Mae’n ofynnol i ni gadw ein cofrestr o etholwyr cymwys yn gyfredol. O fis Gorffennaf bob blwyddyn, byddwn yn cysylltu â phob cartref i gael gwybod a yw’r manylion ar y gofrestr etholiadol yn gywir.
Efallai y cysylltir â’ch cartref drwy:
Os oes arnoch angen diweddaru eich manylion ar y gofrestr etholiadol, mae’n bwysig i chi ateb cyn gynted ag y bo modd – mae hyn yn golygu na fydd rhaid anfon llythyr atgoffa.
Atebwch ar-lein, os gwelwch yn dda, os gellwch, gan ddilyn y cyfarwyddiadau ar y ffurflen a anfonwyd atoch. Mae ateb ar-lein yn gymorth mawr, yn arbennig yn y sefyllfa iechyd cyhoeddus bresennol.
Sylwch, os gwelwch yn dda: Mae’r gyfraith yng Nghymru wedi newid – yn awr caiff pobl ifanc 14 -16 mlwydd oed a phobl dramor gymwys, sy’n byw yng Nghymru, gofrestru i bleidleisio. · Drwy gofrestru i bleidleisio, gall person ifanc yn awr gymryd rhan yn etholiadau’r Senedd pan fydd yn 16 mlwydd oed · Drwy gofrestru i bleidleisio, gall dinesydd tramor, sy’n 16 mlwydd oed neu hŷn, gymryd rhan yn etholiadau’r Senedd Daflen Gwybodaeth: A Ydych yn 14-16 oed neu`n ddinesydd tramor sy`n byw yng Nghymru? |
Ceir llawer o wybodaeth ddefnyddiol ynglŷn â chofrestru i bleidleisio ar wefan y Comisiwn Etholiadol
I gysylltu â’n Tîm Gwasanaethau Etholiadol ewch i: electoralservices@pembrokeshire.gov.uk (01437) 775844.
Cwestiynau Cyffredin
Beth ddylwn i ei wneud os nad ydw i wedi derbyn ffurflen?
Bydd y ffurflenni’n cael eu hanfon dros yr wythnos nesaf. Arhoswch tan 31 Gorffennaf cyn cysylltu â ni ynglŷn â dim derbyn ffurflen – dylech dderbyn un yn yr ychydig ddyddiau nesaf.
 phwy ddylwn i gysylltu os nad ydw i wedi derbyn ffurflen?
A. Gellir cysylltu â ni drwy e-bostio electoralservices@pembrokeshire.gov.uk
Os oes angen i chi gysylltu â ni dros y ffôn, ffoniwch 01437 775844. Sylwer - oherwydd y mesurau ymbellhau cymdeithasol sydd ar waith ar hyn o bryd, mae ein gwasanaeth swyddfa yn gyfyngedig. Byddwn yn ymdrechu i gysylltu’n ôl â chi cyn gynted â phosibl.
Beth yw diben y ffurflen?
Mae’r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor Sir sicrhau bod y gofrestr etholiadol yn cael ei diweddaru drwy ysgrifennu at bob aelwyd yn yr ardal yn flynyddol. Mae’r rhain yn nodi pobl y mae angen iddynt gofrestru fel y gallant gymryd rhan mewn etholiadau yn y dyfodol.
Dim ond ers rhai wythnosau rydw i wedi bod yn byw yn fy eiddo – beth ddylwn i ei wneud?
Dylech ddilyn y camau syml a nodir ar y ffurflen. Bydd dilyn y camau hyn yn sicrhau eich bod yn cael eich cofrestru i bleidleisio yn eich cyfeiriad newydd.
Dw i wedi symud i adeilad newydd yn ddiweddar. Beth ddylwn i ei wneud?
Os ydych chi wedi derbyn ffurflen, dylech ddilyn y camau syml a nodir ar y ffurflen. Bydd dilyn y camau hyn yn sicrhau eich bod yn cael eich cofrestru i bleidleisio yn eich cyfeiriad newydd. Os nad ydych chi wedi derbyn ffurflen cyn 31 Gorffennaf, efallai na fydd gennym fanylion eich eiddo newydd, felly dylech gysylltu â ni drwy e-bostio electoralservices@pembrokeshire.gov.uk.
Pam ydych chi’n dal i anfon y ffurflenni hyn ataf?
Mae’r gyfraith yn mynnu ein bod yn anfon ffurflen ganfasio bob blwyddyn. Os nad ydych chi’n ateb, rhaid i ni anfon nodyn atgoffa atoch. Ymatebwch i’r ffurflen cyn gynted â phosibl fel nad oes rhaid i ni anfon negeseuon atgoffa.
Pam fod angen manylion fy mab/merch 14/15 oed arnoch?
Mae’r gyfraith etholiadol yng Nghymru wedi newid – gall pobl ifanc 14 i 16 oed bellach gofrestru i bleidleisio gan fod yr oedran pleidleisio ar gyfer etholiadau’r Senedd wedi gostwng i 16. Cynhelir etholiadau nesaf y Senedd ar 6 Mai 2021, felly mae’n bwysig ein bod yn casglu’r wybodaeth yma.
A oes modd i bobl o unrhyw genedligrwydd gofrestru i bleidleisio?
Mae’r gyfraith etholiadol yng Nghymru wedi newid – bydd dinasyddion tramor cymwys dros 16 oed yn gallu pleidleisio yn etholiadau’r Senedd. Cynhelir etholiadau nesaf y Senedd ar 6 Mai 2021, felly mae’n bwysig ein bod yn casglu’r wybodaeth hon.
Nid oes gen i ddiddordeb mewn pleidleisio, felly a oes rhaid i mi ddychwelyd y ffurflen?
Mae’n ofyniad cyfreithiol i gofrestru i bleidleisio. Chi sydd i benderfynu a ydych yn pleidleisio mewn etholiad. Cofiwch y gall peidio â chofrestru i bleidleisio effeithio ar eich sgôr credyd wrth i’r cwmnïau credyd wirio yn erbyn y gofrestr etholiadol.