Os nad ydych am fynd eich hun i bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio gallwch wneud cais am gael pleidlais bost. Mae hyn yn fuddiol iawn os ydych chi'n mynd i fod oddi cartref ar y diwrnod pleidleisio neu os taw hynny yw'r peth mwyaf hwylus ar eich cyfer chi.
Mae pleidleisio trwy'r post ar gael i bob un o'r etholwyr sydd wedi ymgofrestru'n unigol. Os nad ydych wedi ymgofrestru'n unigol bydd angen ichi wneud hynny cyn y gallwch chi wneud cais er mwyn pleidleisio trwy'r post.
Gwneud cais am bleidlais drwy'r post
Os ydych chi'n dymuno pleidleisio trwy'r post yna bydd gofyn ichi lanw ffurflen gais. Ar y ffurflen hon fe ofynnir ichi ddodi eich llofnod a'ch dyddiad geni.
Er mwyn cael ffurflen gais byddwch cystal â chysylltu â:
Drwy'r Post -
Gwasanaethu Etholiadol,
Cyngor Sir Penfro
Uned 23
Stad Ddiwydiannol Thornton
Aberdaugleddau
Sir Benfro
SA73 2RR
Gydag e-bost -
electoralservices@pembrokeshire.gov.uk
Dros y ffôn -
01437 775714 neu 01437 775715Î