Digwyddiad Iechyd a Diogelwch
Casglu arian parod
Os cesglir arian yn eich digwyddiad yna dylid ei gynnwys yn yr asesiad risg. Dylech:
- Sicrhau bod hyn yn cael ei gadw i'r lleiafswm yn y mannau casglu a bod casgliadau rheolaidd yn cael eu gwneud i ardal ddiogel.
- Efallai y bydd ar stiwardiaid neu gynorthwywyr sy'n casglu arian angen gwregysau arian neu gyfleusterau cario arian eraill ac ni ddylent weithredu ar eu pen eu hunain.
- Dylid rhoi ystyriaeth ofalus iawn i drefniadau cyfrif a bancio.
ID: 4884, adolygwyd 08/03/2023