Genedigaethau
Pwy sy'n gallu cofrestru?
Os yw rhieni plentyn yn briod â'i gilydd adeg y geni, gall y naill riant neu'r llall gofrestru'r enedigaeth.
Os nad yw'r rhieni'n briod, gellir dodi manylion y tad ar y gofrestr dim ond os daw'r ddau riant gyda'i gilydd i gofrestru'r enedigaeth. Os na fydd hyn yn bosibl, ffoniwch y Swyddfa Gofrestru am gyngor, os gwelwch yn dda.
Os na fydd manylion y tad i gael eu cofnodi amser y cofrestru, efallai y bydd modd gwneud hyn ryw dro eto.
Does dim rhaid dod â'r plentyn i'r apwyntiad.
ID: 2546, adolygwyd 09/09/2022