Ein Gwasanaeth

Taflen cwrs

Yn cynnig cyrsiau mewn lleoliadau cymunedol ac ar-lein.

Dysgu heddiw ar gyfer yfory gwell. Dewiswch eich cwrs ac archebwch nawr!

 

Ffioedd Cyrsiau 

 

Ar y dudalen hon:

Sut i Gadw Lle

Sgiliau Hanfodol

Cyrsiau Cymwysterau

Y Gymraeg

Ieithoedd

Diddordeb Cyffredinol

Iechyd a Llesiant

Y Celfyddydau Creadigol

Y Celfyddydau Perfformio

Sbardun

Coleg Sir Benfro

Cysylltiadau



Sut i gadw lle

Mae gwybodaeth ar sut i gofrestru ar gael ar ran uchaf bob tudalen fesul categori cwrs. Mae gwybodaeth y Canolfannau Dysgu Cymunedol ar waelod y dudalen.



Sgiliau Hanfodol

Ar gyfer dosbarthiadau Saesneg, Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill, Mathemateg neu Sgiliau Digidol, ffoniwch Rhadffôn 0808 100 3302 drefnu trafodaeth bersonol er mwyn dewis y cwrs iawn i chi.

Saesneg

Ydych chi eisiau gwella eich sgiliau siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu Saesneg ar gyfer eich hun, eich teulu neu ar gyfer eich gwaith?

Gall cyrsiau Sgiliau Hanfodol RHAD AC AM DDIM eich helpu i ddatblygu eich sgiliau Saesneg o lefel Mynediad 1 hyd at lefel sy’n gyfwerth â TGAU.

* Sgiliau Hanfodol Cymru - Cyfathrebu * Llythrennedd * Sgiliau Bywyd * Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill * Bywyd yn y DU * Prawf Gyrru - Theori *

Mathemateg

A oes angen i chi wella’ch sgiliau mathemateg i’ch helpu gartref, rhoi cymorth i’ch teulu neu ennill cymhwyster ar gyfer gwaith?

Gall ein cyrsiau Mathemateg RHAD AC AM DDIM eich helpu i ennill tystysgrif o lefel Mynediad hyd at lefel sy’n gyfwerth â TGAU.

* Sgiliau Hanfodol Cymru - Cymhwyso Rhif * Rhifedd *

Sgiliau Llythrennedd Digidol

Ydych chi’n awyddus i ddatblygu eich sgiliau digidol? Gall dosbarthiadau lefel Mynediad Rhad ac am ddim eich helpu i ennill sgiliau newydd. Mae angen talu ffi ar gyfer rhai cyrsiau lefel uwch sy’n mynd hyd at Lefel 2.

* Sgiliau Digidol - Camau cyntaf a Rhagor o Sgiliau * Microsoft Office * Defnyddio eich tabled * Windows * Tystysgrif Ryngwladol Llythrennedd Digidol (ICDL) *



Cyrsiau Cymwysterau

I ymuno ag unrhyw gwrs TGAU neu gwrs cymwysterau, ffoniwch eich canolfan leol neu ewch i’n gwefan ac archebwch gan ddefnyddio Fy Nghyfrif Cyngor Sir Penfro.

A oes angen unrhyw gymwysterau arnoch i’ch helpu i symud ymlaen yn y gwaith neu wella sgiliau i gael cyflogaeth?

Gall cymwysterau mewn Cymorth Cyntaf Brys, Diogelwch Bwyd a Chymorth Cyntaf Pediatrig Brys eich helpu.

TGAU

Oes angen TGAU arnoch i wella eich rhagolygon gwaith neu i fynd i addysg bellach? 

Mae Sir Benfro yn Dysgu yn cynnal cyrsiau TGAU mewn Saesneg a Mathemateg.

* Cymorth Cyntaf Brys yn y Gweithle * Cymorth Cyntaf Pediatrig Brys * Diogelwch Bwyd ym Maes Arlwyo * TGAU Saesneg Iaith - CBAC * TGAU Mathemateg - CBAC * Trwyddedu Personol *



Y Gymraeg

I gofrestru ar gwrs Cymraeg, ewch i Dysgu Cymraeg (yn agor mewn tab newydd) neu, am ragor o wybodaeth, e-bost neu ffoniwch 01437 770180

Oes gennych chi ddiddordeb mewn gwella eich defnydd o’r Gymraeg gartref, yn y gwaith neu yn eich cymuned?

Mae Dysgu Cymraeg Sir Benfro yn rhedeg cyrsiau o lefel Mynediad, hyd at lefel Sylfaen, Canolradd ac Uwch. Ni fu erioed yn haws dod o hyd i gwrs sy’n iawn i chi naill ai ar-lein neu yn eich canolfan ddysgu leol.

Mae pob lefel yn cynnig arholiad CBAC.

* Mynediad * Sylfaen * Canolradd * Uwch * Gloywi *



Ieithoedd

I ymuno ag unrhyw gwrs iaith, ffoniwch eich canolfan leol neu ewch i’n gwefan i archebu gan ddefnyddio Fy Nghyfrif Cyngor Sir Penfro

Ydych chi eisiau datblygu eich gallu i gyfathrebu mewn iaith arall?

Mae Sir Benfro yn Dysgu yn cynnal amrywiaeth o gyrsiau iaith o lefel Mynediad i lefel Uwch. Gall ein cyrsiau eich helpu wrth deithio dramor ar gyfer gwaith neu bleser yn ogystal â’ch cefnogi i gyfathrebu â phobl sy’n ymweld neu’n byw yn Sir Benfro nad ydynt yn siarad Saesneg fel eu hiaith gyntaf.

* Eidaleg - lefel Mynediad, lefel Sylfaen a lefel Uwch * Sbaeneg - lefel Mynediad, lefel Sylfaen a lefel Uwch * Ffrangeg - lefel Mynediad, lefel Sylfaen a lefel Uwch * Sbaeneg - Sgwrsio *



Diddordeb Cyffredinol

I ymuno ag unrhyw gwrs Diddordeb Cyffredinol, ffoniwch eich canolfan leol neu ewch i’n gwefan i archebu gan ddefnyddio Fy Nghyfrif Cyngor Sir Penfro

Oes gennych chi ddiddordeb mewn darganfod mwy am sut mae pobl a lleoedd wedi esblygu dros amser?  

Bydd cyrsiau Hanes a Seicoleg Sir Benfro yn Dysgu yn eich helpu i ddatblygu gwell dealltwriaeth o sut mae pobl wedi esblygu dros amser. Pa bynnag faes astudio y byddwch yn cychwyn arno, byddwch yn siŵr o fod ar daith ddiddorol yn darganfod!

* Hanes Celfyddyd * Hanes Lleol * Hanes Anturiaethwyr * Hanes - Merched Penderfynol * Darllen y Mabinogi * Hanes Diwylliannol * Ffotograffiaeth * Ysgrifennu Creadigol *



Iechyd a Llesiant

I ymuno â chwrs Iechyd a Llesiant, ffoniwch eich canolfan leol neu ewch i’n gwefan ac archebwch gan ddefnyddio Fy Nghyfrif Cyngor Sir Penfro.

Ydych chi eisiau teimlo’n well a gwella’ch ffitrwydd trwy ymarfer corff ysgafn? 

Os mai ‘ydw’ yw’r ateb, yna mae gan Sir Benfro yn Dysgu ystod wych o gyrsiau i chi ddewis o’u plith, dan arweiniad tiwtoriaid profiadol, gofalgar a chefnogol iawn. Beth bynnag fo lefel eich profiad neu ffitrwydd, gall ein tiwtoriaid ddarparu ar gyfer eich anghenion a byddwch yn teimlo’n well o’r herwydd.

* Ioga Cadair * Pilates - Ymestyn ac Ystwytho * Pilates * Tai Chi * Ioga * Ioga i bobl dros 50 oed * Ioga Araf * Ioga Ysgafn *



Y Celfyddydau Creadigol

I ymuno â chwrs Creadigol, ffoniwch eich canolfan leol neu ewch i’n gwefan ac archebwch gan ddefnyddio Fy Nghyfrif Cyngor Sir Penfro

Ydych chi eisiau archwilio eich ochr greadigol, datblygu sgiliau newydd neu ddysgu ffyrdd newydd o weithio gyda gwahanol gyfryngau?    

Mae gan Sir Benfro yn Dysgu lu o diwtoriaid dawnus a all eich arwain ar lwybr creadigol newydd. Byddwch yn rhyfeddu at yr hyn y gallwch ei gyflawni gyda chymorth ymarferwyr profiadol. Beth bynnag fo’ch man cychwyn … mae gennym gwrs i chi, o Wnïo i Wydr Lliw.

* Celf - pynciau amrywiol * Clustogwaith * Gwydr Lliw * Argraffu * Gwnïo * Helyg * Crefftau Nadolig * Gwneud Cardiau * Gwnïo Dillad * Defnyddio Photoshop *



Y Celfyddydau Perfformio

I ymuno â chwrs Perfformio, ffoniwch eich canolfan leol neu ewch i’n gwefan i archebu gan ddefnyddio Fy Nghyfrif Cyngor Sir Penfro

A fyddech chi’n dymuno cael amser ar gyfer mwy o gerddoriaeth yn eich bywyd? 

Gall dosbarthiadau Cerddoriaeth Sir Benfro yn Dysgu godi’ch ysbryd, datblygu sgiliau newydd a’ch helpu i wneud ffrindiau newydd. Mae cyrsiau wedi’u cynllunio ar gyfer pobl sydd heb unrhyw brofiad blaenorol a dysgwyr sydd am ddatblygu eu sgiliau ymhellach.

* Gitâr lefel Mynediad * Iwcalili lefel Mynediad * Canu lefel Mynediad - Dewch o hyd i’ch llais! * Gitâr lefel Ganolradd * Iwcalili lefel Ganolradd * Canu lefel Ganolradd *



Sbardun

I gael rhagor o fanylion am gyrsiau Sbardun yn ein 12 ysgol bartner, ewch i dudalen Facebook Sbardun Sir Benfro (yn agor mewn tab newydd) neu ffoniwch 07500 918050.

Hoffech chi ddysgu sgiliau newydd i’ch helpu chi a’ch teulu?

Mae Sbardun yn cynnal cyrsiau Rhad am ddim mewn 12 ysgol gynradd yn Sir Benfro i gefnogi teuluoedd i gael mynediad at weithgareddau difyr sy’n cysylltu â’r cwricwlwm newydd i Gymru mewn ffordd hwyliog a chreadigol.

Mae cyrsiau yn newid bob hanner tymor ac maent yn cynnwys cymysgedd o weithdai i deuluoedd a chyrsiau i oedolion yn unig.

* Fenton * Gelliswick * Johnston * Ysgol Gynradd Gymunedol Aberdaugleddau * Neyland * Prendergast * Waldo Williams * Ysgol Sant Marc * Ysgol Gynradd Dinbych-y-Pysgod * Ysgol Glannau Gwaun * Ysgol Hafan y Môr * Ysgol Penrhyn Dewi *



Coleg Sir Benfro

Yng Ngholeg Sir Benfro mae amrywiaeth enfawr o gyrsiau amser llawn a rhan-amser ar gael i oedolion 19 oed neu hŷn.

P’un a ydych chi’n awyddus i ennill sgiliau a gwybodaeth ychwanegol i roi hwb i’ch gyrfa, eisiau ailhyfforddi mewn sector gwahanol i ddilyn cyfleoedd newydd, neu’n syml yn edrych i ymgymryd â hobi, mae cannoedd o gyrsiau i ddewis ohonynt yn y Coleg.

Mae gennym gyrsiau o lefel mynediad hyd at lefel gradd, felly beth bynnag fo’ch sgiliau presennol gallwn eich helpu i ddod o hyd i’r cwrs sy’n iawn i chi i’ch galluogi i barhau ar eich taith ddysgu.

* Cyfrifeg, * Therapi Harddwch * Cadw Cyfrifon * Gweinyddu Busnes * Cynnal a Chadw Ceir * Gwaith Saer * Gofal Plant * Cyfrifiadura * Adeiladu * Ysgrifennu Creadigol * Peirianneg * Diogelwch Bwyd ar gyfer Arlwyo * Trin Gwallt * Iechyd a Diogelwch * Lletygarwch * Crefftau Cymysg * Maeth * Ffotograffiaeth * Crochenwaith * Coginio Proffesiynol * Adweitheg * Sgiliau Gwnïo * Therapi Tylino Chwaraeon * Weldio a Ffabrigo *

Edrychwch ar ein cyrsiau yn: Coleg Sir Benfro (yn agor mewn tab newydd) neu ffoniwch ein tîm derbyniadau ar 0800 9 776 788 am gyngor ac arweiniad diduedd.

Dod o hyd i’r cwrs iawn i chi

Gyda chymaint o gyrsiau i ddewis o’u plith, gall dewis y cwrs cywir fod yn llethol weithiau, ond peidiwch â phoeni, mae ein tîm derbyniadau cyfeillgar ar gael trwy gydol y flwyddyn i gynnig cyngor ac arweiniad diduedd i helpu i’ch gosod ar y llwybr cywir i gyflawni eich uchelgeisiau yn y dyfodol. Mae arweiniad ar gael naill ai wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu ar-lein a gellir trefnu sesiwn ar adeg sy’n gyfleus i chi.

Cymorth ariannol

Cysylltwch â Chyllid Myfyrwyr ar 01437 753 134 neu e-bostiwch: s.finance@pembrokeshire.ac.uk i weld a ydych yn gymwys i gael cymorth ariannol.



Cysylltiadau

Gallwch ffonio Canolfannau Cymunedol Sir Benfro yn Dysgu am fwy o wybodaeth ac i gadw lle!

 

Cyrsiau Sgiliau Hanfodol a Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill yn Rhad am ddim

Rhadffôn 0808 100 3302

 

Dysgu Cymraeg Sir Benfro

01437 770180
learnwelsh@pembrokeshire.gov.uk

 

Canolfannau Dysgu Cymunedol Gogledd Sir Benfro

01437 770140
northpembs.Learning@pembrokeshire.gov.uk

 

Canolfannau Dysgu Cymunedol Canolbarth Sir Benfro

01437 770150
midpembs.learning@pembrokeshire.gov.uk

 

Canolfan Dysgu Cymunedol Doc Penfro

01437 770170
pembrokedock.learning@pembrokeshire.gov.uk

 

Canolfan Ddysgu Gymunedol Dinbych-y-Pysgod

01437 770190
tenby.learning@pembrokeshire.gov.uk

 

Sbardun

07500 918050
springboard@pembrokeshire.gov.uk

 

Swyddfa Gwasanaethau Canolog Arberth

01437 770130
learn@pembrokeshire.gov.uk

 

Dilynwch ni ar Facebook (yn agor mewn tab newydd)

 

ID: 4296, adolygwyd 18/07/2024