Ffitrwydd a Ffyniant
Cynllun Atgyfeirio Ymarfer
Mae'r Cynllun Atgyfeirio Ymarfer Cenedlaethol yn rhaglen o weithgareddau wedi eu llunio i bobl nad ydynt yn gwneud llawer ar hyn o bryd neu sy'n ymarfer llai na thair gwaith yr wythnos. Mae hefyd i bobl sy'n dioddef gan un neu ragor o gyflyrau meddygol ysgafn neu gymedrol, fel pwysedd gwaed uchel, gwynegon, iselder ysbryd ac ati; neu eu bod wedi eu canfod mewn perygl o ddatblygu'r cyflyrau hyn. (Bydd rhagor o wybodaeth gyda'ch gweithiwr iechyd proffesiynol).
Mae'r cynnwys yn cynnwys cyfeirio rhywun i ganolfan hamdden leol gan dy weithiwr iechyd proffesiynol, sy'n credu y bydd ymarfer yn helpu i atal, rheoli a gwella dy gyflwr.
Sut ydw i'n cychwyn?
Bydd rhaid i ti weld dy weithiwr iechyd proffesiynol a bydd e' neu hi yn llenwi ffurflen atgyfeirio a'i hanfon atom ni ar dy ran di. Fe fyddan nhw hefyd wedi rhoi copi i ti. Yna fe gei di wahoddiad i dy ganolfan hamdden leol neu bwll nofio i gael dy apwyntiad cyntaf.
Beth mae'r rhaglen yn ei gynnwys?
Yn ystod dy ymweliad cyntaf, bydd y Tîm Atgyfeirio Ymarfer yn dod i dy weld i ddarganfod ychydig rhagor o hanes dy iechyd, gwneud profion iechyd sylfaenol a thrafod y dewis o ymarferion sy'n addas i ti. Bydd y gweithgareddau yn hwyl a'u nod fydd dy helpu di i ddod yn iachach trwy nifer o ddosbarthiadau, fel y gampfa neu ymarferion mewn dŵr.
Pryd ydw i'n mynd yno?
Bydd sesiynau gweithgarwch ar gael i ti drwy'r wythnos, yn cynnwys rhai nosweithiau a phenwythnosau. Bydd yr hyfforddwr Atgyfeirio Iechyd yn llunio rhaglen o weithgareddau addas i dy anghenion.
Faint o amser mae'r cynllun yn parhau?
Bydd dy raglen wedi ei chymeradwyo o flaen llaw yn parhau am 16 o wythnosau ac yn ystod yr amser hwnnw fe fyddi di'n medru mynd i gymaint o sesiynau ag y mynni di.
Faint fydd y gost?
Mae sesiynau ymarfer gyda'r cynllun yma yn £2.00 yr un.
Beth fydd rhaid i mi wisgo?
Does dim rhaid i ti wisgo dim dillad arbennig cyn belled dy fod yn gyfforddus. Mae'n well gwisgo esgidiau meddal gwastad neu esgidiau hyfforddi.
Oes angen i mi fod yn heini?
Nac oes. Mae modd llunio'r ymarfer ar gyfer gwahanol alluoedd, felly fe gei di gyngor ynglŷn â faint o ymarfer sy'n iawn i ti.
Beth fydd yn digwydd wedi 16 o wythnosau?
Tua diwedd dy 16 o wythnosau, fe gei di wahoddiad i ail apwyntiad i drafod sut wyt ti wedi dod yn dy flaen ac anghenion o ran ymarfer yn y pen draw. Yna fe gei di gyngor am y dewis o gyfleoedd i ymarfer a'r gwahanol ddewisiadau o brisiau sydd ar gael.
Beth nesaf?
Mae bod yn aelod o Hamdden Sir Benfro yn gyfle i ti fwrw ymlaen â'r gweithgareddau rwyt ti wedi eu mwynhau o dan y Cynllun Ymarfer Cenedlaethol.
Fe gei di ragor o wybodaeth am aelodaeth wrth i ti orffen y Rhaglen Atgyfeirio Ymarfer.