Digwyddiad Farchnata a Hyrwyddo
Alla’ i ddefnyddio posteri, arwyddion neu faneri i nodi fy nigwyddiad?
Mae'n bwysig fod yr holl lwybrau y bydd eu hangen yn ystod y digwyddiad yn cael eu harwyddo, ond gallai rhoi arwyddion yn gynnar olygu bod rhywun yn amharu arnyn nhw neu eu bod yn cael eu symud, felly mae'n well peidio â gosod arwyddion tan ddiwrnod neu ychydig oriau cyn y digwyddiad - mae hyn hefyd yn ei gwneud yn bosibl i wneud gwiriadau munud olaf ar y llwybr.
Wrth ddefnyddio arwyddion rhaid i chi sicrhau:
- Eich bod wedi cael caniatâd priodol gan y tirfeddianwyr
- Bod yr arwyddion yn cael eu codi a'u tynnu i lawr yn brydlon
- Nad yw arwyddion neu faneri yn cael eu gwneud o unrhyw ddeunyddiau miniog a allai niweidio da byw, pobl neu fywyd gwyllt
- Bod unrhyw arwyddion yn cydymffurfio â gorchmynion cau ffyrdd.
ID: 4901, adolygwyd 08/03/2023