Gwasanaethau Cofrestru Telerau ac Amodau

Archebu Seremoni Priodas a Phartneriaeth Sifil

Cewch wneud archebion hyd at dair blynedd cyn Dyddiad y Seremoni, ond sylwch, os gwelwch yn dda, bod modd i’r Telerau a’r Amodau hyn newid ac, os bydd yna unrhyw newidiadau, yr anfonir copi cyfredol ohonynt atoch pan fyddwch yn rhoi Rhybudd o’ch priodas neu bartneriaeth sifil. Sylwch, os gwelwch yn dda, na fydd yna newidiadau yn y Telerau a’r Amodau fydd wedi eu cytuno gyda chi o fewn chwe mis i ddyddiad eich seremoni.

Derbynnir eich archeb am seremoni yn amodol ar y Telerau ac Amodau canlynol:-

1. Amodau cyn Archebu

  • Ar ôl talu’r ffi, na ellir ei had-dalu, i Gadw’r Dyddiad, bydd y ffi’n cadw unrhyw amser a dyddiad am 14 diwrnod.
  • Rhaid gwirio, llofnodi a dychwelyd y ffurflen archebu amgaeedig ynghyd â’r Ffi Archebu Amodol o fewn 14 diwrnod i’r diwrnod y gwnaethoch gadw’r dyddiad. Os na wneir hyn ni fydd eich archeb wedi ei gwarantu a chaiff unrhyw beth a archebwyd ei ganslo.

2. Ffioedd Archebu Amodol

  • Mae’r Ffi Archebu Amodol (sef y swm sy’n cael ei ddangos ar y Ffurflen Archebu) arno yn daladwy wrth ddychwelyd y Ffurflen Archebu wedi ei llofnodi, yn derbyn y Telerau ac Amodau hyn, a rhaid ei thalu o fewn 14 diwrnod i’r diwrnod y gwnaethoch dderbyn y Telerau ac Amodau hyn.
  • Caiff yr amser a’r dyddiad y gofynnwyd amdanynt ar gyfer y Seremoni eu cadarnhau pan dderbynnir eich Ffurflen Archebu a thaliad y Ffi Archebu Amodol gywir, neu cewch wybod os nad yw’r dyddiad ar gael mwyach o fewn ymrwymiadau Gwasanaeth Cofrestru Cyngor Sir Penfro er mwyn trefnu dyddiad pellach sy’n dderbyniol i’r ddwy ochr.
  • Unwaith y bydd y Ffurflen Archebu wedi cael ei dychwelyd gyda’r Ffi Archebu Amodol caiff archeb ei gwneud. Bydd gennych 14 diwrnod, ar ôl y dyddiad y derbyniasom eich Ffurflen Archebu wedi ei llofnodi a’r Ffi Archebu Amodol, pan gewch ganslo eich archeb (heb roi rheswm o gwbl) neu newid dyddiad, amser a lleoliad eich archeb (os bydd modd), heb fod angen Ffi ychwanegol. Os byddwch yn canslo ar neu o fewn 14 diwrnod byddwch yn derbyn ad-daliad llawn o’r Ffi Archebu Amodol a dalwyd. Daw y cyfnod canslo i ben ymhen 14 diwrnod.
  • Ar ôl y 14 diwrnod y cyfeiriwyd ato yng nghymal 2.3 uchod, bydd unrhyw newidiadau i ddyddiad, amser neu leoliad y Seremoni yn achosi Ffi Ychwanegol fel y dangosir ar y Ffurflen Archebu. Bydd Cyngor Sir Penfro yn ceisio ffitio unrhyw newidiadau gofynnol i mewn, ar yr amod bod rhybudd rhesymol yn cael ei roi a bod y staff ar gael i fod yn bresennol.
  • Cedwir unrhyw archeb amodol ar yr amod fod y Rhybudd statudol ffurfiol gofynnol yn cael ei roi o’r briodas neu’r bartneriaeth sifil ddim mwy na 12 mis neu lai na 28 diwrnod cyn Dyddiad y Seremoni. Mae rhoi’r Rhybudd yn ddatganiad cyfreithiol i’r Cofrestrydd Arolygol, yn cadarnhau eich manylion personol ac yn datgan eich bod yn rhydd i briodi neu ffurfio partneriaeth sifil. Rhaid i chi wneud hyn yn bersonol yn eich Swyddfa Gofrestru leol. Dylech nodi, os byddwch yn newid unrhyw rai o’r telerau y cytunwyd arnynt a chithau wedi rhoi Rhybudd eisoes, y bydd efallai angen Rhybudd newydd o briodas neu bartneriaeth sifil (a Ffi Rhybudd).

3. Y Ffi Derfynol

  • Mae Cyngor Sir Penfro yn cadw’r hawl i adolygu ffioedd seremonïau yn flynyddol. Y ffi derfynol sy’n daladwy yw’r ffi sy’n dod yn ddyledus ar amser dyddiad eich Seremoni. Rhoddir gwybod i chi am unrhyw gynyddiadau ddim llai na chwe mis cyn dyddiad eich seremoni.
  • Bydd y Ffi Derfynol yn daladwy ddim hwyrach nag 12 wythnos cyn dyddiad eich Seremoni.

4. Canslo Seremoni

  • Rhaid canslo drwy lythyr oddi wrth un o’r partïon i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil (gorau oll, ond nid o anghenraid, drwy’r e-bost i sr@pembrokeshire.gov.uk neu, fel arall, i’r cyfeiriad a nodwyd ar y Ffurflen Archebu). Gall y naill bartner neu’r llall i briodas/partneriaeth sifil ganslo’r seremoni ar unrhyw adeg.
  • Os caiff y Seremoni ei chanslo o fewn y 14 diwrnod cyntaf ar ôl gwneud yr archeb caniateir ad-dalu’r Ffi Archebu Amodol yn llawn.
  • Os caiff y seremoni ei chanslo ar ôl y 14 diwrnod cyntaf ar ôl gwneud yr archeb ond yn gynt na 6 mis cyn dyddiad y seremoni, ac os nad yw’r Rhybudd Statudol wedi cael ei roi, achosir ffi ganslo o £75.00.
  • Os caiff y seremoni ei chanslo o fewn 6 mis i Ddyddiad y Seremoni neu ar ôl i’r Rhybudd Statudol gael ei roi achosir ffi ganslo o £150.00.
  • Caiff ad-daliad am unrhyw symiau a dalwyd yn ychwanegol at y ffioedd canslo, fel y’u heglurwyd yn 4.3 a 4.4, ei wneud o fewn 28 diwrnod i ddyddiad canslo’r seremoni. 4.5 Os caiff y seremoni ei chanslo o fewn 8 wythnos i ddyddiad y seremoni, ni roddir ad-daliad ac os bydd unrhyw symiau heb eu talu bydd rhaid eu talu ar unwaith.
  • Ni ellir ad-dalu’r Ffi Rhybudd, nac unrhyw ffioedd statudol eraill a dalwyd, dan unrhyw amgylchiadau.
  • Mae Cyngor Sir Penfro yn cadw’r hawl i ganslo’r seremoni:-
    • os bydd yna rwystr cyfreithlon i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil;
    • os bydd yna ragofynion cyfreithiol rhagarweiniol heb eu cwblhau o fewn y cyfnodau amser angenrheidiol gan gynnwys, ond heb eu cyfyngu i, fethiant i roi Rhybudd cyfreithiol o’ch bwriad i briodi neu ffurfio partneriaeth sifil o fewn y cyfyngiadau amser statudol angenrheidiol;
    • os na fydd papurau ysgariad neu ddiddymiad wedi cael eu darparu o fewn amser digonol i’r Cofrestrydd eu hystyried a/neu os nad ydynt yn dderbyniol i’r Cofrestrydd. Rhaid rhoi papurau ysgariad neu ddiddymiad i’r Cofrestrydd ar amser rhoi rhybudd Briodas/Partneriaeth Sifil. Efallai y bydd angen i bapurau ysgariad neu ddiddymiad tramor gael eu hawdurdodi gan Swyddfa’r Cofrestrydd Cyffredinol a dylai’r partïon ofalu eu bod yn ystyried yr amser ychwanegol y bydd hyn yn ei gymryd pan fyddant yn trefnu eu Rhybudd;
    • os na fydd y Swyddfa Gartref wedi rhoi cliriad mewn pryd neu os bydd y Swyddfa Gartref wedi gwrthod rhoi cliriad;
    • os bydd unrhyw ffioedd gofynnol heb gael eu talu o fewn y cyfnodau amser gofynnol fel sydd wedi eu hegluro yn y Telerau ac Amodau hyn neu fel yr eglurwyd ar y Ffurflen Archebu;
    • os bydd unrhyw ddigwyddiad force majeure, sy’n ddigwyddiad, amgylchiad neu achos y tu hwnt i reolaeth resymol y partïon megis, ond heb ei gyfyngu i, unrhyw weithred gan Dduw, llifogydd, sychder, daeargryn neu drychineb naturiol arall, epidemig, neu bandemig; ymosodiad terfysgol, rhyfel cartrefol, cynnwrf neu derfysg sifil, rhyfel, bygythiad neu baratoad ar gyfer rhyfel, gwrthdaro arfog, gosod sancsiynau, embargo; halogiad niwclear, cemegol neu fiolegol, neu unrhyw gyfraith, cwota neu waharddiad, neu fethiant i ganiatáu trwydded neu gydsyniad angenrheidiol; cwymp adeiladau, tân, ffrwydrad neu ddamwain; ac unrhyw anghydfod llafur neu fasnach, streiciau, gweithredu diwydiannol neu gloi allan; tarfu ar wasanaethau neu fethiant y gwasanaethau ac mewn amgylchiadau o'r fath bydd yn rhesymol i Gyngor Sir Penfro ymdrechu i aildrefnu’r seremoni ar ddyddiad a/neu amser arall fydd yn gyfleus o’r ddwy ochr neu, os na fydd hyn yn bosibl neu os na ellir cael cytundeb, gall Cyngor Sir Penfro ganslo ac ni fydd ffioedd yn cael eu had-dalu.

5. Lleoliad ddim ar gael

  • Os bydd lleoliad sy’n cael ei reoli gan Gyngor Sir Penfro heb fod ar gael am unrhyw reswm ac os na ellir trefnu lleoliad arall neu os nad yw’n dderbyniol i chi, gall Cyngor Sir Penfro ganslo a bydd y rhoi ad-daliad llawn o'r holl ffioedd a dalwyd (ni fydd ad-daliad o’r fath yn cynnwys llog ar ffioedd o'r fath). Rhoddir rhybudd o 8 wythnos o leiaf yn unrhyw ddigwyddiad o’r fath.
  • Os nad yw’r lleoliad yn cael ei reoli gan Gyngor Sir Penfro ac heb fod ar gael am ryw reswm, yna bydd y darpariaethau canslo a eglurwyd yn 4.2- 4.7 yn berthnasol.

6. Hwyrni

  • Mae angen i gyplau sicrhau eu bod yn bresennol 30 munud o leiaf cyn amser dechrau’r Seremoni gan y bydd angen iddynt gael eu cyfweld gan y Cofrestrydd cyn y Seremoni. Os bydd y partïon yn dymuno aros ar wahân cyn y Seremoni, rhaid i un parti fod yn bresennol 30 munud cyn amser dechrau’r Seremoni a rhaid i’r ail barti fod yn bresennol 10 munud cyn amser dechrau’r Seremoni. Dylid gofyn i wahoddedigion y cwpl fod yn bresennol yn yr ystafell seremoni berthnasol o leiaf 15 munud cyn amser dechrau’r Seremoni.
  • Yr amser yr archebwyd y Seremoni yw’r amser y bydd y Seremoni’n cychwyn. Os bydd y Seremoni’n dechrau’n hwyrach nag y cynlluniwyd, bydd Cyngor Sir Penfro’n cadw’r hawl i fyrhau’r Seremoni er mwyn osgoi effeithio ar seremonïau dilynol
  • Os bydd oedi am unrhyw reswm cyn amser dechrau’r Seremoni, a hynny ddim oherwydd unrhyw fai ar ran Cyngor Sir Penfro, yna bydd y Cofrestrydd ar ran Cyngor Sir Penfro yn cadw’r hawl i ganslo neu ohirio’r seremoni.
  • Os na fydd y Seremoni yn barod i ddechrau o fewn 20 munud i’r amser dechrau a drefnwyd a hynny ddim oherwydd unrhyw fai ar ran Cyngor Sir Penfro, yna bydd y Cofrestrydd ar ran Cyngor Sir Penfro yn cadw’r hawl i ganslo neu ohirio’r seremoni.
  • Pan gaiff Seremoni ei chanslo neu ei gohirio o ganlyniad i unrhyw oedi (a hynny ddim oherwydd unrhyw fai ar ran Cyngor Sir Penfro) ni chaiff ffioedd a dalwyd neu sy’n ddyledus eu had-dalu.
  • Os bydd oedi cyn y Seremoni a bod Cyngor Sir Penfro yn barnu yn ôl ei ddoethineb ei hun y gall barhau er ei fod yn hwyr, bydd Cyngor Sir Penfro yn cadw’r hawl i godi Ffi Ychwanegol hyd at swm y Ffi Derfynol lawn os bydd y seremoni’n cael ei chynnal yn hwyrach nag y bwriadwyd er mwyn talu am gostau staff ychwanegol.
  • Pan fo unrhyw oedi yn cael ei achosi gan Gyngor Sir Penfro, bydd y Cofrestrydd yn ymdrechu i gario ymlaen gyda’r seremoni pan fo modd gwneud hynny neu aildrefnu ar amser a dyddiad sy’n dderbyniol i’r ddwy ochr. Os na ellir cytuno ar hyn, rhoddir ad-daliad llawn (os nad yw’r achos yn ddigwyddiad force majeure fel yr eglurwyd yng nghymal 4.7.6 pan na fydd ad-daliad yn daladwy).

7. Atebolrwydd

  • Bydd unrhyw benderfyniad i oedi neu ganslo’r seremoni yn ôl doethineb y staff cofrestru sy’n bresennol ar y diwrnod. Ni fydd Cyngor Sir Penfro yn derbyn cyfrifoldeb am golled neu oedi o ganlyniad i:-
    • canslo’r seremoni neu os bydd cofrestru yn cael ei atal rhag mynd rhagddo oherwydd:-
      • byddai’n ddi-rym pe bai’n mynd ymlaen;
      • byddai’n arwain at gyflawni trosedd dan Ddeddfau Priodas neu Bartneriaeth Sifil neu unrhyw ddarpariaethau statudol eraill;
      • byddai’n groes i les y cyhoedd;
      • ymddygiad annerbyniol neu wrthgymdeithasol unrhyw un sydd â rhan yn y Seremoni neu un o’r gwahoddedigion neu un sydd heb ei wahodd.
    • eich bod yn hwyr yn cyrraedd neu ddim yn cyrraedd;
    • methiant unrhyw staff cofrestru i fod yn bresennol oherwydd digwyddiad force majeure fel yr eglurir yng nghymal 4.7.6;
    • unrhyw gais gan y naill neu’r llall ohonoch i oedi neu ganslo’r Seremoni;
    • methiant neu esgeulustod unrhyw leoliad trwyddedig yr ydych wedi ei ddewis (sylwch, os gwelwch yn dda, na roddir cymeradwyaeth Cyngor Sir Penfro i unrhyw leoliad ond cyn belled ag y mae’n cael ei dderbyn fel lleoliad trwyddedig i gynnal seremonïau sifil ac nad yw Cyngor Sir Penfro yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb os ceir diffygion mewn  leoliad o’r fath).

8. Capasiti Ystafell

O ran rheolau tân, diogelwch ac er cysur, ni chaiff nifer y gwahoddedigion fod yn fwy na’r nifer y cytunwyd arno gyda’r lleoliad gan Gyngor Sir Penfro ar adeg trwyddedu. Mae’r niferoedd yn cynnwys y ddau barti, tystion, gwahoddedigion a phawb arall fydd yn bresennol
megis ffotograffwyr. Pan fydd y Seremoni’n cael ei chynnal yn un o adeiladau Cyngor Sir Penfro bydd nifer y bobl a gaiff fod yn bresennol yn unol â’r hyn sydd wedi ei osod ar y Ffurflen Archebu. Pan fydd y Seremoni i gael ei chynnal mewn lleoliad nad yw’n un o leoliadau Cyngor Sir Penfro dylid gwirio niferoedd o'r fath gyda’r Lleoliad Trwyddedig ymlaen llaw. Efallai y bydd Cyngor Sir Penfro yn gwrthod mynediad os bydd gwahoddedigion sy’n cyrraedd yn fwy na’r nifer a ganiateir.

9. Tystion

Cyfrifoldeb y cwpl yw sicrhau bod ganddynt ddau dyst credadwy yn y Seremoni. Rhaid i’r tystion fod yn bresennol drwy gydol y Seremoni a llofnodi’r gofrestr, a rhaid iddynt ddeall natur ac ystyr y Seremoni.

10. Archebu Seremoni a Chynnwys pan fydd y Seremoni yn lleoliad Cyngor Sir Penfro neu mewn Lleoliad Trwyddedig cymeradwy

  • Bydd Cyngor Sir Penfro yn cynnal y Seremoni yn lleoliad Cyngor Sir Penfro neu mewn Lleoliad Trwyddedig Gymeradwy. Bydd archeb y Seremoni ar gyfer seremoni arferol oni fydd arnoch eisiau seremoni bwrpasol neu amser ychwanegol y bydd rhaid cytuno arno ar adeg cadw’ch dyddiad neu wrth wneud eich archeb amodol. Ni ellir gwarantu amser ychwanegol ac os gofynnir amdano ar ôl i’r archeb gael ei chadarnhau, bydd yn dibynnu’n llwyr ar ddisgresiwn y Cofrestrydd, yn amodol ar (ymhlith materion eraill) y lleoliad a/neu’r staff sydd ar gael. Os bydd angen amser ychwanegol neu seremoni bwrpasol bydd y Cofrestrydd yn dweud wrthych am unrhyw gostau ychwanegol ar amser archebu.
  • Rhaid cytuno ar y sgriptiau, cerddoriaeth a’r darlleniadau arferol fydd wedi eu cynnwys yn y Seremoni gyda staff Gwasanaeth Cofrestru Cyngor Sir Penfro ddim hwyrach na 28 diwrnod cyn y Seremoni. Bydd yr hyn sy’n dderbyniol yn ddibynnol ar ddoethineb y Cofrestrydd a chaiff pob seremoni ei chynnal gyda golwg ar barchu difrifoldeb yr achlysur a sicrhau cydymffurfio â’r holl ofynion cyfreithiol ffurfiol.

11. Ffotograffau

Ceir tynnu nifer gyfyngedig o luniau y tu mewn neu’r tu allan i’r lleoliad ar yr amod nad ydynt yn achosi unrhyw niwsans dianghenraid nac oedi naill ai i’r seremoni nac unrhyw seremoni ddilynol sydd i gael ei chynnal yn yr un lleoliad. Rhaid i’r ffotograffydd ac unrhyw un sy’n ffilmio’r Seremoni gwrdd â’r Cofrestrydd yn y lleoliad cyn dechrau’r Seremoni i drafod a chytuno ar drefniadau a rhaid iddynt gydymffurfio ag unrhyw gais gan y Cofrestrydd bob amser. Rhaid i unrhyw offer fod yn ddistaw fel na fydd yn tynnu sylw oddi ar y Seremoni nac
yn achosi risg i Iechyd a Diogelwch.

12. Anifeiliaid

Cŵn tywys neu anifeiliaid cymorth yn unig a ganiateir mewn seremonïau yn adeiladau Cyngor Sir Penfro.

13. Archebu Tystysgrifau

Mae ffi tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil wedi ei chynnwys yn y Ffi Archebu Amodol. Gellir archebu tystysgrifau ychwanegol ymlaen llaw, yn y Seremoni neu ar ôl hynny. Ffi statudol y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol yw ffi’r dystysgrif a rhaid talu unrhyw gynnydd yn y
ffi hon cyn y rhoddir y dystysgrif. Eich cyfrifoldeb chi fydd gwirio bod yr holl wybodaeth yn gywir cyn llofnodi’r Gofrestr neu’r Atodlen. Gwnewch yn siŵr yn arbennig fod enwau a chyfeiriadau wedi eu sillafu’n gywir a bod y dyddiadau yn gywir hefyd. Bydd rhaid talu ffi statudol, a bennwyd gan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol am unrhyw newidiadau a wneir ar ôl hynny a bydd rhaid i’r rhain gael eu cymeradwyo gan y Cofrestrydd Cyffredinol.

14. Seremonïau Pwrpasol

Pan fydd seremoni bwrpasol wedi cael ei harchebu, rhaid i’r cwpl gytuno ar fformat a chynnwys y seremoni 28 diwrnod o leiaf cyn y Seremoni. Pan gytunir ar seremoni y tu allan, yna bydd y Cofrestrydd, ar ran Cyngor Sir Penfro, yn cadw’r hawl i benderfynu ble y cynhelir y seremoni os digwydd i’r tywydd fod yn anffafriol. Y Cofrestrydd yw’r un sy’n gwneud y penderfyniad terfynol mewn materion o’r fath ac ni roddir

ID: 9420, adolygwyd 09/12/2022