Etholiadau a Phleidleisio

ID Pleidleisiwr

O 4 Mai 2023 ymlaen, bydd yn rhaid i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos ID ffotograffig wrth bleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio mewn rhai etholiadau.

Bydd hyn yn gymwys yn y digwyddiadau pleidleisio canlynol:

  • Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
  • Is-etholiadau Senedd y DU
  • Deisebau adalw

O fis Hydref 2023 ymlaen bydd hefyd yn gymwys yn etholiadau Cyffredinol Senedd y DU.

 

Mathau cymeradwy o ID llun

Rhaid i'r ddogfen â llun fod yn un gymeradwy.

Dim ond dogfennau gwreiddiol y gellir eu derbyn. Os yw'ch cerdyn adnabod â llun wedi dod i ben, fe'i derbynnir cyn belled â bod y llun yn dal yn ymdebygu i chi.

Mae'r mathau mwyaf cyffredin o ddogfennau adnabod a ddefnyddir ac a dderbynnir yn cynnwys:

  • Pasbort y DU
  • Trwydded Yrru
  • Cerdyn Bws Oedolyn Hŷn
  • Cerdyn Bws Unigolyn Anabl 
  • Bathodyn Glas

Rhestr llawn o mathau o ID ffotograffig a dderbynnir (yn agor mewn tab newydd)

 

Beth i'w wneud os nad oes gennych gerdyn ID llun

Os nad oes gennych gerdyn adnabod cymeradwy, bydd angen i chi wneud cais am 'Distysgrif Awdurdod Pleidleiswyr' (TAP) am ddim.

Gallwch wneud cais ar-lein am TAP (VAC) trwy wefan GOV.UK (yn agor mewn tab newydd)

Gallwch wnued cais am TAP drwy argraffu a llenwi ffurflen bapur (yn agor mewn tab newydd) a'i hanfon i'n tîm Gwasanaethau Etholiadol. 

Gallwch hefyd e-bostio ein tîm Gwasanaethau Etholiadol i ofyn am ffurflen bapur.

Ar ôl i chi dderbyn eich TAP, ni fydd dyddiad dod i ben arno. Fodd bynnag, cynghorir eich bod yn adnewyddu eich TAP mewn 10 mlynedd i sicrhau bod y llun yn parhau i ddangos gwir denygrwydd i chi.

Y dyddiad cau i wneud cais am TAP fydd 5pm, chwe diwrnod gwaith cyn dyddiad yr etholiad.

 

Pleidleisio drwy'r post

Os ydych yn dewis pleidleisio drwy'r post, ni fydd hyn effeithio arnoch a byddwch yn derbyn eich papurau pleidleisio drwy'r post yn ôl yr arfer.

 

Pleidleisio drwy ddirpwy

Os ydych chi'n dewis pleidleisio trwy ddirpwy, yna bydd yn rhaid i'r sawl rydych chi wedi ymddiried ynddo i bleidleisio ar eich rhan fynd â'u cerdyn adnabod â llun eu hunain. Os nad oes ganddynt gerdyn adnabod â llun, ni fyddant yn cael papur pleidleisio.

 

Yr etholiad nesaf sydd wedi'i gofrestru yn Sir Benfro lle bydd angen dangos dogfen adnabod â llun neu TAP i bleidleisio, fydd yr etholiad ar gyfer Comisiynydd Heddlu a Throseddu ym mis Mai 2024.

 

I gael rhagor o wybodaeth am ID pleidleisiwr, ewch i wefan y Comisiwm Etholiadol (yn agor mewn tab newydd)

 

Cysylltwch â'r Tîm

Os oes angen help arnoch gyda'ch cais, cysyltwch â ni: gwasanaethauetholiadol@sir-penfro.gov.uk neu: (01437) 775844

 

 

 

 



ID: 6656, adolygwyd 31/08/2023