Fy Nghyfrif – Cwestiynau Cyffredin
Beth yw Fy Nghyfrif?
Fy Nghyfrif yw ein cyfrif cyngor ar-lein. Dyma ein platfform ar gyfer ein holl wasanaethau ar-lein.
Mae:
- Yn hawdd ei ddefnyddio
- Wedi’i deilwra i’w ddefnyddio ar ffonau symudol
- Yn diogel
- Yn gallu cynnig ystod eang o wasanaethau y gellir eu cyrchu ar-lein megis gwneud taliadau, adrodd problemau, cyflwyno ceisiadau, a gwirio gwasanaethau yn eich ardal leol (e.e. ceisiadau cynllunio a dyddiadau casglu sbwriel)
Cofrestru ar gyfer a rheoli Fy Nghyfrif
Wedi anghofio cyfrinair / ailosod cyfrinair
Sefydlu a rheoli dewisiadau hysbysu
Rheoli eich treth gyngor ar Fy Nghyfrif
Optio i mewn ar gyfer bilio di-bapur
Cofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif
Pam dylwn i gofrestru?
Drwy gofrestru, gallwch ddechrau taith newydd sbon ar-lein gyda ni. Bydd gennych fynediad at y canlynol:
- Dangosfwrdd personol – lle y gallwch weld eich hoff wasanaethau / y gwasanaethau yr ydych yn eu defnyddio amlaf
- Mwy o wybodaeth ddaearyddol (am eich ardal leol ac ar draws y sir)
- Fersiwn o'n gwasanaethau ar-lein sy'n gweithio ar ffôn symudol
- Ffyrdd haws o reoli eich taliadau, eich adroddiadau a’ch ceisiadau
Sut wyf yn cofrestru?
Gallwch greu cyfrif drwy ddarparu cyfeiriad e-bost a chyfrinair
- Ewch i dudalen hafan Fy Nghyfrif.
- Dewiswch ‘Cofrestru’.
- Gofynnir i chi roi eich enw cyntaf, eich cyfenw, eich cyfeiriad e-bost a’ch cyfrinair.
Cofiwch y canlynol:
Rhaid i’ch cyfrinair gynnwys y canlynol:
- o leiaf wyth nod
- o leiaf un symbol, e.e. ?!£%
- o leiaf un llythyren fawr
- o leiaf un rhif
- Cytunwch â’r telerau defnyddio a chliciwch ar ‘Cofrestru’.
- Cwblhewch y sgriniau cyfarwyddiadau cofrestru.
- Byddwch yn cael e-bost gyda dolen actifadu. Er eich diogelwch, bydd y ddolen actifadu yn yr e-bost yn dod i ben ar ôl 15 munud. Cofiwch wirio eich ffolderi sothach a sbam.
- I orffen sefydlu eich cyfrif cliciwch ar y ddolen actifadu.
- Byddwch yn gweld sgrin yn cadarnhau bod eich cyfeiriad e-bost wedi’i gadarnhau ar gyfer eich cyfrif, a gallwch nawr fewngofnodi.
Neu
Os oes gennych gyfrif Google, gallwch hepgor y broses ‘Cofrestru’ a mewngofnodi gan ddefnyddio eich cyfrif Google.
Sylwer:
Wrth ichi fynd trwy’r camau cadarnhau yn Fy Nghyfrif, gwiriwch fod eich holl fanylion wedi’u trosglwyddo’n gywir o’ch cyfrif Google.
Yn cael trafferth cofrestru?
Gallai fod oherwydd y rhesymau canlynol:
- Nid yw’r cyfrinair rydych chi’n ceisio ei osod yn bodloni’r meini prawf diogelwch.
Rhaid i gyfrineiriau fod:
- yn wyth nod neu ragor o hyd
a chynnwys:
- priflythrennau a llythrennau bach
- o leiaf un rhif
- nod arbennig, e.e. *!#
- Mae’n bosibl bod y ddolen ddiogelwch arbennig a anfonwyd at eich e-bost wedi dod i ben. Mae’r ddolen yn dod i ben ar ôl 15 munud, a dim ond unwaith y gellir ei defnyddio. Bydd angen dolen newydd arnoch chi.
- Mae gennych chi gyfrif eisoes. Bydd angen i chi ailosod eich cyfrinair.
Neu
Os ydych chi’n siŵr nad oes gennych chi gyfrif wedi’i gofrestru ar gyfer y cyfeiriad e-bost hwn, cysylltwch â ni ar digital@pembrokeshire.gov.uk.
Am help a chymorth pellach cysylltwch â: digital@pembrokeshire.gov.uk.
Pam na fydd Fy Nghyfrif yn derbyn y cyfrinair yr wyf yn ceisio ei osod wrth gofrestru?
Gwiriwch ddwywaith eich bod wedi rhoi cyfrinair sy'n bodloni'r meini prawf diogelwch.
Rhaid i gyfrineiriau fod:
- 8 nod neu fwy o hyd
a chynnwys:
- priflythrennau a llythrennau bach
- o leiaf un rhif
- nod arbennig, e.e. *!#
Pam ydych chi'n gofyn am fy rhif ffôn symudol a chyfeiriad e-bost wrth gofrestru?
Gofynnwn am y manylion hyn i fynd law yn llaw â phan fyddwch yn dewis eich dewisiadau hysbysu fel rhan o'r broses gofrestru. Drwy gofrestru ar gyfer hysbysiadau, mae’n golygu y gallwch dderbyn amrywiaeth o rybuddion a nodiadau atgoffa megis cau Pont Cleddau a nodiadau atgoffa ynghylch casglu gwastraff.
Mae hefyd yn golygu y gallwn ddarparu ffordd ddiogel i chi gael mynediad at Fy Nghyfrif trwy roi cyfrinair untro i chi. Byddwch yn defnyddio cyfrinair untro wrth gofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif neu os ydych yn diweddaru eich manylion. Gellir ei anfon trwy neges destun neu e-bost.
Sut ydw i'n newid fy enw ar Fy Nghyfrif?
Os ydych chi wedi newid eich enw (er enghraifft, oherwydd eich bod chi wedi priodi neu eisiau defnyddio enw blaenorol), gallwn ni helpu.
I ddiweddaru eich enw ar Fy Nghyfrif eich cyngor, anfonwch e-bost at ein canolfan gyswllt: digital@pembrokeshire.gov.uk
Cofiwch gynnwys y canlynol:
- eich enw blaenorol
- eich enw newydd
- y cyfeiriad e-bost rydych chi'n ei ddefnyddio i fewngofnodi i Fy Nghyfrif
A allaf newid yr enw ar Fy Nghyfrif?
Mae'n ddrwg gennym, ond ni allwn newid yr enw ar Fy Nghyfrif i enw rhywun arall.
Er enghraifft, os oedd gennych chi Fy Nghyfrif roeddech chi’n ei rannu (ond ei fod wedi'i gofrestru yn enw'r unigolyn arall) neu os oedd gan eich partner Fy Nghyfrif ac rydych chi nawr eisiau ei ddefnyddio yn eich enw eich hun, ni allwn ei ddiweddaru. Mae hyn oherwydd bod pob cyfrif wedi'i gysylltu ag un unigolyn yn unig.
Yn lle hynny, bydd angen i chi wneud y canlynol:
- Dileu’r Fy Nghyfrif presennol (os nad yw'n cael ei ddefnyddio mwyach gan yr unigolyn y mae ei enw ar y cyfrif)
- Cofrestru ar gyfer cyfrif newydd yn eich enw eich hun
Mae hyn yn helpu i gadw gwybodaeth pawb yn ddiogel ac yn gywir.
Sut ydw i'n newid fy nghyfeiriad ar Fy Nghyfrif?
I ddiweddaru eich cyfeiriad bydd angen i chi:
- Mewngofnodi i Fy Nghyfrif
- Yn eich dangosfwrdd Fy Nghyfrif
- Cliciwch ar eich proffil yng nghornel dde uchaf y sgrin
- Dewiswch ‘Fy manylion’
- Dewiswch ‘Fy manylion cyswllt’
- Cliciwch ‘Diweddaru manylion cyswllt’
- Rhowch eich cod post newydd a chliciwch ar ‘Chwilio’
- Dewiswch eich cyfeiriad newydd ac yna sgroliwch i lawr a chliciwch ar ‘Cadw cyfeiriad’
Sut ydw i’n dileu fy nghyfrif?
- Mewngofnodwch i Fy Nghyfrif
- Dewiswch yr eicon o berson / eich enw yn y gornel dde uchaf
- Dewiswch ‘Fy manylion’ o’r gwymplen
- Dewiswch ‘Dewisiadau diogelwch’
- Sgroliwch i waelod y dudalen a chliciwch ar y botwm coch ‘Dileu Cyfrif’
Mewngofnodi i Fy Nghyfrif
Pam fod opsiwn i fewngofnodi i Fy Nghyfrif?
Mae Fy Nghyfrif yn rhoi opsiwn mewngofnodi i chi:
Mewngofnodi gydag e-bost a chyfrinair
- Ewch i dudalen hafan Fy Nghyfrif.
- Dewiswch ‘Mewngofnodi gydag e-bost’.
- Rhowch eich cyfeiriad e-bost a’ch cyfrinair.
- Cliciwch ‘Mewngofnodi’.
Sylwer:
Os ydych chi wedi mewngofnodi o’r blaen gan ddefnyddio ‘Mewngofnodi gyda Google’ ar gyfer Fy Nghyfrif, efallai y bydd hynny’n golygu mai dim ond manylion mewngofnodi eich cyfrif Google sydd wedi’u cysylltu â’ch cyfrif.
Os ydych chi eisiau gosod cyfrinair ar gyfer ‘Mewngofnodi gydag e-bost’ yn y dyfodol, bydd angen i chi osod cyfrinair.
Yn cael trafferth mewngofnodi gydag e-bost a chyfrinair?
Gallai fod oherwydd y rhesymau canlynol:
- Rydych chi wedi anghofio’r cyfrinair a osodwyd gennych yn ystod y broses gofrestru. Bydd angen i chi ailosod eich cyfrinair.
- Ni ellid dod o hyd i gyfrif yn gysylltiedig â’ch cyfeiriad e-bost.
Efallai y bydd angen i chi gofrestru am gyfrif.
Neu
Os ydych chi’n siŵr bod gennych chi gyfrif eisoes wedi’i greu ar gyfer y cyfeiriad e-bost hwn, cysylltwch â ni ar digital@pembrokeshire.gov.uk.
Am help a chymorth pellach cysylltwch â: digital@pembrokeshire.gov.uk.
Nodyn: a oes unrhyw beth arall a allai faglu defnyddiwr y mae angen i ni sôn amdano?
Mewngofnodi heb gyfrinair
- Byddwn yn anfon dolen arbennig atoch i’ch cyfeiriad e-bost.
- Cliciwch arni, a chewch eich mewngofnodi ar unwaith.
Mae hyn yn helpu i gadw’ch cyfrif yn ddiogel, oherwydd ei fod yn atal pobl rhag gallu dyfalu neu ddwyn eich cyfrinair.
Does dim rhaid cofio nac ailosod unrhyw gyfrineiriau.
Sylwer:
Bydd angen i chi gael Fy Nghyfrif sy’n bodoli eisoes i ddefnyddio’r opsiwn hwn.
Os nad oes gennych Fy Nghyfrif ar hyn o bryd: Cofrestrwch am gyfrif.
- Ewch i dudalen hafan Fy Nghyfrif.
- Dewiswch ‘Mewngofnodi heb gyfrinair’.
- Rhowch eich cyfeiriad e-bost.
- Caiff dolen ei hanfon i’ch e-bost. Bydd y ddolen yn y neges e-bost yn dod i ben ar ôl 15 munud. Cofiwch wirio eich ffolderi sothach a sbam.
- Cliciwch ar y ddolen yn eich e-bost i fewngofnodi yn awtomatig i’ch cyfrif.
Sylwer:
Er eich diogelwch, mae’r ddolen yn dod i ben ar ôl 15 munud, a dim ond unwaith y gellir ei defnyddio.
Bydd angen dolen newydd arnoch chi, felly bydd angen i chi fynd trwy’r broses ‘mewngofnodi heb gyfrinair’ eto.
Yn cael trafferth mewngofnodi heb gyfrinair?
Gallai fod oherwydd y rhesymau canlynol:
- Mae’n bosibl bod y ddolen ddiogelwch arbennig a anfonwyd at eich e-bost wedi dod i ben. Mae’r ddolen yn dod i ben ar ôl 15 munud, a dim ond unwaith y gellir ei defnyddio. Bydd angen dolen newydd arnoch chi, felly bydd angen i chi fynd trwy’r broses ‘mewngofnodi heb gyfrinair’ eto.
Am help a chymorth pellach cysylltwch â: digital@pembrokeshire.gov.uk.
Mewngofnodi gyda chyfrinair cymdeithasol, e.e. Google
Os oes gennych gyfrif Google, gallwch hepgor y broses mewngofnodi ar gyfer Fy Nghyfrif.
- Ewch i dudalen hafan Fy Nghyfrif.
- Dewiswch ‘Mewngofnodi gyda Google’.
- Dewiswch y cyfrif Google rydych chi am fewngofnodi ag ef.
- Byddwch yn cael eich ailgyfeirio i’ch dangosfwrdd Fy Nghyfrif.
Yn cael trafferth mewngofnodi gyda Google?
Gallai fod oherwydd y rhesymau canlynol:
- Rydych chi’n ceisio ‘Mewngofnodi gydag e-bost’ ond dim ond gan ddefnyddio ‘Mewngofnodi gyda Google’ rydych chi wedi mewngofnodi o’r blaen ar gyfer Fy Nghyfrif, sy’n golygu mai dim gyda’ch cyfrif Google y mae eich cyfrif wedi’i gysylltu at ddibenion mewngofnodi.
Os ydych chi eisiau gosod cyfrinair ar gyfer ‘Mewngofnodi gydag e-bost’ yn y dyfodol, bydd angen i chi osod cyfrinair.
- Mae eich cyfrif eisoes wedi’i gysylltu i chi gael ‘Mewngofnodi gydag e-bost’ gan ddefnyddio’ch cyfeiriad e-bost dewisol, ond rydych chi wedi anghofio’r cyfrinair a osodwyd gennych. Bydd angen i chi ailosod eich cyfrinair.
Neu
Os ydych chi’n siŵr nad yw eich cyfrif wedi’i gysylltu â’rcyfeiriad e-bost hwn, cysylltwch â ni ar digital@pembrokeshire.gov.uk.
Am help a chymorth pellach cysylltwch â: digital@pembrokeshire.gov.uk.
Pam fod neges gwall yn ymddangos sy'n dweud nad yw fy manylion yn cael eu cydnabod pan fyddaf yn ceisio mewngofnodi i Fy Nghyfrif?
Os gwnaethoch gofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif cyn 31 Mawrth 2021, bydd angen i chi ailgofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif. Ni fydd eich manylion mewngofnodi presennol yn gweithio ar y system mwyach.
Os ydych yn dal i gael anawsterau yn mewngofnodi i'ch cyfrif, cysylltwch â ni: digital@pembrokeshire.gov.uk
Pam fod neges gwall yn ymddangos sy'n dweud bod fy nghyfeiriad wedi'i ddefnyddio eisoes wrth imi geisio cofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif?
Mae'n bosib eich bod eisoes wedi dechrau'r broses gofrestru.
Os ydych wedi derbyn e-bost dilysu ac wedi clicio ar y ddolen i wirio’r cyfeiriad e-bost, dylech bellach allu cwblhau eich cyfrif a mewngofnodi gan ddefnyddio’r opsiwn ‘Mewngofnodi gydag e-bost’.
Os ydych yn dal i gael anawsterau yn mewngofnodi i'ch cyfrif, cysylltwch â ni: digital@pembrokeshire.gov.uk
Pam fod neges gwall yn ymddangos sy'n dweud nad yw fy nghyfrinair yn gywir?
Wrth fewnbynnu eich cyfrinair, byddwch yn ymwybodol ei fod yn gwahaniaethu rhwng llythrennau mawr a bychain, felly gwiriwch ddwywaith eich bod yn rhoi eich cyfrinair yn gywir (gwiriwch nad yw'r clo CAPS ymlaen ac ati). Os ydych yn dal i gael problemau, ceisiwch ‘Ailosod fy nghyfrinair’.
Os ydych yn dal i gael anawsterau yn mewngofnodi i'ch cyfrif, cysylltwch â ni: digital@pembrokeshire.gov.uk
A ydyw’n bosibl i mi ddefnyddio Fy Nghyfrif tra byddaf ar wyliau?
Efallai na fyddwch yn gallu defnyddio Fy Nghyfrif na chael mynediad i’n gwefan o’r tu allan i’r DU.
Er mwyn cadw golwg ar eich taliadau, rydym yn argymell trefnu debyd uniongyrchol neu wneud unrhyw daliadau cyn i chi fynd.
Wedi anghofio cyfrinair / ailosod cyfrinair
- Ewch i dudalen hafan Fy Nghyfrif.
- Dewiswch ‘Mewngofnodi gydag e-bost’.
- Dewiswch ‘Wedi anghofio cyfrinair’.
- Rhowch eich cyfeiriad e-bost fel y gallwn anfon dolen atoch i ailosod eich cyfrinair.
- Byddwch yn cael e-bost gyda dolen i ailosod cyfrinair. Er eich diogelwch, mae’r ddolen yn ddilys am 15 munud. Cofiwch wirio eich ffolderi sothach / sbam.
- Gosod eich cyfrinair …
Cofiwch y canlynol:
Rhaid i’ch cyfrinair gynnwys y canlynol:
- o leiaf wyth nod
- o leiaf un symbol, e.e. ?!£%
- o leiaf un llythyren fawr
- o leiaf un rhif
Newid y cyfrinair presennol
Gallwch newid eich cyfrinair yn Fy Nghyfrif ar unrhyw adeg.
- Pwyswch ar Mewngofnodi i Fy Nghyfrif.
- Yn eich dangosfwrdd Fy Nghyfrif ...
- Cliciwch ar eich proffil yng nghornel dde uchaf y sgrin.
- Dewiswch ‘Fy manylion’.
- Dewiswch ‘Dewisiadau diogelwch’.
- Cliciwch ar ‘Newid cyfrinair’.
- Rhowch eich cyfeiriad e-bost fel y gallwn anfon dolen atoch i ailosod eich cyfrinair.
- Byddwch yn cael e-bost gyda dolen i ailosod cyfrinair. Er eich diogelwch, mae’r ddolen yn ddilys am 15 munud. Cofiwch wirio eich ffolderi sothach / sbam.
- Gosod eich cyfrinair …
Cofiwch y canlynol:
Rhaid i’ch cyfrinair gynnwys y canlynol:
- o leiaf wyth nod
- o leiaf un symbol, e.e. ?!£%
- o leiaf un llythyren fawr
- o leiaf un rhif
Yn cael trafferth ailosod / newid eich cyfrinair?
Gallai fod oherwydd y rhesymau canlynol:
- Nid yw’r cyfrinair rydych chi’n ceisio ei osod yn bodloni’r meini prawf diogelwch.
Rhaid i gyfrineiriau fod:
- yn wyth nod neu ragor o hyd
a chynnwys:
- priflythrennau a llythrennau bach
- o leiaf un rhif
- nod arbennig, e.e. *!#
- Mae’n bosibl bod y ddolen ddiogelwch arbennig a anfonwyd at eich e-bost wedi dod i ben. Mae’r ddolen yn dod i ben ar ôl 15 munud, a dim ond unwaith y gellir ei defnyddio. Bydd angen dolen newydd arnoch chi, felly bydd angen i chi fynd trwy’r broses ‘wedi anghofio cyfrinair / ailosod cyfrinair / newid cyfrinair’ eto.
Am help a chymorth pellach cysylltwch â: digital@pembrokeshire.gov.uk.
Diogelwch Fy Nghyfrif
Mae dilysiad dau ffactor yn ychwanegu haen ychwanegol o ddiogelwch i’ch cyfrif trwy ofyn am god dilysu yn ogystal â’ch cyfrinair pan fyddwch chi’n mewngofnodi.
Sut ydw i’n troi dilysiad dau ffactor ymlaen?
Cyn i chi ddechrau, bydd angen i chi wneud y canlynol:
- Lawrlwytho ap dilysu, e.e. Google Authenticator / Microsoft Authenticator (os nad ydych chi wedi gwneud hynny eisoes).
- Ewch i Dewisiadau diogelwch.
- Darllenwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin i gynhyrchu cod QR.
- Agorwch eich ap dilysu.
- Sganiwch y cod QR, neu gallwch nodi’r cod hir (cymysgedd o rifau a llythrennau) a ddarperir ar y sgrin.
- Bydd yr ap yn cynhyrchu cod 6 digid, y bydd angen i chi ei nodi ar eich sgrin Fy Nghyfrif.
- Cliciwch ‘Cadarnhau’.
- Anfonir e-bost atoch yn cadarnhau bod 2FA wedi’i droi ymlaen ar eich cyfrif.Cofiwch wirio eich ffolderi sothach a sbam.
Sut i ddiffodd dilysiad dau ffactor?
- Ewch i Dewisiadau diogelwch.
- Dewiswch ‘Diffodd dilysiad dau ffactor’.
- Cadarnhewch eich bod am ddiffodd dilysiad dau ffactor.
- Anfonir e-bost atoch yn cadarnhau bod dilysiad dau ffactor wedi’i ddiffodd ar eich cyfrif.Cofiwch wirio eich ffolderi sothach a sbam.
Sefydlu a rheoli dewisiadau hysbysu
Sut mae sefydlu a rheoli fy newisiadau hysbysu?
Yn gyntaf, gofynnwn am eich rhif ffôn symudol a/neu gyfeiriad e-bost fel rhan o'r broses gofrestru ar gyfer pan fyddwch yn dewis eich dewisiadau hysbysu. Drwy gofrestru ar gyfer hysbysiadau, mae’n golygu y gallwch dderbyn amrywiaeth o rybuddion a nodiadau atgoffa megis cau Pont Cleddau a nodiadau atgoffa ynghylch casglu gwastraff.
Bydd gofyn i chi osod eich dewisiadau hysbysu fel rhan o'ch proses gofrestru gychwynnol ar gyfer Fy Nghyfrif.
Cofiwch: os ydych am dderbyn hysbysiadau, bydd angen i chi sicrhau eich bod yn darparu rhif ffôn symudol a/neu gyfeiriad e-bost pan ofynnir i chi ar y sgriniau cofrestru.
Os ydych eisoes wedi sefydlu'ch Fy Nghyfrif ac yr hoffech newid eich dewisiadau hysbysu…
- Ewch i gornel dde uchaf tudalen gartref Fy Nghyfrif a chliciwch ar eich enw.
- Ewch i ‘Fy manylion’.
- Ewch i ‘Fy newisiadau hysbysu’.
- Dewiswch pa hysbysiadau rydych chi eu heisiau / ddim eu heisiau trwy ddefnyddio'r botwm togl wrth ymyl pob opsiwn. Byddwch yn gwybod a yw eich opsiwn hysbysu yn weithredol ar hyn o bryd gan y bydd y botwm nesaf ato yn cynnwys tic gwyrdd.
Rheoli eich treth gyngor ar Fy Nghyfrif
Rwyf wedi ceisio cofrestru fy nghyfrif treth gyngor gan ddefnyddio'r cyfrif / cyfeirnod y taliad ar fil fy nhreth gyngor, felly pam nad yw'n gweithio?
Dyma ychydig o bethau y gallwch chi roi cynnig arnynt:
- Gwiriwch eich bod yn defnyddio'r rhif cyfeirnod cywir ar eich bil treth gyngor papur. Mae angen i chi ddefnyddio'r rhif sy'n dweud: Rhif cyfrif / cyfeirnod taliad. Bydd angen i chi nodi saith digid cyntaf y rhif hwn.
- Gwiriwch fod eich cyfeiriad yn gywir trwy glicio ar eich cyfrif (cornel dde uchaf y bar dewislenni) a mynd i ‘Fy manylion’ ac wedyn ‘Fy manylion cyswllt’ ac wedyn dewis ‘Diweddaru manylion cyswllt’. Defnyddiwch y chwiliad cod post i ddod o hyd i'ch cyfeiriad – dewiswch eich cyfeiriad cartref o'r gwymplen a gwasgwch ‘Cadw manylion cyswllt’.
Os nad yw’r naill na’r llall o’r opsiynau hyn yn gweithio, cysylltwch â ni: digital@pembrokeshire.gov.uk
Beth yw'r ffordd hawsaf o gysylltu fy nghyfrif treth gyngor â Fy Nghyfrif?
Defnyddio teclyn ‘Fy Nhreth Gyngor’ (mae teclynnau yn ffordd gyflym o gael mynediad at wybodaeth y gallai fod ei hangen arnoch) yw'r ffordd hawsaf o gysylltu eich cyfrif treth gyngor.
Nodwch: dangosir eich teclyn Fy Nhreth Gyngor yn ddiofyn ar hafan Fy Nghyfrif.
Bydd angen rhif eich cyfrif / cyfeirnod eich taliad, y gallwch ddod o hyd iddo ar eich bil treth gyngor papur.
- Rhowch saith digid cyntaf rhif eich cyfrif / cyfeirnod eich taliad a chliciwch ar ‘Cyflwyno’.
Mae mor hawdd â hynny!
Rydw i wedi symud tŷ ac mae angen i mi ddiweddaru rhif cyfeirnod fy nghyfrif treth gyngor ar ‘Fy Nghyfrif’, beth ddylwn i ei wneud?
Gallwch ddod o hyd i rif cyfeirnod eich cyfrif treth gyngor newydd ar fil treth gyngor eich cyfeiriad newydd.
I ddiweddaru rhif cyfeirnod eich cyfrif treth gyngor bydd angen i chi wneud y canlynol:
- Tynnu eich hen rif cyfeirnod treth gyngor
- iweddaru eich cyfeiriad yn Fy Nghyfrif
- Diweddaru eich cyfeiriad yn eich cyfrif treth gyngor
- Ychwanegu eich rhif cyfeirnod treth gyngor newydd at Fy Nghyfrif
Cyfarwyddiadau manwl cam wrth gam i gwblhau pob tasg:
Cam un: diddymu eich hen rif cyfeirnod treth gyngor
- Mewngofnodi i Fy Nghyfrif
- Yn eich dangosfwrdd Fy Nghyfrif
- Cliciwch ar eich proffil yng nghornel dde uchaf y sgrin
- Dewiswch ‘Fy manylion’
- Dewiswch ‘Fy nghyfeirnodau’
- Fe welwch y rhifau cyfeirnod sydd gennych chi ar hyn o bryd wedi'u cysylltu â'ch cyfrif
- dan fanylion cyfeirnod eich cyfrif treth gyngor cliciwch ar ‘Dileu cyfeirnod’
Yr ail gam: Diweddarwch eich cyfeiriad yn Fy Nghyfrif
- O adran ‘Fy nghyfeirnodau’ cliciwch ar ‘Yn ôl i'r ddewislen’
- Dewiswch ‘Fy manylion cyswllt’
- Cliciwch ‘Diweddaru manylion cyswllt’
- Rhowch eich cod post newydd a chliciwch ar ‘Chwilio’
- Dewiswch eich cyfeiriad newydd ac yna sgroliwch i lawr a chliciwch ar ‘Cadw cyfeiriad’
Y trydydd cam: Diweddaru eich cyfeiriad yn eich cyfrif treth gyngor
- Ewch i ‘Rheoli cyfrif y dreth gyngor’
- Dewiswch ‘Dywedwch wrthym os ydych chi’n symud tŷ’ o’r ddewislen
- Dewiswch yr opsiwn priodol o'r ddewislen a chwblhewch y ffurflen i ddiweddaru eich cyfeiriad
Y pedwerydd cam: Diweddaru eich cyfeirnod treth gyngor ar ddangosfwrdd eich ‘Fy Nghyfrif’
- O'r adran 'Fy manylion cyswllt' cliciwch ar 'yn ôl i'r ddewislen'
- Ar eich dangosfwrdd fe welwch deilsen wedi'i labelu 'Fy Nhreth Gyngor'
- Y tu mewn i'r teils gofynnir i chi nodi ‘Saith digid cyntaf cyfeirnod y cyfrif’ treth gyngor/cyfeirnod y taliad.
- Cofiwch: nodwch eich cyfeirnod treth gyngor newydd ar gyfer eich cyfeiriad newydd
- Cliciwch ‘Cyflwyno’
A ydyw’n bosibl i mi dalu fy nhreth gyngor tra byddaf dramor?
Ydy — ond mae’n well trefnu debyd uniongyrchol cyn i chi deithio.
Efallai na fyddwch yn gallu cael mynediad i Fy Nghyfrif na’n gwefan o’r tu allan i’r DU, felly mae trefnu debyd uniongyrchol yn helpu i sicrhau bod eich taliadau’n cael eu gwneud yn brydlon.
Os nad yw hynny’n bosibl, peidiwch â phoeni — mae yna ffyrdd eraill o dalu tra byddwch chi dramor:
- System ffôn awtomataidd 24/7 - +44 1437775164
- Canolfan Gyswllt Cwsmeriaid - +44 1437764551 (dydd Llun i ddydd Gwener 9am-5pm)
Sut mae sefydlu debyd uniongyrchol i dalu’r dreth gyngor?
Talu drwy ddebyd uniongyrchol yw’r ffordd hawsaf a mwyaf diogel o dalu eich treth gyngor.
Sefydlu neu newid eich debyd uniongyrchol i dalu’r dreth gyngor
Mae gennyf ail gartref yn Sir Benfro – sut wyf yn gweld gwybodaeth am fy nhreth gyngor?
Os yw eich prif breswylfa yn Sir Benfro:
- Cofrestrwch ar gyfer Fy Nghyfrif gan ddefnyddio eich prif gyfeiriad
- Rhowch y rhif cyfrif / cyfeirnod taliad a ddangosir ar eich bil treth gyngor papur ar gyfer eich prif gyfeiriad yn y teclyn ‘Fy Nhreth Gyngor’ a ddangosir ar hafan Fy Nghyfrif
- Cliciwch ar y botwm ‘Rheoli cyfrif treth gyngor’ ar y teclyn
- Cliciwch ar y ddolen 'Cofrestru ar gyfer gwasanaethau ychwanegol y dreth gyngor’ ar frig y dudalen
- Dilynwch y camau cofrestru ac, unwaith yr ydych wedi'u cwblhau, cliciwch ar y botwm ‘Dangos pob un’ er mwyn dangos pob cyfrif treth gyngor gweithredol yr ydych yn gyfrifol amdanynt
Os ydych chi’n byw y tu allan i Sir Benfro:
- Cofrestrwch ar gyfer Fy Nghyfrif newydd gan ddefnyddio'ch prif gyfeiriad (nad yw'n gyfeiriad yn Sir Benfro)
- Cliciwch ar yr opsiwn ‘Treth gyngor a biliau’ ar y ddewislen
- Cliciwch ar yr opsiwn is-ddewislen: ‘Rheoli fy nhreth gyngor’
- Cliciwch ar y deilsen/botwm ‘Gweld cyfrif treth gyngor’
- Cliciwch ar y ddolen 'Cofrestru ar gyfer gwasanaethau ychwanegol y dreth gyngor’ ar frig y dudalen
- Dilynwch y camau cofrestru ac, unwaith yr ydych wedi'u cwblhau, cliciwch ar y botwm ‘Dangos pob un’ er mwyn dangos pob cyfrif treth gyngor gweithredol yr ydych yn gyfrifol amdanynt
Optio i mewn ar gyfer bilio di-bapur
Sut ydw i'n optio i mewn ar gyfer bilio treth gyngor di-bapur?
Bydd dewis derbyn bil eich treth gyngor trwy ‘Fy Nghyfrif’ yn arbed amser i chi, yn ein helpu i arbed ar gostau postio/argraffu, ac yn lleihau'r effaith ar yr amgylchedd.
Nodwch: bydd angen rhif eich cyfrif / cyfeirnod eich taliad, y gallwch ddod o hyd iddo ar eich bil treth gyngor papur.
Arlwyo heb arian
Sut wyf yn gosod arlwyo heb arian?
Ar y teclyn Arlwyo heb Arian (mae teclynnau’n ffordd gyflym o gael gafael ar wybodaeth y gallai fod ei hangen arnoch), nodwch rif cyfrif arlwyo heb arian eich plentyn a’i ddyddiad geni.
Nodwch: mae eich teclyn Arlwyo heb Arian yn cael ei arddangos yn ddiofyn ar hafan Fy Nghyfrif.
Os nad ydych yn gallu dod o hyd i'ch cyfeirnod(au) arlwyo heb arian, anfonwch e-bost atom i: cashless.catering@pembrokeshire.gov.uk
Hysbysiadau
Pwy fydd yn danfon yr e-bost?
Bydd yr e-bost yn cael ei ddanfon gan noreply@pembrokeshire.gov.uk felly ychwanegwch y cyfeiriad hwn i’ch rhestr o gyfeiriadau diogel
Oes modd i mi ymateb i’r e-bost?
Na, ni fyddwn yn derbyn ymatebion sy'n cael eu hanfon i’r cyfeiriad yma. Os byddwch angen cysylltu â ni, anfonwch neges i: enquiries@pembrokeshire.gov.uk
Oes modd i mi beidio â derbyn yr hysbysiadau?
Oes. Mewngofnodwch i Fy Nghyfrif a chlicio ar ‘Fy Ngwasanaethau’. Yna dewiswch ‘Fy Newisiadau Hysbysiadau', gan ddiffodd yr hysbysiadau nad ydych am eu derbyn.
Oes rhaid talu am y gwasanaeth neges destun?
Na, mae’n wasanaeth rhad ac am ddim i’n cwsmeriaid dderbyn negeseuon, er bydd y neges gychwynnol a ddanfonwch at ‘Hysbysu’ yn cael ei godi ar gyfradd safonol eich rhwydwaith.
Pwy fydd yn danfon yr neges destun?
Bydd yr neges destun yn cael ei ddanfon gan PembsCC.
Oes modd i mi ymateb i'r neges destun?
Na, ni fyddwn yn derbyn ymatebion sy'n cael eu hanfon i PembsCC.
Fyddwch chi'n defnyddio fy manylion ar gyfer unrhyw ddibenion eraill?
Na! Byddwn ond yn defnyddio’ch cyfeiriad e-bost ac/neu eich rhif ffôn symudol i anfon yr hysbysiadau yr ydych wedi’u dewis. Ni fyddwn byth yn rhoi eich manylion i eraill.
Pam fy mod i’n derbyn negeseuon testun ynglŷn â’m hadroddiad atgyweiriadau tai?
Fel rhan o’n gwelliannau i’r gwasanaeth, rydym am wneud yn siŵr ein bod ni’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi bob cam o’r ffordd. Drwy ddanfon neges destun gallwn roi gwybod i chi
- Ein bod wedi derbyn eich adroddiad
- Eich rhif cyfeirnod
- Yr amser a’r dyddiad y byddwn ni neu un o’n contractwyr yn galw yn yr eiddo
Byddwn hefyd yn danfon neges ddiwrnod cyn eich apwyntiad er mwyn eich atgoffa y byddwn ni’n galw, a ffurflen adborth unwaith y bydd y gwaith wedi’i gwblhau fel y gallwch ddweud wrthym sut y gwnaethom
Cymorth pellach
Am help a chymorth ynglŷn â'ch 'Fy Nghyfrif' neu i ddarparu adborth, cysylltwch â: digital@pembrokeshire.gov.uk
Os ydych yn cael unrhyw broblemau technegol wrth ddefnyddio 'Fy Nghyfrif', defnyddiwch y ffurflen ‘rhoi gwybod am broblem’