Fy Nghyfrif

Eich Cyfrif Cyngor Ar-lein

A yw 'Fy Nghyfrif' wedi newid, a pham?

Beth sydd wedi digwydd i'm hen 'Fy Nghyfrif'?

Pam mae rhaid i mi greu cyfrif newydd – pam na all manylion mewngofnodi fy hen gyfrif gael eu trosglwyddo?

A fyddaf yn parhau i dderbyn hysbysiadau os nad wyf wedi cofrestru i 'Fy Nghyfrif' newydd?

Sut wyf yn cofrestru?

Pam ydw i'n derbyn neges gwall yn cynghori nad yw fy manylion yn cael eu cydnabod pan fyddaf yn ceisio mewngofnodi i 'Fy Nghyfrif'?

Pam ydw i'n derbyn neges gwall yn cynghori bod fy nghyfeiriad wedi'i ddefnyddio eisoes wrth imi geisio cofrestru ar gyfer 'Fy Nghyfrif'?

Sut wyf yn gosod Arlwyo Heb Arian?

Rwyf wedi ceisio cofrestru fy nghyfrif treth gyngor gan ddefnyddio'r cyfrif/cyfeirnod y taliad ar fil fy nhreth gyngor, pam nad yw'n gweithio?

Sut i gofrestru ar gyfer e-filio i'r dreth gyngor (di-bapur)?



A yw 'Fy Nghyfrif' wedi newid, a pham?

Lansiwyd 'Fy Nghyfrif' yn 2013 ac, ers hynny, mae'r ffordd yr ydym yn defnyddio technoleg wedi newid – mae mwy o ddefnyddwyr yn cyrchu gwefannau ar ddyfeisiau symudol (ffonau clyfar a chyfrifiaduron llechen). Gwnaethom ddatblygu fersiwn newydd o 'Fy Nghyfrif', a gafodd ei lansio ym mis Mawrth 2021 ac a ddyluniwyd i flaenoriaethu ffonau symudol ac i fod yn bersonol i’r defnyddiwr unigol. Ymgynghorwyd â chwsmeriaid adeg y gwaith dylunio er mwyn inni allu cynnwys nodweddion yr oeddent am eu gweld.  Mae 'Fy Nghyfrif' bellach yn dod ag ystod eang o wasanaethau'r cyngor at ei gilydd y gellir eu cyrchu trwy gyfrif unigol.

 

Beth sydd wedi digwydd i'm hen 'Fy Nghyfrif'?

Os gwnaethoch gofrestru ar gyfer 'Fy Nghyfrif' cyn 31 Mawrth 2021, bydd angen i chi gofrestru ar gyfer 'Fy Nghyfrif' newydd. Dyma'r unig ffordd o gyrchu gwasanaethau'r cyngor ar-lein, megis Arlwyo heb Arian a nodiadau atgoffa am wastraff, ac o reoli'ch treth gyngor ar-lein. Ni allwch ddefnyddio eich hen gyfrif mwyach.

 

Pam mae rhaid i mi greu cyfrif newydd – pam na all manylion mewngofnodi fy hen gyfrif gael eu trosglwyddo?

Yn anffodus, ni allwn drosglwyddo cwsmeriaid yn awtomatig i’n 'Fy Nghyfrif' newydd oherwydd rydym wedi cyflwyno proses fewngofnodi newydd. Mae'r broses newydd hon yn eich galluogi i gyrchu ystod eang o wasanaethau ar-lein gan ddefnyddio cyfrif unigol ac mae'n rhoi mwy o ddewis ichi o ran sut i fewngofnodi (yn ogystal â defnyddio'ch cyfeiriad e-bost, mae gennych yr opsiwn bellach i fewngofnodi gyda chyfrif Google, os oes un gennych).

 

A fyddaf yn parhau i dderbyn hysbysiadau os nad wyf wedi cofrestru i 'Fy Nghyfrif' newydd?

Na, os ydych am barhau i dderbyn hysbysiadau (e.e. nodiadau atgoffa am wastraff), bydd yn rhaid i chi greu 'Fy Nghyfrif' newydd a dewis derbyn hysbysiadau.



Sut wyf yn cofrestru?

Ewch i dudalen we 'Fy Nghyfrif'.

Gallwch greu cyfrif trwy glicio 'Cofrestru' a darparu cyfeiriad e-bost a chyfrinair

Neu

Os oes gennych gyfrif Google, gallwch hepgor y broses gofrestru a mewngofnodi trwy ddefnyddio eich cyfrif Google*

*Wrth ichi fynd trwy'r camau cadarnhau yn 'Fy Nghyfrif' newydd, gwiriwch fod eich holl fanylion wedi'u trosglwyddo'n gywir o'ch cyfrif Google.

Dyma ein canllaw fideo ddefnyddiol: 'Fy Nghyfrif' newydd - Sut i gofrestru



Pam ydw i'n derbyn neges gwall yn cynghori nad yw fy manylion yn cael eu cydnabod pan fyddaf yn ceisio mewngofnodi i 'Fy Nghyfrif'?

Os ydych yn ceisio cyrchu 'Fy Nghyfrif' yn defnyddio cyfrif y gwnaethoch ei greu cyn 31 Mawrth 2021, bydd angen i chi greu cyfrif newydd trwy ddilyn y broses gofrestru. Ni fydd eich manylion mewngofnodi presennol yn gweithio ar y system newydd.

Os ydych yn dal i gael anawsterau yn mewngofnodi i'ch cyfrif, cysylltwch â ni: digital@pembrokeshire.gov.uk



Pam ydw i'n derbyn neges gwall yn cynghori bod fy nghyfeiriad wedi'i ddefnyddio eisoes wrth imi geisio cofrestru ar gyfer 'Fy Nghyfrif'?

Mae'n bosib eich bod eisoes wedi dechrau'r broses gofrestru. Os ydych wedi derbyn e-bost dilysu ac wedi clicio ar y ddolen i wirio’r cyfeiriad e-bost, dylech bellach allu cwblhau eich cyfrif a mewngofnodi gan ddefnyddio’r opsiwn  ‘Mewngofnodi gydag e-bost’



Sut wyf yn gosod Arlwyo Heb Arian?

Ar yr widget Arlwyo Heb Arian (wedi'i arddangos yn ddiofyn ar hafan y wefan), rhowch rif cyfrif Arlwyo Heb Arian a dyddiad geni eich plentyn. 

Os nad ydych yn gallu dod o i'ch cyfeiriad(au) Arlwyo Heb Arian, cysylltwch â ni: cashless.catering@pembrokeshire.gov.uk

Mae gennyf ail gartref yn Sir Benfro, sut wyf yn gweld gwybodaeth am fy nhreth gyngor?

Os yw eich prif breswylfa yn Sir Benfro:

  1. Cofrestrwch ar gyfer 'Fy Nghyfrif' newydd gan ddefnyddio eich prif gyfeiriad
  2. Rhowch brif gyfeiriad eich treth gyngor ar yr 'widget' hafan lle gofynnir i chi wneud hynny
  3. Cliciwch ar y botwm 'Gweld cyfrif y Dreth Gyngor' ar yr widget
  4. Cliciwch ar y ddolen 'Cofrestru ar gyfer gwasanaethau ychwanegol y dreth gyngor’ ar ben y dudalen
  5. Dilynwch y camau cofrestru ac unwaith yr ydych wedi'i gwblhau, cliciwch ar y botwm 'Dangos pob un' er mwyn dangos pob cyfrif treth gyngor gweithredol yr ydych yn gyfrifol amdanynt.

Os ydych chi’n byw y tu allan i Sir Benfro

  1. Cofrestrwch ar gyfer 'Fy Nghyfrif' newydd gan ddefnyddio'ch prif gyfeiriad (nad yw'n gyfeiriad yn Sir Benfro)
  2. Cliciwch ar yr opsiwn 'Treth Gyngor a Biliau’ ar y ddewislen
  3. Cliciwch ar yr opsiwn is-ddewislen: ‘Rheoli fy Nhreth Gyngor’
  4. Cliciwch ar y deilsen/botwm 'Gweld cyfrif y Dreth Gyngor'
  5. Cliciwch ar y ddolen 'Cofrestru ar gyfer gwasanaethau ychwanegol y dreth gyngor’ ar ben y dudalen
  6. Dilynwch y camau cofrestru ac unwaith yr ydych wedi'i gwblhau, cliciwch ar y botwm 'Dangos pob un' er mwyn dangos pob cyfrif treth gyngor gweithredol yr ydych yn gyfrifol amdanynt.



Rwyf wedi ceisio cofrestru fy nghyfrif treth gyngor gan ddefnyddio'r cyfrif/cyfeirnod y taliad ar fil fy nhreth gyngor, pam nad yw'n gweithio?

A:  Gwiriwch fod eich cyfeiriad yn gywir gan glicio ar eich cyfrif (bar dewislen ar ben y wefan) a mynd i 'Fy Manylion' wedyn 'Fy Manylion Cyswllt' ac wedyn dewis 'Diweddaru manylion cyswllt'. Defnyddiwch y chwiliad cod post i ddod o hyd i'ch cyfeiriad - dewiswch eich cyfeiriad cartref o'r gwymplen a gwasgwch 'Cadw Manylion Cyswllt'.

Ewch yn ôl i'r hafan a cheisio cofrestru cyfrif eich treth gyngor eto. Os nad yw hyn yn gweithio, cysylltwch â ni: digital@pembrokeshire.gov.uk



Sut i gofrestru ar gyfer e-filio i'r dreth gyngor (di-bapur)?

  1. Cofrestrwch ar gyfer 'Fy Nghyfrif' newydd gan ddefnyddio eich prif gyfeiriad
  2. Rhowch gyfeirnod eich treth gyngor yn yr widget hafan lle gofynnir i chi wneud hynny
  3. Cliciwch ar y botwm 'Gweld cyfrif y Dreth Gyngor' ar yr widget
  4. Cliciwch ar y ddolen 'Cofrestru ar gyfer gwasanaethau ychwanegol y dreth gyngor’ ar ben y dudalen
  5. Dilynwch y camau cofrestru gan sicrhau yr ydych yn dewis 'Hoffech' pan ofynnir a hoffech gael bilio di-bapur

Dyma ein canllaw fideo ddefnyddiol

ID: 150, revised 29/09/2023