Etholiadau a Phleidleisio
Pleidleisio Hygyrch
Ein nod yw sicrhau bod pob gorsaf bleidleisio yn hygyrch i bleidleiswyr anabl. Er enghraifft:
- rydym yn darparu rampiau lle bo angen
- bydd y Swyddog Llywyddu ar gael i'ch helpu chi
- bydd y bwth pleidleisio yn addas ar gyfer pobl sy'n defnyddio cadeiriau olwyn a sgwteri
- gall ffrind neu aeold o'r teulu fod gyda chi os oes angen help arnoch
- bydd cadeiriau ar gael i bobl sy'n methu aros ar eu traed am gyfnodau hir
- gallwch ddweud wrth y Swyddog Llywydd os oes angen i chi ddefnyddio ap ar eich ffôn symudol i'ch cynorthwyo wirth bleidleisio
- teclynnau ar gyfer dal pensil
Gallwch chi hefyd ddod yng nghwmni cydymaith i'ch cynorthwyo i bleidleisio.
Hefyd, bydd staff y gorsafoedd pleidleisio yn medru darparu'r cymhorthion canlynol i helpu pleidleiswyr dall neu rannol ddall:
- chwyddwydrau mawr
- dyfais bleidleisio gyffyrddol
- copi o'r papur / papurau pleidleisio mewn print bras
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar blatfform bwrwpleidlais.cymru (yn agor mewn tab newydd)
Ffurflenni ar gyfer pleidleisio drwy'r post a phleidleisio drwy ddirprwy
Gall pleidleiswyr anabl gael pleidlais drwy'r post neu drwy ddirprwy. Anfonir pleidlais bost i gyfeiriad yr etholwr cyn diwrnod y pleidleisio. Pleidlais drwy ddirprwy yw lle rydych chi'n enwebu rhywun i bleidleisio ar eich ran yn eich gorsaf bleidleisio.
Ewch i wefan y Comisiwn Etholiadol (yn agor mewn tab newydd) i gael gwybodaeth ynglŷn â sut mae pleidleisio drwy'r post.
Ewch i wefan y Comisiwn Etholiadol (yn agor mewn tab newydd) i gael gwybodaeth ynglŷn â sut mae pleidleisio drwy ddirprwy ar sail anabledd.
Gallwch chi lawrlwytho'r ffurflenni cais canlynol:
- Cais am bleidlais bost yng Nghymru (yn agor mewn tab newydd)
- Cais i bleidleisio drwy ddirprwy yng Nghymru oherwydd anabledd (yn agor mewn tab newydd)
I ofyn am ffurflen drwy'r post cysylltwch â : gwasanaethauetholiadol@pembrokeshire.gov.uk
Os ydych angen unrhyw gymorth pellach, cysylltwch â'r Swyddog Mynediad: accessofficer@pembrokeshire.gov.uk