Cynllunio eich Digwyddiad

A allaf i werthu bwyd yn fy achlysur?

Gallwch, ond bydd yn rhaid cydymffurfio â deddfau Diogelwch Bwyd. Sicrhewch fod pob ciosg / arlwywyr bwyd wedi'u cofrestru gydag Awdurdod Lleol fel Gweithredwr Busnes Bwyd. Argymhellir yn gryf y dylai trefnwyr wirio bod gan bob arlwywr sgôr hylendid bwyd o 3 neu uwch. Gellir gwirio hyn ar FSA 

Dylid darparu rhestr o enwau, cyfeiriadau, manylion cyswllt a manylion hylendid bwyd o bob ciosg bwyd (gan gynnwys y rhai sy'n rhoi bwyd i ffwrdd fel rhan o arddangosiad) i'r Tîm Diogelwch Bwyd 21 diwrnod cyn y digwyddiad.

Gweler y Rhestr Wirio Arlwyo Awyr Agored a chysylltwch â'n tîm Diogelwch Bwyd am gyngor  01437 764551 neu foodsafety@pembrokeshire.gov.uk.

Bydd angen caniatâd Masnachu ar y Stryd i werthu bwyd neu nwyddau ar y briffordd. Cysylltwch â Thîm Gofal Strydoedd ar 01437 765441 neu streetcare@pembrokeshire.gov.uk 

ID: 4868, adolygwyd 08/03/2023