Genedigaethau

Pa ddogfennau/gwybodaeth fydd angen i fi ddod a nhw?

Dylech ddod â math o ddogfen adnabod gyda chi, fel pasbort neu drwydded yrru, a phrawf o’ch cyfeiriad. Bydd angen i chi ddarparu’r manylion canlynol yn eich apwyntiad:

Y Babi

  • y dyddiad a'r lle y ganed y babi
  • a yw'r babi yn fab neu ferch
  • yr enw(au) cyntaf a'r cyfenw yr ydych wedi eu dewis ar gyfer y babi
  • os oes mwy nag un wedi ei eni e.e. efeilliaid, bydd gofyn ichi roi amserau geni'r ddau fabi

Y Fam

  • enw cyntaf a chyfenw, ac unrhyw gyfenwau y gallai fod wedi eu defnyddio cyn priodi
  • y dyddiad a'r lle y ganed
  • ei chyfeiriad
  • ei gwaith adeg geni'r babi neu, os nad yw'n gweithio, ei gwaith diwethaf
  • dyddiad priodi os yw'n berthnasol
  • nifer y plant blaenorol gyda'r partner presennol a/neu unrhyw bartner(iaid) blaenorol

Y Tad/Ail riant (ble bynnag y mae'r manylion hyn i gael eu nodi ar y gofrestr)

  • enw cyntaf a chyfenw
  • y dyddiad a'r lle y ganed
  • ei waith adeg geni'r babi neu, os nad yw'n gweithio, ei waith diwethaf
  • ei gyfeiriad

Mae'n bwysig i'r wybodaeth sy'n cael ei chofnodi ar y gofrestr fod yn gywir. Os bydd camgymeriad, bydd yn anodd ei newid. Dylech wirio'r manylion yn y cofnod yn ofalus iawn cyn llofnodi.

ID: 2548, adolygwyd 09/09/2022