Fframwaith Rheoli Perfformiad
Hunanasesiad
Elfen bwysig o unrhyw system rheoli perfformiad yw’r broses o hunanasesu, sydd i bob pwrpas yn gwerthuso a ydym wedi cyflawni’r hyn yr oeddem yn bwriadu ei wneud yn wreiddiol. Bob blwyddyn, mae’r cyngor yn cynhyrchu adroddiad hunanasesu blynyddol cynhwysfawr, sy’n edrych yn ôl ar berfformiad dros y flwyddyn ariannol flaenorol ac yn gwerthuso cyflawniad yr amcanion llesiant a nodir yn y strategaeth gorfforaethol, yn ogystal â rhai meysydd blaenoriaeth corfforaethol allweddol.
Mae’r adroddiad hunanasesu blynyddol yn un o’r mecanweithiau allweddol a ddefnyddir i’n dwyn ni i gyfrif. Mae’r adroddiad yn mynd trwy ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol gyda rhanddeiliaid allweddol, ac mae’n destun goruchwyliaeth gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, a chymeradwyaeth gan y cyngor llawn. Mae’n nodi casgliadau’r cyngor ynghylch i ba raddau y mae wedi bodloni ei ofynion perfformiad yn ystod y flwyddyn ariannol honno, ac unrhyw gamau y mae’n bwriadu eu cymryd, neu eisoes wedi’u cymryd, i wella perfformiad. Mae hefyd yn nodi camau gwella sy’n edrych ymlaen i dargedu meysydd o danberfformiad, neu i ymateb i heriau a chyfleoedd sy’n dod i’r amlwg.
Er bod cyhoeddi’r adroddiad hunanasesu yn bwysig, y broses o hunanwerthuso ac asesu sydd â’r effaith fwyaf ar allu’r sefydliad i sicrhau gwelliant parhaus. Mae’n cyflawni hyn mewn dwy ffordd. Yn gyntaf, drwy gynnwys rheolwyr, staff ac aelodau yn y gwaith o gynhyrchu’r adroddiad hunanasesu, mae mwy o berchnogaeth o’r agenda gwella yn cael ei meithrin. Mae hyn yn ei dro yn fwy tebygol o ysgogi’r cymhelliant mewnol yr ydym yn gwybod sy’n sbarduno gwelliant i raddau mwy na dim ond rhoi cyfarwyddiadau. Yn ail, mae hunanarfarnu sy’n wirioneddol agored a gonest yn cynorthwyo gyda nodi blaenoriaethau ar gyfer y blynyddoedd i ddod, ac yn annog dysgu sefydliadol.
Mae’r amserlen ar gyfer cynhyrchu’r hunanasesiad yr un fath bob blwyddyn, gan sicrhau ei fod yn cael ei fabwysiadu gan y cyngor erbyn diwedd yr hydref, a’i gyhoeddi yn fuan wedyn. Mae dyddiad cyhoeddi’r adroddiad hunanasesu hefyd wedi’i gynllunio i gefnogi ein cylch cynllunio cyllideb, i’n helpu i sicrhau bod ein trefniadau i gyflawni ein blaenoriaethau yn cael digon o adnoddau.
Mae’n ofynnol i’r cyngor gynnal asesiad o berfformiad y panel o leiaf unwaith ym mhob cylch etholiadol. Dyma fath arall o werthuso a ddefnyddir i asesu i ba raddau y mae’r cyngor yn bodloni ei ofynion perfformiad. Mae asesiad o berfformiad y panel yn asesiad annibynnol ar lefel sefydliadol a gynhelir gan gyfoedion arbenigol, wedi’i gynllunio i gynorthwyo’r cyngor i geisio her a sicrwydd allanol. Mae’r asesiad o berfformiad y panel hefyd yn annog y cyngor i gofleidio gwahanol safbwyntiau ynghylch sut y mae’n perfformio a sut y gall wella. Ochr yn ochr â’r prif feysydd gwerthuso, fel y’u diffinnir gan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, mae’r asesiad o berfformiad y panel hefyd yn edrych ar feysydd allweddol lle mae’r cyngor yn teimlo y byddai’n elwa o fewnwelediad a sicrwydd penodol gan y panel.
Mae yna amrywiaeth o adroddiadau blynyddol eraill, yn aml â sail statudol, y mae’r cyngor yn eu cynhyrchu, ac sy’n cysylltu â’n dull cyffredinol o reoli perfformiad. Mae enghreifftiau’n cynnwys y datganiad llywodraethiant blynyddol ac adroddiad blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol. Lle bo modd, mae amserlenni adrodd wedi’u halinio i leihau dyblygu ac i sicrhau bod perfformiad yn cael ei adrodd yn gyson.
Am ragor o wybodaeth am y ddogfen hon, neu am reoli perfformiad yn y cyngor yn fwy cyffredinol, cysylltwch â Dan Shaw, y Rheolwr Cynllunio Corfforaethol ar 01437 775857 neu dan.shaw@pembrokeshire.gov.uk.