Etholiadau a Phleidleisio

Adolygiadau Ffiniau

Penderfyniad Llywodraeth Cymru ar yr Adolygiad o Drefniadau Etholaethol ar gyfer Sir Benfro. 

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cadarnhau'r penderfyniad a ddaethpwyd iddo mewn perthynas â'r adolygiad uchod.

Derbyniwyd nifer y cynghorwyr a’r trefniadau ffin fel yr amlinellwyd yn Adroddiad Argymhellion Terfynol y comisiwn.

Mae'r Gweinidog wedi penderfynu derbyn argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, gydag addasiadau. Rhestrir yr addasiadau, sy’n ymwneud ag enwau rhai wardiau etholiadol, yn atodiad y Datganiad ysgrifenedig

Mae'r Comisiwn Ffiniau i Gymru wedi cyhoeddi ei adroddiad yn cynnwys cynigion cychwynnol ar gyfer newidiadau i etholaethau seneddol yng Nghymru.  

Mae'r adroddiad a mapiau cysylltiedig ar gael ar wefan y comisiwn.

Y dyddiad cau ar gyfer y cyfnod ymgynghori, a gychwynnodd ar 8 Medi 2021, yw 3 Tachwedd 2021.

Dylid gwneud sylwadau am y cynigion cychwynnol erbyn 3 Tachwedd. Gallwch gyflwyno sylwadau drwy'r porth ymgynghori ar-lein, drwy anfon e-bost at bcw@boundaries.wales, neu drwy'r post i’r Comisiwn Ffiniau i Gymru, Tŷ Hastings, Caerdydd, CF24 0BL.

Y ffordd orau o weld y mapiau a chynigion yw drwy wefan y comisiwn. Mae copïau caled o'r cynigion ar gyfer etholaeth arfaethedig Canolbarth a De Penfro ar gael yn Llyfrgell Glan-yr-afon, Hwlffordd.

ID: 8164, adolygwyd 16/03/2023