Etholiadau a Phleidleisio

Canfas Cofrestru Etholiadol 2024

Mae dau etholiad wedi bod eleni ond mae'r canfasiad blynyddol yn dal i fod yn ofyniad cyfreithiol a bydd Awdurdodau Lleol ledled y DU yn ei gyflawni.

Mae'n ofynnol i ni ddiweddaru ein cofrestr o bleidleiswyr cymwys. Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn cysylltu â phob cartref i weld a yw'r manylion ar y gofrestr etholiadol yn gywir.

Gellir cysylltu â'ch cartref trwy:

  • e-bost
  • ffôn
  • post

Bydd llawer o drigolion eisioes wedi derbyn e-bost yn gofyn i wirio a chadarnhau eu manylion ond os nad ydych, byddwch yn derbyn llythyr yn ystod yr wythnos nesaf. Os ydych eisioes wedi cadarnhau eich manylion drwy e-bost ar gyfer eleni ni fyddwch yn derbyn ffurflen.

Beth sydd angen i chi ei wneud?

Rhaid i chi ddarllen y ffurflen a gewch yn ofalus. Bydd y cyfarwyddiadau ar flaen y ffurflen yn rhoi manylion am yr union beth sydd angen i chi ei wneud.

Rhaid i chi sicrhau bod pawb sy'n byw yn eich cyfeiriad, ac sydd dros 14 oed, yn cael eu cynnwys.

Os oes angen i chi ddiweddaru eich manylion ar y gofrestr etholiadol, maen bwysig eich bod yn ymateb cyn gynted ag y gallwch fel nad oes rhaid anfon nodiadau atgoffa i chi.

Ymatebwch ar-lein os gallwch trwy ddilyn y cyfarwyddiadau ar y ffurflen a gaiff ei hanfon atoch.

Dim ond ychydig funudau fydd eu hangen arnoch i'w chwblhau ar-lein

Cam Un:

Ewch i'r wefan: Diweddarwch eich manylion (yn agor mewn tab newydd)

Cam Dau:

Rhowch eich cod diogelwch unigryw i mewn:

Rhan 1: 12345

Rhan 2: 6789

Cod Post

Cam Tri:

Diweddarwch yr wybodaeth am eich cartref a'i chyflwyno.

Cofiwch gynnwys enwau a chenedligrwydd pawb sy'n byw yn y cyfeiriad hwn.

Os byddwch yn ychwanegu unrhyw bobl newydd, bydd angen iddynt hwy hefyd gwblhau cais i gofrestru. Gallant wneud hyn yn: Cofrestru i Bleidleisio (yn agor mewn tab newydd)

Byddwn yn anfon ffurflen at bob unigolyn os nad ydynt yn gwneud cais ar-lein.

llythyr - pwy sy'n gymwys i gofrestru i bleidleisio

Noder:

Gall pobl ifanc 14-16 oed a gwladolion tramor cymwys sy'n byw yng Nghymru gofrestru i bleidleisio.

Drwy gofrestru i bleidleisio gall person ifanc a gwladolyn tramor cymwys, 16 oed neu hŷn, gymryd rhan yn etholiadau llwyodraeth leol a'r Senedd.

Mae rhagor o wybodaeth am gofrestru i bleidleisio ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol (yn agor mewn tab newydd)

Gellir cysylltu â'n Tîm Gwasanaethau Etholiadol drwy e-bost: gwasanaethauetholiadol@pembrokeshire.gov.uk neu dros y ffôn: 01437 775844.

Cwestiynau Cyffredin 

Beth ddylwn i ei wneud os nad ydw i wedi derbyn ffurflen?

Bydd y ffurflenni'n cael eu hanfon dros yr wythnosau nesaf.

 phwy dylwn i gysylltu os nad ydw i wedi derbyn un?

Gellir cysylltu â'r tîm drwy e-bostio: gwasanaethauetholiadol@pembrokshire.gov.uk

Os ydych am gysylltu â ni dros y ffôn, ffoniwch: 01437 775844

Beth yw diben y ffurflen?

Mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i ni sicrhau bod y gofrestr etholiadol yn cael ei diweddaru drwy ysgrifennu at bob cartref yn yr ardal yn flynyddol. Bydd hyn yn nodi pwy sydd angen cofrestru i bleidleisio fel y gallant gymryd rhan mewn etholiadau yn y dyfodol.

Dim ond ers rhai wythnosau rydw i wedi bod yn fy eiddo - beth ddylwn i ei wneud?

Dylech ddilyn y camau syml a nodir ar y ffurflen. Bydd dilyn y camau hyn yn sicrhau eich bod yn cofrestru i bleidleisio yn eich cyfeiriad newydd.

Rydw i wedi symud i mewn i adeilad newydd yn ddiweddar - beth ddylwn ei wneud?

Os ydych wedi cael ffurflen, dylech ddilyn y camau syml a nodir ar y ffurflen. Bydd dilyn y camau hyn yn sicrhau eich bod yn cofrestru i bleidleisio yn eich cyfeiriad newydd.

Pam ydych chi'n dal i anfon y ffurflenni hyn ataf?

Mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i ni anfon ffurflen ganfasio bob blwyddyn. Os na fyddwch yn ymateb, bydd rhaid i ni anfon nodiadau atgoffa atoch. Ymatebwch i'r ffurflen cyn gynted â phosibl fel nad oes rhaid i ni anfon nodiadau atgoffa.

Pam mae angen manylion fy mab/merch 14/15 oed arnoch chi?

Gall pobl ifanc 14 i 16 oed gofrestru i bleidleisio gan fod yr oedran pleidleisio ar gyfer etholiadau'r Senedd a llywodraeth leol wedi'i ostwng i 16.

A all pobl o unrhyw genedligrwydd gofrestru i bleidleisio?

Bydd dinasyddion tramor cymwys dros 16 oed yn gallu pleidleisio mewn etholiadau Senedd a llywodraeth leol.

Nid oes gennyf unrhyw ddiddordeb mewn pleidleisio, felly a oes rhaid i mi ddychwelyd y ffurflen?

Mae'n ofyniad cyfreithiol i gofrestru i bleidleisio. Chi sydd i benderfynu a ydych yn pleidleisio mewn etholiad. Cofiwch y gall peidio â chofrestru i bleidleisio effeithio ar eich sgôr credyd gan fod y cwmnïau credyd yn gwneud eu gwiriadau trwy ddefnyddio gofrestr etholiadol.

Mae angen i mi ymateb ond nid oes amlen ddychwelyd wedi'i chynnwys. Beth ddylwn i ei wneud?

Ymatebwch i'r ffurflen ar-lein drwy ddilyn y camau syml a nodir ar y ffurflen. Os na allwch ymateb ar-lein, gallwch ddychwelyd y ffurflen ag unrhyw newidiadau i'r cyfeiriad a ddangosir ar frig tudalen 1 ar y ffurflen.

 

ID: 11939, adolygwyd 01/11/2024