Grwp Cynghori ar Ddiogelwch Digwyddiadau (ESAG)
Grwp Cynghori ar Ddiogelwch Digwyddiadau (ESAG)
Argymhellwyd Grwpiau Cynghori ar Ddiogelwch o ganlyniad i Drychineb Stadiwm Hillsborough ac maent bellach yn cael eu cydnabod fel fforwm cynllunio craidd sylfaenol ar gyfer cynllunio diogelwch ym mhob stadiwm chwaraeon. Gan ddefnyddio'r un egwyddorion bellach mae Grwpiau Cynghori ar Ddiogelwch Digwyddiadau a elwir hefyd yn ESAGs yn aml yn cael eu sefydlu ar gyfer digwyddiadau mawr.
Mae ESAG Cyngor Sir Penfro yn cynnwys swyddogion o 'Awdurdodau Cyfrifol' megis Heddlu Dyfed Powys, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Tîm Sŵn y Cyngor, y Tîm Iechyd a Diogelwch a'r Tîm Trwyddedu; yn ogystal â swyddogion o adrannau ac asiantaethau perthnasol eraill megis Priffyrdd, Cynllunio ar gyfer Argyfwng a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.
ID: 4766, adolygwyd 08/03/2023