Mae ESAGs yn darparu fforwm ar gyfer trafod a chynghori am ddiogelwch y cyhoedd mewn digwyddiad. Eu nod yw helpu trefnwyr i gynllunio a rheoli digwyddiad ac annog cydweithrediad a chydlyniad rhwng yr holl asiantaethau perthnasol.
Mae trefnwyr digwyddiadau ac eraill sy'n ymwneud â chynnal digwyddiad, yn dal yn gyfrifol am y prif ddyletswyddau cyfreithiol ar gyfer sicrhau diogelwch y cyhoedd.
Nid oes gan ESAGs bwerau i gymeradwyo na gwahardd digwyddiadau rhag cael eu cynnal. Ar achlysuron prin lle mae anghytundeb rhwng ESAG a threfnydd y digwyddiad, ac mae risg wirioneddol o hyd i'r cyhoedd, gall sefydliadau unigol ar yr ESAG (megis yr heddlu, y Gwasanaeth Tân, Iechyd a Diogelwch) benderfynu gweithredu i ddatrys y mater. Mae penderfyniadau ar ddefnyddio'r pwerau hyn yn faterion i'r awdurdodau perthnasol eu hystyried, nid yr ESAG, ac maent yn cael eu cyflawni ar wahân.
Gallai ESAG:
Am ragor o wybodaeth am rôl, strwythur a phwrpas ESAG, gweler y ddogfen Cylch Gorchwyl.