Digwyddiad Iechyd a Diogelwch

A oes arnaf angen Yswiriant Atebolrwydd?

Oes - ym mhob achos bron. Os ydych yn cyflogi pobl cyn, yn ystod neu ar ôl digwyddiad, mae'n debyg y bydd angen Yswiriant Atebolrwydd Cyflogwyr arnoch chi.  Cyfeiriwch at wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch am ragor o wybodaeth.

Mae hefyd yn arfer cyfrifol i gymryd Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus gydag isafswm o £5 miliwn o Derfyn Indemniad a chyda chymal ‘Indemnity to Principal’. Ni fydd digwyddiadau nad ydynt yn gallu dangos eu bod yn meddu ar yswiriant priodol yn derbyn cefnogaeth y Cyngor nac aelodau eraill Grŵp Cynghori am Ddiogelwch y Digwyddiad.

Bydd ar bob contractwr, perfformiwr ac atyniadau hamdden hefyd angen eu Hyswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus eu hunain gydag isafswm o £5 miliwn o Derfyn Indemniad. Argymhellir bod trefnwyr y digwyddiad yn cael copïau o'r yswiriant fel rhan o'r broses dendro.

ID: 4883, adolygwyd 08/03/2023