Etholiadau a Phleidleisio

Pleidleisio am y Tro Cyntaf

Am eich bod chi’n 16 yn awr, gwnewch yn siŵr eich bod yn cael dweud eich dweud – defnyddiwch eich hawl i bleidleisio. Os na fyddwch yn pleidleisio, byddwch yn colli’ch cyfle i ddylanwadu ar y ffordd y rheolir pethau yn y wlad, neu’ch rhan chi ohoni.

Cofiwch, gallwch bleidleisio yn yr etholiadau dim ond os yw eich enw ar Gofrestr yr Etholwyr.

Sut yr ydych yn cofrestru?

Mae pawb yn gorfod ymgofrestru'n unigol erbyn hyn. Gallwch wneud hyn ar-lein yn ymgofrestru i bleidleisio (yn agor mewn tab newydd) neu drwy gysylltu â'n swyddfa.  

 

ID: 1318, adolygwyd 09/11/2023