Fframwaith Rheoli Perfformiad
Fframwaith Rheoli Perfformiad
Mae’r ddogfen hon yn egluro ein dull o reoli perfformiad. Mae’n disgrifio’r systemau, y strwythurau a’r trefniadau cynorthwyo rydym wedi’u sefydlu er mwyn nodi ac ymateb i broblemau perfformiad a gyrru gwelliant parhaus.
Mae ein fframwaith perfformiad yn berthnasol i bob gwasanaeth a reolir yn uniongyrchol gan y cyngor. Fodd bynnag, gellir ei gymhwyso hefyd i’r gwasanaethau hynny a ddarparwn mewn partneriaeth â sefydliadau eraill: sefydliadau partner statudol a chyrff cyflawni rhanbarthol.
Bydd rheoli perfformiad effeithiol yn ein helpu i gyflawni’r amcanion canlynol:
- Helpu i wella gwasanaethau a chanlyniadau i bobl – Rhoddir blaenoriaeth i nodau, a dyrennir adnoddau’n effeithiol.
- Grymuso rheolwyr a staff – Mae staff yn frwdfrydig, yn ymwybodol o’u targedau a’u nodau eu hunain, ac yn deall eu cyfraniad at gyflawni canlyniadau allweddol y cyngor.
- Sicrhau bod y cyngor a’i bartneriaid yn cyflawni’r hyn yr ydym wedi bwriadu ei wneud – Rhoi rhybudd cynnar o berfformiad gwael, a chyfle i’w gywiro.
- Ysgogi gwelliant yn y dyfodol – Mae’r fframwaith yn darparu sylfaen dystiolaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau gwell a defnyddio adnoddau yn effeithlon.
Er ei bod hi’n bwysig bod y fframwaith hwn yn parhau i fod yn hyblyg, ni fydd ei elfennau sylfaenol yn newid. Mae’r fframwaith hwn yn cwmpasu’r canlynol:
- Y diwylliant sy’n sail i’n dull o reoli perfformiad
- Sut y mae ein dull ni o gynllunio corfforaethol yn sbarduno gwelliant
- Y rôl y mae dangosyddion a thargedau yn ei chwarae o fewn ein system rheoli perfformiad
- Sut rydym yn monitro camau gweithredu
- Y seilwaith a’r adnoddau a ddefnyddiwn i gaffael, coladu a dadansoddi gwybodaeth am berfformiad
Mae gan y cyngor ddyletswydd statudol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 i adolygu i ba raddau y mae’n gwneud y canlynol:
- Arfer ei swyddogaethau’n effeithiol
- Defnyddio ei adnoddau’n economaidd, yn effeithlon ac yn effeithiol
- Llywodraethu yn effeithiol ar gyfer sicrhau’r materion uchod
Cyflawnir y dyletswyddau hyn drwy ein hadroddiad hunanasesu blynyddol, ac asesiad o berfformiad y panel sy’n digwydd o leiaf unwaith ym mhob cylch etholiadol.
O dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015, mae’n ofynnol i’r cyngor hefyd ddangos sut y mae ei flaenoriaethau yn cyfrannu at amcanion y cynllun llesiant lleol a’r nodau llesiant cenedlaethol. Cyflawnir y ddyletswydd hon drwy ein hadroddiad hunanasesu blynyddol.