Fframwaith Rheoli Perfformiad

Dangosyddion Perfformiad a Monitro

Er mwyn monitro ein cynnydd yn erbyn yr amcanion a nodwyd yn y cynlluniau a ddisgrifiwyd uchod, rydym yn monitro ystod o ddangosyddion perfformiad yn barhaus. Mae’r gyfres o ddangosyddion rydyn ni’n eu defnyddio yn cynnwys amrywiol fathau gwahanol o fesurau. Gellir categoreiddio’r mathau o fesurau a ddefnyddiwn fel a ganlyn:

  • Mesurau lleol – Dyma fesurau sy’n cael eu gosod yn lleol. Eu nod yw mesur pa mor llwyddiannus yr ydym wedi bod wrth ddarparu elfennau penodol o’n gwasanaethau.
  • Gofynion perfformiad a ddiffiniwyd yn genedlaethol – Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am y mesurau hyn, ac yn eu hadrodd iddi. Maent yn ymwneud â meysydd fel gofal cymdeithasol, gwastraff ac ailgylchu, tai ac addysg ddewisol yn y cartref.
  • Llesiant cenedlaethau’r dyfodol: dangosyddion cenedlaethol ar gyfer Cymru – Cyflwynwyd 46 o ddangosyddion cenedlaethol a cherrig milltir yn 2016. Yn 2022, codwyd hyn i 50 o ddangosyddion. Mae’r rhain yn olrhain cynnydd tuag at ganlyniadau cenedlaethol, ac nid yw dangosyddion o reidrwydd ar gael ar lefel ddaearyddol Sir Benfro. 

 

Rydym wedi datblygu cerdyn sgorio corfforaethol sy’n cynnwys ein mesurau perfformiad allweddol i olrhain perfformiad o ran y sefydliad a’r gwasanaeth.  Lle bo modd, mae’r mesurau’n ymwneud â’n hamcanion llesiant, y Rhaglen Weinyddu, a’r nodau llesiant cenedlaethol.

Mae’r dangosyddion sy’n ffurfio’r cerdyn sgorio corfforaethol yn rhoi cipolwg ar ble y mae’r sefydliad ar unrhyw adeg, yn ogystal â rhoi cyfle i weld yr wybodaeth yng nghyd-destun tueddiadau a pherfformiad hanesyddol. Fodd bynnag, nid llai pwysig yw’r camau y mae’r cyngor wedi ymrwymo iddynt er mwyn cyflawni ei amcanion.

Rydym yn dibynnu ar nifer o wiriadau i sicrhau bod gwybodaeth am berfformiad yn gywir ac yn cael ei chyflenwi mewn modd amserol. Caiff gwybodaeth am berfformiad ei phrofi’n rheolaidd gan y swyddogaeth archwilio fewnol, gyda’r adolygiad diweddaraf ar gyfer y cerdyn sgorio corfforaethol wedi’i gynnal ym mis Mawrth / mis Ebrill 2025.

Mae’r cerdyn sgorio, a gofynion perfformiad eraill, yn cael eu monitro’n rheolaidd o fewn y cyngor, ac mae’r rolau a’r cyfrifoldebau wedi’u nodi isod.

Y Cyngor

  • Mae’r cyngor yn cael ac yn cymeradwyo’r adroddiad hunanasesu blynyddol.
  • Mae’r cyngor yn cymeradwyo’r strategaeth gorfforaethol.
  • Mae’r cyngor yn cymeradwyo’r ymateb i unrhyw argymhellion yn dilyn asesiad o berfformiad y panel.

 

Y Cabinet

  • Mae’r cabinet yn cael adroddiad cerdyn sgorio corfforaethol bob chwarter.
  • Yn ogystal â monitro perfformiad drwy’r cerdyn sgorio, mae’r cabinet hefyd yn ystyried adroddiadau ar risg a monitro ariannol chwarterol i sicrhau bod dull integredig ar waith.

 

Y Pwyllgorau trosolwg a chraffu

  • Mae pum pwyllgor trosolwg a chraffu. Mae trosolwg a chraffu corfforaethol yn cael adroddiad cerdyn sgôr corfforaethol llawn bob chwe mis.
  • Bydd y pwyllgorau sy’n weddill yn cael adroddiadau ar y mesurau priodol yn y cerdyn sgôr corfforaethol sy’n berthnasol i’w cylch gwaith.

 

Y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

  • Lle mae problemau mewn maes gwasanaeth penodol wedi’u nodi drwy adolygiadau archwilio (naill ai’n allanol neu’n fewnol), bydd y pwyllgor hwn yn goruchwylio gwybodaeth am berfformiad fel rhan o’i rôl barhaus o oruchwylio a sicrhau bod camau gwella ar y trywydd iawn.

 

Yr Uwch-dîm arwain

  • Mae’r uwch-dîm arwain yn monitro’r cerdyn sgorio corfforaethol bob chwarter. Mae penaethiaid gwasanaeth yn mynychu cyfarfodydd yr uwch-dîm arwain ar sail dreigl, i esbonio’r ffactorau a allai fod yn dylanwadu ar berfformiad yn eu maes.

 

Timau rheoli cyfarwyddiaethau

  • Mae timau rheoli cyfarwyddiaethau yn monitro mesurau perfformiad sy’n berthnasol i’w meysydd gwasanaeth yn amlach, yn ôl disgresiwn y cyfarwyddwr perthnasol.  Gallai hyn gynnwys dangosyddion mwy lleol neu benodol i wasanaeth nad ydynt yn rhan o’r cerdyn sgorio corfforaethol.  Mae timau rheoli cyfarwyddiaethau hefyd yn craffu ar berfformiad ariannol a risg.

 

Byrddau eraill

Er nad yw’n rhan o’r fframwaith perfformiad corfforaethol, bydd y cyngor, ar adegau, yn sefydlu byrddau i oruchwylio rhaglenni neu feysydd gwaith blaenoriaeth.  Gall y byrddau hyn roi trefniadau ar waith i fonitro perfformiad sy’n berthnasol i’w cylch gwaith penodol. Mae enghreifftiau yn cynnwys y canlynol:

  • Bwrdd Trawsnewid ac Arloesi.
  • Bwrdd Rheoli Asedau Cyfalaf.
  • Bwrdd Perfformiad a Her.
  • Bwrdd Seilwaith Cyfalaf.
ID: 15044, adolygwyd 31/03/2026