Genedigaethau
Cofrestru genedigaeth
Llongyfarchiadau ar enedigaeth eich babi!
Rydym yn sylweddoli y bydd hwn yn gyfnod prysur i chi fel rhiant newydd ond mae’n bwysig neilltuo amser i gofrestru eich babi fel y gallwch gael mynediad at wasanaethau fel gwneud cais am fudd-dal plant, cael tystysgrif geni (y bydd ei hangen arnoch ar gyfer llawer o ddibenion), ac oherwydd ei bod yn ofyniad cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr i gofrestru genedigaeth eich babi o fewn 42 diwrnod.
Bydd angen i chi wneud apwyntiad i gofrestru'r enedigaeth yn yr ardal lle digwyddodd yr enedigaeth. Dylai babanod sy'n cael eu geni yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg gael eu cofrestru gyda ni. Fodd bynnag, os digwyddodd yr enedigaeth gartref, gwiriwch fod y lleoliad o fewn Ardal Gofrestru Sir Benfro (bydd hyn yn wir os byddwch yn talu eich treth gyngor i Gyngor Sir Penfro).
Beth os ydw i'n byw yn Sir Benfro ond roedd fy mabi wedi'i eni yn rhywle arall?
Os cafodd eich babi ei eni mewn ardal arall (e.e. Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin), yn ddelfrydol dylech wneud apwyntiad yn Swyddfa Gofrestru'r ardal honno. Fodd bynnag, mae hefyd yn bosibl gwneud ‘datganiad’ yn ein swyddfa. Mae hyn yn golygu y byddwch yn darparu'r manylion ar gyfer y cofrestriad i'n cofrestrydd, ond bydd y manylion hyn wedyn yn cael eu defnyddio i gofrestru genedigaeth eich babi yn ôl yr ardal lle cafodd eich babi ei eni. Fel arfer, bydd y cofrestriad yn cael ei gwblhau o fewn pythefnos a byddwch wedyn yn gallu cysylltu â staff y Swyddfa Gofrestru honno i archebu tystysgrifau geni, a fydd yn cael eu postio atoch chi. Mae apwyntiadau datganiad ar gael yn ein swyddfa yn Hwlffordd bob dydd Gwener.
Os cafodd eich babi ei eni yn Sir Benfro ond eich bod yn dymuno mynd i swyddfa arall i wneud datganiad, cysylltwch â'r swyddfa honno am ragor o fanylion.
I wneud apwyntiad ar-lein i gofrestru eich babi, darllenwch yr wybodaeth ganlynol ac yna cliciwch ar y ddolen ar y diwedd. NODER: rydym yn darparu apwyntiadau a drefnwyd ymlaen llaw yn unig ac nid ydym yn cynnig apwyntiadau galw heibio.
Pwy all gofrestru?
Os oeddech chi'n briod â'ch gilydd neu mewn partneriaeth sifil pan gafodd eich plentyn ei eni (neu ar adeg y cenhedlu), gall y naill neu'r llall ohonoch (neu'r ddau) fynychu'r Swyddfa Gofrestru i gofrestru'r enedigaeth a chofnodi manylion y ddau riant.
Os nad oeddech yn briod neu mewn partneriaeth sifil pan anwyd eich plentyn (neu ar adeg y cenhedlu), a bod y ddau ohonoch yn dymuno cael eich cofnodi yn y cofnod geni, yn y rhan fwyaf o achosion bydd angen i’r ddau ohonoch fynychu apwyntiad fel hysbyswyr ar y cyd i lofnodi'r gofrestr gyfreithiol. Os nad yw hyn yn bosibl, cysylltwch â ni am gyngor.
Gall mam sy'n ddi-briod neu nad yw mewn partneriaeth sifil fynychu apwyntiad ar ei phen ei hun i gofrestru genedigaeth y plentyn a chofnodi ei gwybodaeth hi yn unig yn y gofrestr. Gellir ychwanegu manylion y tad naturiol yn ddiweddarach trwy ailgofrestru ac nid oes terfyn amser ar gyfer gwneud hyn.
Mewn amgylchiadau eithriadol lle nad yw'r naill riant na'r llall yn gallu cofrestru genedigaeth, cysylltwch â ni am wybodaeth a chyngor.
Os hoffech gofrestru genedigaeth yn unol â Deddf Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg 2008, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am gofrestriadau genedigaeth o’r un rhyw, cysylltwch â'n swyddfa.
Beth sy'n digwydd yn ystod yr apwyntiad?
Pan fyddwch yn mynychu eich apwyntiad, bydd y cofrestrydd yn cofnodi eich manylion chi a manylion eich plentyn. Fel arfer, nid yw’n cymryd mwy na 30 munud i gwblhau’r broses, ac os ydych yn gallu rhoi’r manylion yn Gymraeg yna gallwch ddewis cael cofrestriad dwyieithog.
Bydd angen i chi ddarparu'r manylion canlynol yn eich apwyntiad:
Babi
- dyddiad a lleoliad geni'r babi
- p'un a yw'r babi yn fachgen neu'n ferch
- yr enw(au) cyntaf a’r cyfenw rydych chi wedi’u dewis ar gyfer y babi
- os yw genedigaeth luosog, e.e. gefeilliaid, gofynnir i chi amser geni pob babi
Mam
- enw cyntaf a chyfenw, ac unrhyw enwau cyntaf neu gyfenwau a allai fod wedi cael eu defnyddio cyn priodi
- dyddiad a man geni
- ei chyfeiriad
- galwedigaeth ar adeg geni'r babi neu, os nad yw hi mewn cyflogaeth, ei galwedigaeth ddiwethaf
- dyddiad priodas os yn berthnasol
- nifer y plant blaenorol gan y partner(iaid) presennol a/neu unrhyw gyn-bartner(iaid)
Tad / ail riant (lle mae’r manylion hyn i’w cofnodi ar y gofrestr)
- enw cyntaf a chyfenw
- dyddiad a man geni
- galwedigaeth ar adeg geni'r babi neu, os nad yw ef mewn cyflogaeth, yr alwedigaeth ddiwethaf
- ei gyfeiriad
Unwaith y bydd yr wybodaeth wedi'i hychwanegu at y gofrestr, gofynnir i chi lofnodi'r cofnod cyfreithiol, a fydd yn cael ei gadw yn y gofrestr genedigaethau. Rhaid i chi wirio'r manylion yn y cofnod yn ofalus iawn cyn i chi lofnodi. Os byddwch yn nodi camgymeriad yn y manylion ar ôl llofnodi, bydd angen cywiriad ffurfiol fel arfer a gallai ffi statudol o hyd at £99 fod yn berthnasol.
Pa ddogfennau/gwybodaeth fydd eu hangen arnaf?
Dylech ddod â dull adnabod a phrawf cyfeiriad gyda chi. Y dogfennau sy'n well gennym yw:
- Dull adnabod – pasbort neu drwydded yrru
- Prawf cyfeiriad – bil cyfleustodau, cyfriflen banc neu drwydded yrru
Os ydych yn briod, dewch â'ch tystysgrif priodas.
Os na allwch ddarparu'r dogfennau hyn, dylech barhau i wneud apwyntiad i gofrestru.
Nid oes angen i chi ddod â'r plentyn sy'n cael ei gofrestru i'r apwyntiad.
Faint fydd yn ei gostio?
Nid oes ffi i gofrestru genedigaeth.
Pa ddogfennau fyddaf yn eu derbyn?
Os cafodd eich babi ei eni yn Sir Benfro, gallwch brynu naill ai tystysgrif fer (sy'n dangos enw, dyddiad geni ac ardal eni eich babi yn unig) neu dystysgrif safonol (llawn) sy'n cynnwys manylion y rhieni. Mae angen tystysgrifau safonol ar gyfer y rhan fwyaf o ddibenion megis gwneud cais am basbort ac agor cyfrif banc. Gellir talu am dystysgrifau ymlaen llaw wrth drefnu apwyntiad neu ar y diwrnod ac maent yn costio £12.50 yr un.
Gellir talu â cherdyn, arian parod, siec neu archeb bost sy’n daladwy i Gyngor Sir Penfro.
Os ganed eich babi y tu allan i Sir Benfro ond eich bod yn mynychu ein swyddfa i wneud datganiad, bydd angen i chi gysylltu â Swyddfa Gofrestru'r ardal honno i brynu tystysgrifau. Bydd eich cofrestrydd yn gallu rhoi manylion cyswllt i chi.
Gellir gofyn am gopïau pellach o dystysgrifau unrhyw bryd ar ôl cofrestru a gellir eu harchebu ar-lein.
Trefnwch apwyntiad i gofrestru genedigaeth (yn agor mewn tab newydd)
Cysylltu â ni:
Gwasanaeth Cofrestru Sir Benfro
Swyddfa Gofrestru Sir Benfro
Archfidy Sir Benfro
Hwlffordd
Sir Benfro
SA61 2PE
Ffôn 01437 775176
E-bost: registrar@pembrokeshire.gov.uk
Oriau agor: Llun - Gwener 9.00am - 5.00pm