Cynllunio eich Digwyddiad

Faint o doiledau sydd angen i mi eu darparu ar gyfer fy nigwyddiad awyr agored?

Bydd hyn yn dibynnu ar nifer o ffactorau fel maint a math y digwyddiad, cymhareb dynion i fenywod ac ati.

Mae'r tabl canlynol yn dangos y canllawiau cyffredinol ar gyfer darparu cyfleusterau lles:

Ar gyfer digwyddiadau gydag amser agor y giatiau o 6 awr neu fwy:

  • Benyw: 1 toiled ar gyfer pob 100 o fenywod.  
  • Gwryw: 1 toiled ar gyfer pob 500 o ddynion, ynghyd ag 1 wrinal ar gyfer pob 150 o ddynion.

Ar gyfer digwyddiadau gydag amser agor y giatiau o lai na 6 awr:

  • Benyw: 1 toiled ar gyfer pob 150 o fenywod. 
  • Gwryw: 1 toiled ar gyfer pob 600 o ddynion, ynghyd ag 1 wrinal ar gyfer pob 175 o ddynion. 

Lle bo hynny'n bosibl, lleolwch y toiledau ar wahanol bwyntiau o gwmpas y lleoliad yn hytrach na dim ond mewn dim ond un ardal i leihau problemau gorlenwi a chiwio.

Dylid darparu toiledau hefyd gyda chyfleusterau golchi dwylo, gan gynnwys dŵr poeth a sebon a thywelion, yn enwedig unrhyw gyfleusterau a ddarperir ar gyfer trinwyr bwyd.

Am ragor o fanylion am ddarpariaethau cyfleusterau glanweithdra, cyfeiriwch at BS 6465: Rhan 1 2006 neu'r Purple guide (yn agor mewn tab newydd)

ID: 4889, adolygwyd 12/06/2025