Etholiadau a Phleidleisio

Sut ydych yn cofrestru i bleidleisio

Nodwch os gwelwch yn dda - Os ydych chi wedi cofrestru'n barod i bleidleisio mewn Etholiadau, nid oes  angen i chi gofrestru eto.

Mae pawb yn gyfrifol am gofrestru eu hunain. Byddwch yn gorfod rhoi ychydig o fanylion wrth gofrestru - gan gynnwys eich rhif yswiriant gwladol a'ch dyddiad geni. Mae hyn yn gwneud y gofrestr etholwyr yn ddiogel.

Os nad ydych wedi'ch cofrestru ar hyn o bryd, bydd angen i chi gofrestru er mwyn gallu pleidleisio mewn Etholiadau. Gallai cofrestru wella eich statws credyd hefyd.   

Sut ydych yn cofrestru?

  • I gofrestru ar-lein ewch i: Cofrestru i bleidleisio (yn agor mewn tab newydd) 
  • Rhowch eich enw, cyfeiriad, dyddiad geni ac ychydig o fanylion eraill. Bydd arnoch hefyd angen eich rhif yswiriant gwladol, sydd i'w gael ar eich cerdyn yswiriant gwladol, neu mewn gwaith papur swyddogol fel slipiau cyflog, neu lythyrau ynghylch budd-daliadau neu gredydau treth.
  • Gwyliwch am gadarnhad i ddweud eich bod wedi cofrestru.
  • Os nad ydych yn gallu cofrestru ar-lein, cysylltwch â'r Gwasanaethau Etholiadol ar 01437 775844 neu e-bostiwch electoralservices@pembrokeshire.gov.uk

Pleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy

Os na fyddwch yn gallu mynd i orsaf bleidleisio i bleidleisio, gallwch wneud cais i bleidleisio drwy'r post (yn agor mewn tab newydd) neu drwy ddirprwy (yn agor mewn tab newydd). Gallwch gael rhagor o wybodaeth am bleidleisio drwy'r post a thrwy ddirprwy ar wefan y Comisiwn Etholaethol (yn agor mewn tab newydd).

ID: 466, adolygwyd 08/11/2023