Etholiadau a Phleidleisio
Beth yw gofrestr etholiadol?
Rhestr o bobl sydd wedi eu cofrestru i bleidleisio yw’r gofrestr etholiadol. Er mwyn medru pleidleisio mewn etholiadau lleol a chenedlaethol, bydd angen i chi fod ar y gofrestr etholiadol.
Swyddfa'r Gwasanaethau Etholiadol sy'n gyfrifol am gynnal a chadw'r Gofrestr Etholiadol yn Sir Benfro. Ers 10 Mehefin 2014, mae'r holl geisiadau ymgofrestru newydd yn gorfod cael eu gwneud yn unigol.
Gofynnir i bob ceisydd roi'r manylion canlynol:
- Enw
- Cyfeiriad a chyfeiriad blaenorol
- Cenedligrwydd
- Dyddiad geni
- Rhif Yswiriant Gwladol
Bydd y manylion yn cael eu gwirio yn ôl cofnodion eraill er mwyn cadarnhau pwy yw'r ceisydd cyn y gall y swyddog cofrestru roi sêl ei fendith ar y cais.
Os byddwn ni'n cael unrhyw anhawster cadarnhau eich manylion, yna fe wnawn ni gysylltu â chi. Efallai y gofynnir ichi roi gwybodaeth ychwanegol.
Os byddwch chi'n newid eich cyfeiriad, rydych chi'n gorfod rhoi gwybod inni.
Er mwyn cofrestru pleidlais, mae angen ffurflen gofrestru etholiadol arnoch. Llenwch hi, llofnodwch hi’n bersonol, fel y gofynnir, a’i dychwelyd at
Gwasanaethau Etholiadol,
Cyngor Sir Penfro,
Uned 23,
Ystad Ddiwydiannol Thornton,
Aberdaugleddau.
SA73 2RR
Fel arall, gallwch anfon e-bost at electoralservices@pembrokeshire.gov.uk er mwyn gofyn am ffurflen cofrestriad treigl.
Gallwch gofrestru i bleidleisio os ydych yn:
- 16 neu hŷn (ond ni allwch bleidleisio tan eich bod yn 18)
- ddinesydd Prydeinig, Gwyddelig, y Gymanwlad neu’r Undeb Ewropeaidd
- ddinesydd o wlad Undeb Ewropeaidd sy’n byw yn y DU.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am gofrestru etholiadol, neu os hoffech edrych i wneud yn siŵr eich bod ar y gofrestr etholiadol, cysylltwch â Swyddfa Gwasanaethau Etholiadol ar 01437 775714, neu anfonwch e-bost at electoralservices@pembrokeshire.gov.uk
Cofrestr Etholiadol a Agored
Y Gofrestr Etholiadol
Mae’r gofrestr etholiadol yn rhestru pawb sy’n gymwys i bleidleisio. Dim ond pobl a sefydliadau penodol all gael copїau o’r gofrestr etholiadol a dim ond at bwrpas penodedig, yn unig, y gallant ei defnyddio.
Y prif ddefnydd a wneir o’r gofrestr etholiadol yw ar gyfer etholiadau a refferenda. Gellir hefyd ei defnyddio ar gyfer atal a darganfod trosedd, gorfodi cyfraith droseddol a gwirio hunaniaeth pan ydych yn gwneud cais am gredyd.
Rhoddir manylion am bwy all gael copїau ac at ba bwrpas y gellir eu defnyddio’r gofrestr etholiadol yn Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Diwygiedig) 2002 (Cymru a Lloegr). Byddai’n dramgwydd troseddol i beidio â chydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
Y Gofrestr Agored
Mae’r gofrestr agored yn hepgor enwau a chyfeiriadau pobl sydd wedi gofyn am gael eu manylion wedi eu hatal o’r fersiwn hwn o’r gofrestr. Gellir prynu’r gofrestr agored gan unrhyw un sy’n gofyn am gopi a gallant ei defnyddio at unrhyw bwrpas.
Os nad ydych yn dymuno cynnwys eich enw a’ch cyfeiriad yn y gofrestr agored, dylech ddynodi hyn ar y ffurflen flynyddol a anfonir i’ch tŷ. Os ydych yn gwneud cais am gynhwysiad ar unrhyw adeg arall o dan gofrestriad treigl, bydd angen i chi ddynodi hyn ar y ffurflen y byddwch yn ei chwblhau.