Etholiadau a Phleidleisio

Pam ddylwn i gofrestru?

Mae’n ofynnol, yn ôl y gyfraith, i chi ddarparu gwybodaeth i’r Swyddfa Gwasanaethau Etholiadol er mwyn sicrhau eich bod wedi cofrestru.

Ni allwch bleidleisio oni bai bod eich enw wedi ei gynnwys ar y gofrestr.

Yn ôl y gyfraith, mae hawl gan asiantaethau sy’n cyfeirio credyd ddefnyddio’r gofrestr – mae’r bobl nad ydynt ar y gofrestr yn wynebu trafferthion wrth geisio cymeradwyo credyd, benthyciad neu forgais iddynt, a hyd yn oes wrth geisio agor cyfrif banc.

 

 

ID: 1315, adolygwyd 13/10/2022