Digwyddiad Iechyd a Diogelwch
A oes angen i mi ysgrifennu asesiad risg?
Mae asesiad risg yn arf allweddol ar gyfer paratoi eich Cynllun Rheoli Digwyddiad.
Fel rhan o reoli iechyd a diogelwch eich digwyddiad, rhaid i chi reoli'r risgiau. Er mwyn gwneud hyn, mae angen i chi feddwl am yr hyn a allai achosi niwed i bobl a phenderfynu a ydych chi'n cymryd camau rhesymol i atal y niwed hwnnw. Gelwir hyn yn asesiad risg ac mae'n rhywbeth y mae'n ofynnol ei wneud yn ôl y gyfraith. Os oes gennych chi lai na phump o weithwyr, does dim rhaid i chi ysgrifennu unrhyw beth i lawr.
Mae canllaw ar sut i asesu'r risgiau, enghreifftiau o asesiadau risg a thempledi asesu risg i'w gweld ar wefan HSE
Mae gwefan HSE hefyd yn rhoi cyngor am y rheolaethau y bydd angen i chi eu cymryd ar gyfer peryglon sy'n gysylltiedig â digwyddiadau.