Ffitrwydd a Ffyniant
Rhaglen cerdded
Darperir y rhaglen ar y cyd â'r Parciau Cenedlaethol.
Mae'r Gweithiwr Ymarfer Proffesiynol David Braithwaite a Chydlynydd ‘Walkability' y Parciau Cenedlaethol Paul Casson yn cynnig teithiau cerdded bob yn ail bnawn dydd Mawrth trwy gydol y flwyddyn ac yn trefnu mannau cychwyn o nifer o leoliadau yn Sir Benfro.
Mae gan y ddau arweinydd gymwysterau gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ar gyfer y Diffibriliwr ac mae diffibriliwr yn mynd ar bob taith gerdded. Mae gan Paul fws mini ar ei gyfer y mae'n ei ddefnyddio i gludo unrhyw gleientiaid heb fodur i fynd i'r lleoliadau. Mae'r man cyfarfod yn ymyl Canolfan Hamdden Hwlffordd ar faes parcio Riflemans Field.
Does dim rhaid i weithgarwch corfforol fod yn gymhleth. Mae rhywbeth mor syml a mynd am dro gweddol sionc bob dydd yn gallu eich helpu i fyw'n fwy iach.
Mae manteision cerdded sionc rheolaidd yn gallu eich helpu chi i:
- Gadw eich pwysau yn iach
- Atal neu reoli nifer o gyflyrau, fel clefyd y galon, pwysau gwaed uchel a chlefyd siwgr o'r ail fath
- Cryfhau eich esgyrn
- Codi eich ysbryd
- Gwella eich cydbwysedd a'ch cydsymud
Mwyaf cyflym, mwyaf pell a mwyaf aml y byddwch yn cerdded - mwyaf fydd y manteision
Cymerwch gip ar y rhaglen teithiau cerdded cyfredol
Paul Casson - Cydlynydd Prosiect ‘Walkability'
|
Mae Cynllun Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff yn cydweithio â Pharciau Cenedlaethol Sir Benfro er mwyn trefnu teithiau cerdded yn benodol ar gyfer ein cleientiaid sy'n gleifion â'r galon/cleifion sydd wedi eu hatgyfeirio i wneud ymarfer corff. Paul yw Cydlynydd Prosiect Walkability ar gyfer Sir Benfro ac mae e'n rhoi cymorth i weithgareddau cerdded ar gyfer grwpiau iechyd. Ym Mhrifysgol Loughborough y llwyddodd Paul i ennill cymwysterau i fod yn athro Addysg Gorfforol ac mae e hefyd yn arolygydd gwasanaethau addysgol ledled Cymru. Am y rhan fwyaf o'i yrfa mae e wedi gweithio ym maes addysg awyr agored, ac mae e hefyd wedi ymgymhwyso i fod yn Hyfforddwr Mynydda yn y DU. Fe weithiodd e gyntaf yn Sir Benfro ym 1980. Cyswllt: 07866771107
|