Eithriadau’r Dreth Gyngor
Eithriadau Eiddo
Fel arfer rhaid talu Treth Gyngor ar unrhyw eiddo sy'n cael ei restru yn rhestr brisio Treth Gyngor. Fodd bynnag dan rai amgylchiadau fe all fod eithriad ar eich eiddo.
Eithriadau eiddo
Esbonio'r termau:
- Gwag - eiddo nad yw'n brif gartref rhywun ac sy'n sylweddol heb ddodrefn
- Anghyfannedd - eiddo wedi'i ddodrefnu nad yw'n brif gartref rhywun
- Cyfannedd - eiddo lle mae rhywun yn byw fel prif gartref.
Ar hyn o bryd mae eiddo arbennig yn rhydd o Dreth Gyngor. Cyfeiriwch at y disgrifiadau yn yr adran hon ac, os ydych eisiau gwneud cais am ryddhad, llenwch y ffurflen ar-lein berthnasol:
Eiddo Anaddas i Fyw Ynddo
Eiddo gwag ac sy'n sylweddol heb ddodrefn ac sydd angen neu wedi cael gwaith trwsio neu addasiadau sylweddol i'w wneud yn addas i fyw ynddo. Mae'r eithriad yn parhau am chwe mis ar ôl cwblhau'r gwaith neu am uchafswm o 12 mis, pa un bynnag cyfnod yw'r byrraf.
Gwag ym Mherchenogaeth Elusen
Mae eithriad i eiddo gwag sydd ym mherchenogaeth elusen am hyd at chwe mis o'r tro diwethaf y cafodd ei ddefnyddio at ddibenion elusennol.
Gwag a heb ddodrefn
Eiddo sydd ac sydd wedi bod yn wag ac yn sylweddol heb ddodrefn am gyfnod o hyd at 6 mis.
Yr unigolyn atebol yn y ddalfa
Mae'r eiddo'n wag oherwydd bod yr unigolyn sy'n gorfod talu Treth Gyngor yn y carchar.
Yr unigolyn atebol mewn cartref gofal
Mae'r eiddo'n wag oherwydd bod yr unigolyn sy'n gorfod talu'r Dreth Gyngor yn byw mewn ysbyty, cartref nyrsio neu gartref gofal.
Nodwch er mwyn bod yn gymwys ar gyfer yr esemptiad hwn fod yn rhaid i'r trethdalwr fod yn berchennog neu'n denant statudol neu'n denant diogel. Er enghraifft, ni fyddai'r esemptiad hwn yn berthnasol petai perchenogaeth yr eiddo wedi'i throsglwyddo drwy weithred ymddiriedolaeth.
Canllaw yn unig yw'r uchod; cysylltwch â'r Gwasanaethau Refeniw i gael rhagor o wybodaeth.
Yr unigolyn atebol wedi marw
Mae'r eiddo'n wag oherwydd bod yr unigolyn a fyddai'n gorfod talu'r Dreth Gyngor wedi marw a'i bod yn llai na chwe mis ers i brofiant neu lythyron gweinyddu gael eu rhoi.
Nodwch er mwyn bod yn gymwys ar gyfer yr esemptiad hwn fod yn rhaid bod yr eiddo wedi bod yn wag ers dyddiad y farwolaeth a bod yn rhaid i'r unigolyn sydd wedi marw fod yn berchennog neu'n denant statudol neu'n denant diogel. Er enghraifft, ni fyddai'r esemptiad hwn yn berthnasol petai perchenogaeth yr eiddo wedi'i throsglwyddo drwy weithred ymddiriedolaeth.
Canllaw yn unig yw'r uchod; cysylltwch â'r Gwasanaethau Refeniw i gael rhagor o wybodaeth.
Y gyfraith yn gwahardd byw yn yr eiddo
Mae'r eiddo'n wag oherwydd nad oes neb yn cael byw yno yn ôl y gyfraith.
Yr unigolyn atebol angen gofal
Mae'r eiddo'n wag oherwydd bod yr unigolyn sy'n gorfod talu Treth Gyngor yn byw yn rhywle arall yn derbyn gofal.
Gwag yn aros am weinidog yr efengyl
Mae'r eiddo'n wag oherwydd y bydd gweinidog yr efengyl yn symud i mewn ac o'r fan hon y bydd ef neu hi'n cynnal dyletswyddau'r alwedigaeth.
Yr unigolyn atebol i ffwrdd yn rhoi gofal
Mae'r eiddo'n wag oherwydd bod yr unigolyn sy'n gorfod talu Treth Gyngor yn byw yn rhywle arall yn rhoi gofal.
Gadawyd yn wag gan fyfyriwr
Eiddo gwag gyda'r perchennog yn fyfyriwr a'r olaf i fyw ynddo ac wedi dal i fod yn fyfyriwr ers byw yno ddiwethaf.
Anheddau a ailfeddiannwyd
Mae'r eiddo'n wag oherwydd ei ailfeddiannu.
Neuaddau preswyl myfyrwyr
Mae'r eiddo'n neuadd breswyl myfyrwyr.
Myfyrwyr
Dim ond myfyriwr neu fyfyrwyr sy'n byw yn yr eiddo.
Aelodau Lluoedd Arfog y DU
Eiddo swyddogol yn cael ei ddal ar gyfer lletya aelodau lluoedd arfog y DU.
Gadawyd yn wag gan fethdalwr
Mae'r eiddo'n wag oherwydd bod y perchennog yn fethdalwr.
Diplomyddion ac Uwch-swyddogion
Dim ond diplomyddion ac uwch-swyddogion sefydliadau rhyngwladol, a'u gwŷr neu wragedd, sy'n byw yn yr eiddo.
Llain carafan/angorfa wag
Mae'r eiddo'n llain carafan neu angorfa cwch wag.
Dim ond rhai dan 18 sy'n byw yno
Dim ond pobl dan 18 sy'n byw yn yr eiddo.
Rhandy heb neb yn byw ynddo
Mae'r eiddo'n rhan wag o eiddo arall (er enghraifft, rhandai neu unedau hunangynhwysol) nad ydynt efallai'n cael eu gosod ar wahân.
Gydag amhariad meddyliol difrifol
Dim ond pobl gydag amhariad meddyliol difrifol sy'n byw yn yr eiddo. I fod â hawl, bydd angen i feddyg ardystio bod gennych amhariad ar ddeallusrwydd a gweithredu cymdeithasol y mae disgwyl iddo fod yn barhaol a bod yn derbyn budd-dal cymwys.
Aelodau lluoedd arfog ar ymweliad
Dim ond aelodau lluoedd arfog ar ymweliad sy'n byw yn yr eiddo.
Rhandy â rhywun yn byw ynddo - perthynas dibynnol
Mae'r eiddo'n rhan o eiddo arall lle mae perthynas dibynnol sydd naill ai'n 65 oed neu hŷn, neu'n anabl, yn byw.
Wedi'i feddiannu gan Bobl sy’n Gadael Gofal
O 1 Ebrill 2019 mae eithriad yn berthnasol i eiddo sy'n cael ei feddiannu’n gyfan gwbl gan bobl sy'n gadael gofal.
Mae person sy'n gadael gofal yn golygu person sy'n 24 oed neu'n iau ac yn berson ifanc categori 3 fel y'i diffinnir gan adran 104 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (1).
I wneud cais am yr eithriad, anfonwch e-bost, os gwelwch yn dda, at revenue.services@pembrokeshire.gov.uk neu ffoniwch y Gwasanaethau Refeniw ar 01437 764551.