cyrsiau.

 

Pryd mae gweithgareddau Sbardun yn cael eu cynnal?

Mae Sbardun yn cynnal rhaglen wahanol o weithgareddau bob ochr i bob hanner tymor. Mae ein sesiynau bore a phrynhawn wedi’u hamseru’n berffaith i gyd-fynd â’r diwrnod ysgol, yn ystod y tymor yn unig.

 

Ble mae ein gweithgareddau yn digwydd?

Fel arfer, cynhelir cyrsiau Springboard yn ystafelloedd cymunedol pob ysgol gynradd bartner, ond gallant hefyd ddigwydd yn yr awyr agored, gan ddefnyddio tai crwn yr ysgol.

 

Sut gallwch chi gymryd rhan?

Mae’n hawdd cymryd rhan. Gallwch glicio ar y ddolen cadw lle y mae ysgolion yn ei rhannu ynghyd â’n taflenni yn eu apiau ysgol fel ClassDojo. Fel arall, gallwch anfon neges destun, ffonio neu anfon neges e-bost at y Cynghorydd Sbardun sy’n gyfrifol am ddarparu Sbardun yn eich ysgol bartner. Mae eu manylion cyswllt ar y Padlet Sbardun (yn agor mewn tab newydd)

 

Sut mae ein cyrsiau yn cael eu hariannu?

Ar hyn o bryd, mae ysgolion yn cefnogi gwaith Springboard yn eu hysgolion priodol ac mae'r prosiect yn ceisio cyllid cyfatebol gan gyrff dyfarnu grantiau sy'n gysylltiedig â gwahanol feysydd dysgu.

 

I drafod sut y gallech weithio gyda phrosiect Sbardun, cysylltwch â:

Laura Phillips, Cydlynydd Sbardun

Ffôn: 07500 918 050
E-bost: laura.phillips@pembrokeshire.gov.uk

ID: 1967, adolygwyd 22/07/2026