Etholiadau a Phleidleisio
Etholiad Llywodraeth Leol 2022
Etholiadau Cynghorau Cymuned
Ni chafwyd digon o enwebiadau ar gyfer cynghorau cymuned Angle, Clunderwen a St Florence.
Mae’r Swyddog Canlyniadau wedi pennu’r dyddiad ar gyfer ailgynnal yr etholiadau yn yr ardaloedd hyn fel 22 Mehefin 2022.
Mae'r Hysbysiadau o Etholiadau i'w gweld yma:
Datganiad Am Y Personau A Enwebwyd: Solfach
Datganiad am y Personau a Enwebwyd: Angle
Datganiad am y Personau a Enwebwyd: Clunderwen
Datganiad am y Personau a Enwebwyd: St Florence
Canlyniadau Etholiad: Cyngor Cymuned Solfach 4 Awst 2022
Etholiad Llywodraeth Leol 2022
Cynhelir Etholiadau Llywodraeth Leol yng Nghymru ddydd Iau 5 Mai 2022.
Bydd hyn yn cynnwys etholiadau i Gyngor Sir Penfro ac etholiadau i Gynghorau Tref a Chymuned yn Sir Benfro. Bydd cynghorwyr etholedig yn cyflawni tymor o 5 mlynedd.
Bydd yr etholiadau llywodraeth leol hyn y cyntaf i gael eu cynnal ers cyflwyno deddfwriaeth newydd yng Nghymru sy’n galluogi i bawb sydd wedi cofrestru, sy’n byw yn gyfreithiol yng Nghymru ac sydd o leiaf 16 oed i bleidleisio ar ddiwrnod y bleidlais.
Dyma’r etholiadau cyntaf hefyd i gael eu gweinyddu ar y trefniadau ffiniau newydd. Efallai y bydd pleidleiswyr yn bwrw pleidlais mewn ward etholiadol wahanol i’r un y maent wedi pleidleisio ynddi o’r blaen – mae rhai wardiau wedi newid a rhai wedi parhau yr un fath. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei rhannu ar hyn mewn deunydd i bleidleiswyr yn y cyfnod cyn yr etholiadau.
Canlyniadau Etholiad
Canlyniadau Etholiad: Etholiadau'r Cyngor Sir
Canlyniadau Etholiad: Etholiadau Cynghorau Tref a Chymuned
Datganiad o ganlyniadau'r pol: Ethol Cynghorwr Sir
Datganiad o ganlyniadau'r pol: Ethol Cynghorwyr Cymuned
Datganiad yr Unigolion sydd wedi’u Henwebu
Ethol Cynghorwr Sir: Datganiad yr Unigolion Sydd Wedi`u Henwebu
Ethol Cynghorwyr Cymuned: Datganiad yr Unigolion Sydd Wedi`u Henwebu
Canlyniad etholiad diwrthwynebiad
Ethol Cynghorwr Sir: Canlyniad Etholiad Diwrthwynebiad
Ethol Cynghorwyr Cymuned: Canlyniad Etholiad Diwrthwynebiad
Penodi asiantiaid
Penodi asiantiaid pleidleisiau post
Hysbysiad o Bleidlais
Lleoliad y Gorsafoedd Pleidleisio
Mi fydd cofrestru yn cau ar y 14eg Ebrill felly bydd y niferoedd o etholwyr yn cael ei ychwanegu I Lleoliad y Gorsafoedd Pleidleisio ar y Ebrill 27ain.
Lleoliad Gorsafoedd Pleidleisio
Gwybodaeth i Ymgeiswyr
Ymgyrchu etholiadol: cerdyn gweithredu mesurau rhesymol posibl (lefel rhybudd 2)
Heddlu Dyfed Powys Taflen wybodaeth mewn perthynas ag Etholiadau Lleol Mai 2022
Electoral Posters and other material placed on Council (Highway) assets
Ymgyrch etholiadol teg a pharchus
Ffurflen a datganiad gwariant ymgeisydd ar gyfer etholiadau cymunedol yng Nghymru
Amserlen
Digwyddiad |
Etholiad |
Diwrnodau gwaith cyn y bleidlais (dyddiad cau os nad canol nos) |
Dyddiad |
---|---|---|---|
Cyhoeddi hysbysiad o etholiad |
Pob un |
Heb fod yn hwyrach na 25 diwrnod |
18 Mawrth |
Cyflwyno papurau enwebu |
Pob un |
O'r dyddiad a nodir ar yr hysbysiad o etholiad hyd at 4pm 19 diwrnod gwaith cyn yr etholiad |
21 Mawrth - 5 Ebrill 4pm |
Dyddiad cau ar gyfer tynnu enwebiadau yn ôl |
Pob un |
19 diwrnod (4pm) |
5 Ebrill 4pm |
Dyddiad cau ar gyfer penodi asiant etholiadol |
Pob un, ag eithrio cyngor cymuned |
19 diwrnod (4pm) |
Ddydd Mawrth 5 Ebrill 4pm |
Gwneud gwrthwynebiadau i bapurau enwebu |
Pob un |
Ar 19 diwrnod (10am i 5pm), yn amodol ar y canlynol:
Rhwng 10am a 12 canol dydd, gellir gwneud gwrthwynebiadau i bob enwebiad a ddosbarthwyd
|
Dydd Mawrth 5 Ebrill 5pm |
Cyhoeddi'r hysbysiad etholiadol interim cyntaf o newid |
Pob un |
19 diwrnod
|
Dydd Mawrth 5 Ebrill |
Cyhoeddi datganiad o bersonau a enwebwyd |
Pob un |
Heb fod yn hwyrach na 18 diwrnod (4pm) |
Dydd Mercher 6 Ebrill |
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau i gofrestru |
Pob un |
12 diwrnod |
Dydd Iau 14 Ebrill |
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau pleidleisio post a phleidleisio drwy ddirprwy newydd. ac ar gyfer newidiadau i bleidleisiau post a thrwy ddirprwy presennol |
Pob un |
11 diwrnod (5pm) |
5pm ddydd Mawrth 19 Ebrill |
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau newydd i bleidleisio drwy ddirprwy (dim pleidleisiau dirprwy drwy'r post na dirprwy mewn argyfwng) |
Pob un |
6 diwrnod (5pm) |
Ddydd Mawrth 26 Ebrill 5pm |
Cyhoeddi'r ail hysbysiad etholiadol interim o newid |
Pob un |
Rhwng 18 diwrnod a 6 diwrnod |
Dydd Mawrth 26 Ebrill |
Cyhoeddi hysbysiad etholiad |
Pob un |
Heb fod yn hwyrach na 6 diwrnod |
Heb fod yn hwyrach na dydd Mawrth 26 Ebrill |
Cyhoeddi hysbysiad etholiadol o newid terfynol |
Pob un |
5 diwrnod |
Dydd Mercher 27 Ebrill |
Dyddiad cau ar gyfer hysbysu penodi asiantiaid pleidleisio a chyfrif |
Pob un |
5 diwrnod |
Dydd Mercher 27 Ebrill |
Dyddiad cyntaf y gall etholwyr wneud cais i ailosod pleidleisiau post coll |
Pob un |
4 diwrnod |
Dydd Iau 28 Ebrill |
Diwrnod pleidleisio
|
Pob un |
0 (7am i 10pm) |
Ddydd Iau 5 Mai 7am i 10pm |
Amser olaf y gall etholwyr wneud cais i ailosod pleidleisiau post coll neu wedi difetha |
Pob un |
0 (5pm) |
Ddydd Iau 5 Mai 5pm |
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng |
Pob un |
0 (5pm) |
Ddydd Iau 5 Mai 5pm |
Amser olaf i newid y gofrestr o ganlyniad i gamgymeriad clerigol neu apêl llys |
Pob un |
0 (9pm) |
Ddydd Iau 5 Mai 9pm |
Danfon cofnod o ran treuliau etholiadol (etholiadau cyngor cymuned yn unig) |
Cyngor Cymuned |
Dim hwyrach na 28 diwrnod calendr* ar ôl diwrnod yr etholiad |
Dydd Llun 6 Mehefin |
Danfon cofnod o ran treuliau etholiadol |
Pob un, ag eithrio cyngor cymuned |
Dim hwyrach na 35 diwrnod calendr* ar ôl y dyddiad y cyhoeddir canlyniad yr etholiad |
Dydd Gwener 10 Mehefin
|
Anfon hysbysiadau gwrthod dynodyddion pleidleisiau post |
Pob un |
O fewn 3 mis calendr yn cychwyn gyda dyddiad y bleidlais |
Erbyn Dydd Gwener 5 Awst |
Hysbysiad o Etholiad
Hysbysiad o Etholiad: Etholiad Cynghorwyr Sir
Hysbysiad o Etholiad: Etholiad o Gynghorwyr Tref a Chymuned
Enwebiadau
Dylid cyflwyno papurau enwebu ar gyfer ymgeiswyr â llaw i’r Swyddog Canlyniadau, Will Bramble, yn Neuadd y Sir, Hwlffordd, SA61 1TP, rhwng 10am a 4pm yn ystod y cyfnod rhwng 21 Mawrth 2022 a 4pm ar 5 Ebrill 2022.
Bydd gwybodaeth bellach o ran cyflwyno enwebiadau’n cael ei chynnwys yma maes o law.
Os oes angen, gellir cyflwyno papurau enwebu dros e-bost i returningofficer@pembrokeshire.gov.uk. Os byddwch chi’n e-bostio eich papurau enwebu, eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eu bod wedi cael eu derbyn a bod y Swyddog Canlyniadau’n fodlon eu bod wedi cael eu llenwi’n gywir erbyn y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau.
Mae papurau enwebu bellach ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol. Gallwch gael mynediad iddynt trwy'r ddolen ganlyn: Comisiwn Etholiad - Papurau Enwebu
Papurau Enwebu Etholiadau Tref a Chymuned
Cofrestru i Bleidleisio
Mae’r dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio bellach wedi mynd heibio.
I fod yn gymwys i bleidleisio yn yr Etholiadau Llywodraeth Leol, mae’n rhaid cofrestru.
- Mae etholwyr o unrhyw genedligrwydd yn gymwys i gofrestru i bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru.]
- Mae etholwyr dros 16 oed yn gymwys i gofrestru i bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru.
Pleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy
Os na fyddwch chi’n gallu mynd i orsaf bleidleisio, gallwch wneud cais i bleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am bleidleisio drwy’r post a thrwy ddirprwy ar wefan y Comisiwn Etholiadol.
Mae’r dyddiad cau i wneud cais am bleidlais bost bellach wedi mynd heibio, gallwch wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy hyd at 5pm 26 Ebrill 2022.
Dolenni