Digwyddiad Iechyd a Diogelwch
Alla i ryddhau llusernau awyr neu tan gwyllt fel rhan o'm digwyddiad?
Mae'r Cyngor a'r Parc Cenedlaethol wedi cyflwyno gwaharddiad gwirfoddol ar ryddhau llusernau awyr a balwnau heliwm o dir sy'n eiddo i neu sy'n cael ei reoli gan y Cyngor /Parc Cenedlaethol oherwydd yr effaith ar dda byw, planhigion a'r amgylchedd.
Mae pryderon yn cynnwys risgiau i les anifeiliaid trwy lyncu gweddillion a adewir ganddynt yng nghefn gwlad, y môr ac ar yr arfordir. Gan fod llusernau awyr yn cynnwys fflam noeth, roedd pryderon ychwanegol ynglŷn â'r risg tân i adeiladau, eiddo, cnydau a rhostir o ganlyniad y byddai’r llusernau hyn yn glanio heb eu rheoli.
Mae'r Cyngor hefyd yn erbyn eu defnyddio a'u rhyddhau o dir arall lle bynnag y bo modd.
Dylai arddangosfeydd tân gwyllt fod yn adegau pleserus ac ysblennydd - ond mae'n amlwg bod angen rhywfaint o gynllunio cyfrifol arnynt. Gellir cael arweiniad manwl ar drefnu arddangosfa ar wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
Tan Gwyllt
Os ydych chi'n trefnu digwyddiad cyhoeddus mawr, mae’n amlwg y bydd arnoch angen cynllunio manwl yn ogystal â chyfranogiad proffesiynol. Os ydych chi'n cynnal arddangosfa tân gwyllt leol, fel y rhai a drefnir gan lawer o glybiau chwaraeon, ysgolion neu gynghorau plwyf, mae angen i chi ddal i gynllunio'n gyfrifol o hyd, ond nid yw'r un lefel o fanylion yn angenrheidiol nac yn ddisgwyliedig. Isod mae rhai awgrymiadau ac arweiniad i'ch helpu chi.
- Meddyliwch am bwy fydd yn gweithredu'r arddangosfa. Nid oes rheswm pam na ddylech gynnau arddangosiad eich hun ar yr amod ei bod yn cynnwys tân gwyllt yng nghategorïau 1, 2 a 3 yn unig, ond cofiwch mai dim ond gweithredwyr arddangos tân gwyllt proffesiynol sy’n gallu defnyddio tân gwyllt categori 4. Os defnyddir nhw gan rywun heb ei hyfforddi gallant fod yn farwol.
- Ystyriwch a yw'r safle yn addas ac yn ddigon mawr i'ch arddangosfa. A oes lle i'r tân gwyllt lanio yn ddigon pell oddi wrth wylwyr? Cofiwch edrych yng ngolau dydd a oes llinellau pŵer uwchben a rhwystrau eraill o gwmpas. Beth yw cyfeiriad y prifwynt? Beth fyddai'n digwydd petai'n newid?
- Meddyliwch am yr hyn y byddech chi'n ei wneud pe bai pethau'n mynd o chwith. Gwnewch yn siŵr fod rhywun a fydd yn gyfrifol am alw'r gwasanaethau brys
- Sicrhewch eich bod yn cael y tân gwyllt gan gyflenwr cofrestredig neu drwyddedig adnabyddus.
- Gofalwch fod gennych le addas i storio'r tân gwyllt. Dylai eich cyflenwr tân gwyllt allu eich cynghori.
- Y bore ar ôl yr arddangosfa, edrychwch yn ofalus ar y safle a'i chlirio. Gwaredwch dân gwyllt yn ddiogel. Ni ddylent byth gael eu llosgi mewn lle cyfyngedig.
Ni ddylech gynnau tân gwyllt rhwng 11pm a 7am, ac eithrio:
- Noson Tân Gwyllt, pan estynnir hyn i hanner nos
- Nos Galan, Diwali a’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd, pan estynnir hyn i 1am.