Etholiadau a Phleidleisio
Pwy all Gofrestru?
Rydych chi’n gymwys i gael eich cofrestru os ydych chi’n byw yn y Wlad hon, yn un o ddinasyddion Prydain, Iwerddon, yr Undeb Ewropeaidd, a'ch bod dros 16 oed.
Mae Dinasyddion Tiriogaethau Tramor Prydain hefyd yn gymwys i gael eu cofrestru.
NID YDYCH yn gymwys i gael eich cofrestru os ydych chi'n ddinesydd tramor (ac eithrio'r hyn a nodir uchod), yn unigolyn a gollfarnwyd dan gadwad, neu os ydych o dan 16 oed.
Aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd
Awstria | Gwlad Belg | Bwlgaria |
Cyprus | Y Weriniaeth Tsiec | Denmarc |
Estonia | Y Ffindir | Ffrainc |
Yr Almaen | Gwlad Groeg | Hwngari |
Iwerddon | Yr Eidal | Latfia |
Lithwania | Lwcsembwrg | Malta |
Yr Iseldiroedd | Gwlad Pwyl | Portiwgal |
Rwmania | Slofacia | Slofenia |
Sbaen | Sweden | Y Deyrnas Unedig |
Tiriogaethau Tramor Prydain
Anguilla | Ynysoedd Cayman | Ynys Pitcairn |
Bermwda | Ynysoedd y Malfinas | Ynys y Santes Helena a'i Dibynwledydd |
Tiriogaethau Antarctig Prydeinig | Gibraltar | Ynysoedd South Georgia a South Sandwich |
Y Diriogaeth Brydeinig yng Nghefnfor India | Hong Kong* | Ardaloedd y Canolfannau Sofran ar Ynys Cyprus |
Ynysoedd y Wyryf Prydeinig | Montserrat | Ynysoedd Turks a Caicos |
*Mae nifer fawr o ddinasyddion Hong Kong eisoes yn ddinasyddion Prydeinig ac felly maent yn gymwys i gael eu cofrestru. Fodd bynnag, roedd y mwyafrif o ddinasyddion Hong Kong yn ddinasyddion Tiriogaeth Dibynwledydd Prydain o'r blaen. Fe beidiodd Hong Kong â bod yn Diriogaeth Dibynwledydd Prydain ar Orffennaf 1af 1997. Bellach byddant yn cael eu hystyried yn Ddinasyddion Prydeinig (Tramor) neu’n ddinasyddion Tramor Prydain - y mae'r ddau ohonynt oddi mewn i'r hyn a ystyrir yn "ddinasyddion y Gymanwlad" yn unol â'r diffiniad gan Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981 ac maent yn gymwys i gael eu cofrestru.
Gwledydd y Gymanwlad
Antigwa a Barbwda | Lesotho | Ynysoedd Solomon |
Awstralia | Malawi | De Affrica |
Y Bahamas | Maleisia | Sri Lanka |
Bangladesh | Y Maldives | Swaziland |
Barbados | Malta* | Gweriniaeth Unedig Tansanïa |
Belize | Mawrisiws | Tonga |
Botswana | Mozambique | Trinidad a Thobago |
Brunei Darussalam | Namibia | Twfalw |
Camerŵn | Nawrw | Wganda |
Canada | Seland Newydd | Y Deyrnas Unedig** |
Cyprus* | Nigeria | Vanuatu |
Dominica | Pacistan | Sambia |
Ynysoedd Ffiji*** | Papua Gini Newydd | Simbabwe*** |
Y Gambia | Rwanda | |
Ghana | St Christopher a Nevis | |
Grenada | St Lucia | |
Gaiana | St Vincent a'r Grenadines | |
India | Samoa | |
Jamaica | Y Seychelles | |
Cenia | Sierra Leone | |
Kiribati | Singapôr |
* Er eu bod hefyd yn aelod-wladwriaethau o'r UE mae dinasyddion Cyprus a Malta yn gymwys i gael eu cofrestru i bleidleisio ym mhob etholiad a gynhelir yn y DU.
** Mae dinasyddion y DU a Gweriniaeth Iwerddon wedi cael eu cofrestru i bleidleisio mewn perthynas â phob etholiad a gynhelir yn y DU.
*** Mae dinasyddion gwledydd y Gymanwlad sydd wedi cael eu hatal dros dro rhag bod yn y Gymanwlad, yn cael cadw eu hawliau pleidleisio.
Swyddfa Gwasanaethau Etholiadol 01437 775714 neu e-bost ar electoralservices@pembrokeshire.gov.uk