Ffitrwydd a Ffyniant
Ystafelloedd Sawna/Stêm
Er mwyn cael corff iach a meddwl iach, rydym ni'n credu ei bod yn bwysig cadw'r ddysgl yn wastad rhwng gwaith, hamdden, ymarfer ac ymlacio.
Mae Ystafelloedd Iechyd yw'r lle delfrydol i ymlacio wedi diwrnod o waith caled a helpu i leddfu straen bywyd fel y mae e' heddiw.
Ystafell Stêm - yn y canolfannau dilynol: Canolfan Hamdden Hwlffordd a Canolfan Hamdden Aberdaugleddau
Mae'r ystafell stêm yn ddull traddodiadol o ymlacio, sy'n cael ei ddefnyddio ers cenedlaethau lawer. Mae ein cyfleuster ni yn cynnwys y pleser o gael dy lapio'n dyner mewn stêm. Mae'r gwres llaith yn agor a glanhau dy fandyllau er mwyn glanhau ac adnewyddu dy groen. Ymysg y manteision eraill mae lleddfu cyhyrau blinedig a ffyrfio dy gorff.*
Sawna - yn y canolfannau dilynol:Canolfan Hamdden Hwlffordd a Canolfan Hamdden Abergwaun
Gad i'r gwres sych dy dwymo i'r rhannau mwyaf dwfn, gan leddfu pob cur, poen a straen a rhoi ymdeimlad iach a llesol i ti.*
* Holwch gyda'r ganolfan berthnasol i weld a yw ar gael
RHYBUDD
Ein cyngor ni yw na ddylai'r bobl hyn ddefnyddio'r sawna / ystafell stêm
- Merched beichiog
- Pobl gyda chlefyd siwgr a niwed i'r traed neu newropatheg ymylol
- Rhai sy'n dioddef gan glefyd y galon / problemau cylchrediad a phwysedd gwaed uchel ac isel
- Rhai gyda chlefydau heintus ar y croen / doluriau ac anafiadau
- Rhai sy'n dioddef gan salwch sy'n eu hatal rhag chwysu
- Os ydych yn cymryd moddion gwrth-geulo / gwrth-histaminau / moddion hypnotig neu dawelyddion neu unrhyw foddion eraill o gwbl sy'n creu ansicrwydd ynglŷn ag a fyddai defnyddio sawna / ystafell stêm yn ddoeth
- Os ydych chi wedi cael alcohol neu bryd sylweddol o fewn 1 1/2 awr
- Os ydych yn dioddef gan byliau o feigryn (SAWNA)
- Os ydych wedi bod yn ymarfer yn ddiweddar (YSTAFELL STÊM)
- Rhai'n dioddef gan unrhyw gyflwr o gwbl sy'n creu ansicrwydd a fyddai defnyddio sawna / ystafell stêm yn ddoeth
- Y rhai y gallai defnyddio sawna neu ystafell stêm fod yn arbennig o beryglus iddyn nhw ac mae angen ystyriaeth arbennig i:-
- Plant
- Yr Henoed
- Merched Beichiog
- Pobl gyda Chlefyd Siwgr
Os wyt ti'n perthyn i unrhyw gategori uwchben, rydym yn gofyn i ti lofnodi ein hymwrthodiad a byddem yn cynghori i ti beidio â defnyddio'r ystafelloedd iechyd.