Etholiadau a Phleidleisio

Etholiadau 2026

Ward Castell Cyngor Tref Hwlffordd - Rhybudd Etholiad

Etholiad Senedd - 7 Mai 2026

Bydd newidiadau mawr yn dod i rym cyn etholiadau Senedd Cymru ar 7 Mai 2026. Gellir dod o hyd i'r hyn sydd angen i chi ei wybod ar dudalen Cyfri'r dyddiau tan Etholiad y Senedd 2026: Pum peth i chi eu gwybod (yn agor mewn tab newydd) ar wefan Senedd Cymru.

Bydd pleidleiswyr Sir Benfro yn pleidleisio yn etholaeth Ceredigion Penfro.

Map o etholaeth Ceredigion Penfro (yn agor mewn tab newydd). 

Eifion Evans yw Swyddog Canlyniadau'r Etholaeth.

Os ydych chi angen rhagor o wybodaeth cysylltwch  â'r Swyddog Canlyniadau'r Etholaeth drwy e-bostio: CRO-SCE@ceredigion.gov.uk, drwy ffonio 01545 570881 neu drwy'r post - Swyddog Canlyniadau'r Etholaeth, Cyngor Sir Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron SA46 0PA.

Ceir gwybodaeth ar gyfer Ymgeiswyr ac Asiantiaid (yn agor mewn tab newydd) ar gwefan Cyngor Sir Ceredigon.

Am ragor o wybodaeth am etholiadau'r Senedd ewch i bwrwpleidlais.cymru (yn agor mewn tab newydd)

 

Pwy sy'n cael pleidleisio yn yr etholiad hwn?

Er mwyn pleidleisio mewn unrhyw etholiad yn y Deyrnas Unedig, mae'n rhaid i chi gofrestru i bleidleisio.

Ar ôl cofrestru, gall y bobl ganlynol bleidleisio yn Etholiad Senedd Cymru ar 7 Mai 2026:

  • Pobl sy'n 16 oed neu'n hŷn
  • Dinasyddion Prydeinig, Gwyddelig, neu ddinasyddion cymwys o'r Gymanwlad
  • Dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd
  • Dinasyddion tramor cymwys (dinesydd tramor cymwys yw rhywun sydd â'r hawl i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig, neu rywun nad oes angen hawl o'r fath arno/arni). 

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y Comisiwn Etholiadol (yn agor mewn tab newydd)

 

Dyddiadau allweddol a dolenni - Etholiad Senedd 

Bydd mwy o wybodaeth yn dilyn wrth i'r amserlen symud ymlaen, gan gynnwys gwybodaeth am bleidleisio hygyrch.

 

 

ID: 8944, adolygwyd 12/05/2026