Etholiadau a Phleidleisio

ID Pleidleisiwr

O 4 Mai 2023 ymlaen, bydd yn rhaid i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos ID ffotograffig wrth bleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio mewn rhai etholiadau.

Bydd hyn yn gymwys yn y digwyddiadau pleidleisio canlynol:

  • Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
  • Is-etholiadau Senedd y DU
  • Deisebau adalw

O fis Hydref 2023 ymlaen bydd hefyd yn gymwys yn etholiadau Cyffredinol Senedd y DU.

Os nad oes gennych ID ffotograffig a dderbynnir, gallwch wneud cais am ddogfen ID pleidleisiwr sy’n rhad ac am ddim. Fe’i gelwir yn Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr.

Dysgwch ragor am fathau o ID ffotograffig a dderbynnir, sut i wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr a’r hyn i’w ddisgwyl ar y diwrnod pleidleisio.

Ni fydd yn rhaid i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos ID ffotograffig wrth bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio yn etholiadau’r Senedd neu mewn etholiadau cynghorau lleol.

Am wybodaeth bellach ewch i: ID Pleidleisiwr | Electoral Commission

ID: 8944, adolygwyd 16/03/2023