Ffitrwydd a Ffyniant
Teithio Gweithredol
Beth yw Teithio Gweithredol?
Mae Teithio Gweithredol yn golygu cerdded a beicio (gan gynnwys defnyddio sgwteri symudedd a chadeiriau olwyn trydan) ar gyfer teithiau bob dydd. Mae'r rhain yn cynnwys teithiau i'r gwaith, i'r siopau neu i gael mynediad at wasanaethau, megis canolfannau iechyd, hamdden a gorsafoedd bws / rheilffyrdd. Mae teithio gweithredol yn bwysig wrth hyrwyddo ffyrdd o fyw iachach a lleihau effeithiau negyddol traffig ar gymdogaethau a chymunedau.
Trosolwg Teithio Gweithredol
Ym mis Medi 2014, cyflwynodd Llywodraeth Cymru Ddeddf Teithio Weithredol (Cymru) 2013 sy'n ei gwneud hi'n ofyniad cyfreithiol i Awdurdodau Lleol yng Nghymru fapio a chynllunio ar gyfer llwybrau addas ar gyfer teithio gweithredol mewn rhai aneddiadau yn y sir, fel y dynodwyd gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r Ddeddf hefyd yn mynnu bod cynlluniau ffyrdd newydd (gan gynnwys cynlluniau gwella ffyrdd) yn ystyried anghenion cerddwyr a beicwyr pan mae’n dod at y cam dylunio.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y Ddeddf Teithio Gweithredol ar wefan Llywodraeth Cymru: Llywodraeth Cymru - Cerdded a Beicio
Mapiau Llwybr Presennol (ERMs)
Roedd cam cyntaf y Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Gyngor Sir Penfro gynhyrchu 'Mapiau Llwybrau Presennol' (ERMs) i ddangos y llwybrau presennol yn y 10 aneddleoedd dynodedig yr oedd y Cyngor yn eu hystyried yn addas ar gyfer teithio gweithredol. O ganlyniad, mae'r ERMs dim ond yn dangos llwybrau cerdded a beicio o fewn yr aneddiadau sy'n bodloni meini prawf Llywodraeth Cymru ar gyfer teithio gweithredol.
Mae'r Ddeddf yn mynnu bod ERMs yn cael eu hadolygu a'u diweddaru bob 3 blynedd er mwyn sicrhau bod y mapiau'n parhau'n gyfredol ac yn cynnwys llwybrau sydd wedi'u cwblhau neu eu gwella'n ddiweddar. Mae manylion am ERM diweddaraf Sir Benfro, a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru, i'w gweld isod:
Mapiau Rhwydwaith Integredig (INMs)
Roedd ail gam y Ddeddf yn mynnu bod y Cyngor yn cynhyrchu Mapiau Rhwydwaith Integredig (INMs) yn nodi cynlluniau'r Awdurdod Lleol i ddatblygu rhwydwaith o lwybrau a chyfleusterau teithio gweithredol dros y 15 mlynedd nesaf.
Datblygwyd cynigion INMs trwy broses ymgynghori helaeth gyda'r nodau canlynol mewn golwg:
- Gwell mynediad at wasanaethau a chyfleusterau allweddol gan gynnwys canol trefi, ardaloedd cyflogaeth a manwerthu, canolfannau cludiant;
- Gwell mynediad i gyfleusterau addysg fel ysgolion a cholegau;
- Gwelliannau i'r rhwydwaith strategol presennol a'i ehangu yn y 10 anheddiad 'teithio gweithredol’ dynodedig yn y Sir.
I weld yr Adroddiad Ymgynghori, a gynhyrchir fel rhan o'r broses ddatblygu ERM a INM, cliciwch ar y ddolen isod:
Gellir gweld Map Rhwydwaith Integredig ar gyfer pob un o'r deg anheddle dynodedig yn Sir Benfro, a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru, trwy glicio ar bob un o'r trefi a restrir isod:
Sylwer, mae'r Map Rhwydwaith Integredig ar gyfer Llandudoch yn rhan o gyflwyniad Teithio Gweithredol Ceredigion i Lywodraeth Cymru.
Mae'r Ddeddf yn mynnu bod INMs yn cael eu hadolygu a'u diweddaru yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y mapiau'n cynnwys yr holl ddyheadau presennol ar gyfer gwelliannau i'r llwybrau yn y 10 anheddiad 'teithio gweithredol' dynodedig.
Sylwer, bydd datblygu a chyflwyno'r cynigion a ddangosir ar yr INM yn dibynnu ar nifer o ffactorau gan gynnwys argaeledd cyllid a thir. Yn ogystal, dylai'r cynigion sydd wedi'u cynnwys yn yr INM gael eu cymryd fel rhai dangosol a gallant fod yn destun newid wrth i gynlluniau gael eu datblygu ymhellach.
Os oes gennych unrhyw awgrymiadau ar sut y gellid gwella'r llwybrau presennol neu lwybrau newydd y gellid eu datblygu, cysylltwch â ni drwy'r manylion cyswllt a restrir yn yr adran ganlynol.
Adroddiadau Blynyddol Teithio Gweithredol
Yn ogystal, mae'n ofynnol i'r Cyngor gynhyrchu'r adroddiadau canlynol yn flynyddol:
Adroddiad Blynyddol yn manylu ar y camau a gymerwyd yn y flwyddyn ariannol flaenorol i hyrwyddo teithio gweithredol, a'r costau a dynnir i ddatblygu llwybrau a chyfleusterau teithio gweithredol newydd neu well.
• Adroddiad Monitro yn manylu ar lefel y defnydd o lwybrau teithio gweithredol yn y 10 anheddiad 'teithio gweithgar' dynodedig ynghyd â gwybodaeth am lwybrau newydd sydd wedi'u gwella neu eu hadeiladu.
Am ragor o wybodaeth am deithio egnïol yn Sir Benfro, gweler y manylion cyswllt isod:
Cyngor Sir Penfro
Uned Strategaeth Drafnidiaeth
Adran Priffyrdd ac Adeiladu
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1TP
Ffôn: 01437 775435
E-bost: activetravel@pembrokeshire.gov.uk
Llwybr Sir Benfro
Mae Llwybr Sir Benfro oddeutu 35 milltir o Drefdraeth yn y Gogledd i Llanrhath yn y De. Mae llwybrau cylchol yn cysylltu gyda'r Llwybr ar ei hyd, gan roi mynediad i drefi a chymdeithasau hynafol.
Datblygwyd y Llwybr gan gronfa Cynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013 a ariannwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a grant Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol. Arweiniwyd datblygiad y cynllun gan Gyngor Sir Penfro.
Mae'r Llwybr ar gael i gerddwyr ar ei hyd. Nid yw pob rhan yn hygyrch i feicwyr a marchogion felly mae llwybrau eraill ar gael.