Glan-yr-afon: Gwybodaeth
Cymru ir Byd
Cymru i’r Byd: dathlu mapiau mewn arddangosfa newydd
Bydd arddangosfa newydd gyffrous o fapiau o’r Llyfrgell Genedlaethol yn agor yn Oriel Glan yr Afon, Hwlffordd, ddydd Sadwrn 23 Medi.
Bydd arddangosfa Cymru i'r Byd yn arddangos detholiad o fapiau o'r dros 1.5 miliwn o wrthrychau y gofelir amdanynt yn y Casgliad Mapiau Cenedlaethol yn Aberystwyth. Mae'r arddangosfa'n amrywio o fap hynaf Llyfrgell Genedlaethol Cymru i weithiau celf sydd wedi’u comisiynu o’r newydd a’u hariannu gan Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru.
Ymhlith uchafbwyntiau’r arddangosfa mae Cambriae Typus gan Humphrey Llwyd - y map printiedig cynharaf yn benodol o Gymru, map Rhyfel Oer o Ddoc Penfro a luniwyd yn gyfrinachol gan yr Undeb Sofietaidd, cardiau chwarae o’r 17eg ganrif ar thema map, a map propaganda Almaenig yn dyfynnu David Lloyd George. Bydd gweithiau celf newydd sbon sydd wedi’u hysbrydoli gan y casgliad mapiau hefyd yn cael eu harddangos am y tro cyntaf yn yr arddangosfa hon, ochr yn ochr â’r eitemau sydd wedi eu hysbrydoli.
Mae’r arddangosfa newydd yn ymdrin â datblygiad Cymru ar y map, yn ogystal â sut mae mapiau wedi cael eu defnyddio ar gyfer dysgu a chwarae, a grym mapiau i’n perswadio a’n camarwain. Crëwyd yr arddangosfa gan Ellie King, Curadur Mapiau Cynorthwyol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae Ellie yn llyfrgellydd newydd gymhwyso ac wedi cael ei mentora gan y tîm arddangosfeydd fel rhan o ymrwymiad y Llyfrgell Genedlaethol i ddarparu cyfleoedd dysgu a datblygu i staff.
Dywedodd Ellie King, Curadur Mapiau Cynorthwyol Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Mae curadu’r arddangosfa hon wedi bod yn daith o ddarganfod, ac mae hi wedi bod yn fraint cael treiddio i hanes rhai o drysorau cartograffig Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Rwy'n gobeithio y byddant yn helpu i arddangos ehangder rhyfeddol y casgliad mapiau. Rwy’n arbennig o falch o allu cynnwys yr ymatebion artistig i’r casgliad gan Mfikela Jean Samuel a Jasmine Violet, sy’n amlygu pŵer parhaus y mapiau sydd ar gadw yma yn y Llyfrgell Genedlaethol, yn ogystal â’r angen i’w hystyried o safbwyntiau newydd.”
Meddai Rhodri ap Dyfrig, Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Rydym yn falch o gydweithio unwaith eto gydag Oriel Glan-yr-afon i rannu ein casgliadau gyda chynulleidfa ehangach, a hefyd i fod yn darparu cyfleoedd ar gyfer datblygiad staff curadurol. Mae’r mapiau eu hunain yn cynnig cipolwg hynod ddiddorol a gwerthfawr ar sut roedd Cymru’n gweld ei hun a sut yr oedd eraill ar hyd a lled y byd yn ei gweld ar wahanol gyfnodau trwy hanes.”
I gyd-fynd â'r arddangosfa hon bydd rhaglen o ddigwyddiadau a gweithdai addysg yn cael eu cynnal yn Oriel Glan-yr-afon, yn dechrau gyda sgwrs rhwng yr artistiaid Mfikela Jean Samuel and Jasmine Violet ac Ellie King ar 19 Hydref am 5:00pm. Bydd manylion llawn i’w gweld yn fuan ar wefan Oriel Glan-yr-afon a’u tudalen Facebook.
Ochr yn ochr ag arddangosfa Cymru i'r Byd cynhelir arddangosfa barhaol Sir Benfro: Ddoe a Heddiw, sy'n canolbwyntio ar hanes, diwylliant a thirwedd Sir Benfro, a fydd yn arddangos detholiad o eitemau newydd y tymor hwn.
Bydd y ddwy arddangosfa ar agor tan Ddydd Sadwrn 24 Chwefror 2024.
Am fwy o wybodaeth, ewch i:
- dudalen Facebook Llyfrgelloedd Sir Benfro (yn agor mewn tab newydd), neu
- ffoniwch Glan-yr-afon ar 01437 775244.
Glan-yr-afon
Mae Canolfan Glan-yr-afon, a agorwyd yn 2018, yn brif gyfleuster diwyllianol sydd i’w chael yng nghanol tref Hwlffordd.
Dyma ganlyniad partneriaeth gyffrous rhwng Cyngor Sir Penfro a Llyfrgell Genedlaethol Cymru (yn agor mewn tab newydd)
mae Glan-yr-afon yn cynnig:
- Llyfrgell - Gofod yr 21ain ganrif sy’n cyfuno stoc lyfrau draddodiadol gyda mynediad ar-lein a thechnoleg hunanwasanaeth.
- Oriel - Lleoliad o arwyddocâd cenedlaethol yn dod â rhai o drysorau'r genedl i'r sir mewn partneriaeth â Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
- Gwybodaeth i Ymwelwyr - Stop cyntaf i ymwelwyr y sir, sy’n tynnu sylw at fannau gwyliau poblogaidd a gemau cudd.
- Plant - Ardal ar thema castell, ynghyd â thŵr darllen i blant a wal stori ryngweithiol.
- Y Bywydfan - Mae’r Hwb Bywyd: Ffyrdd o Wella Lles yn rhoi sylw i gyfoeth o wybodaeth ar ‘Iechyd a Lles’, a 'Sgiliau Gwaith ac Arian’.
- Siop Goffi - Lle perffaith i gwrdd â ffrindiau, i fwynhau llyfr neu i ymlacio gyda choffi a golygfa o lan yr afon.
Daeth arian i adeiladu’r cyfleuster o amrywiaeth o ffynonellau gan gynnwys
- Cyngor Sir Penfro
- Llywodraeth Cymru (yn agor mewn tab newydd)
- Sefydliad Wolfson (yn agor mewn tab newydd)
- Sefydliad Foyle (yn agor mewn tab newydd)
- Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (yn agor mewn tab newydd)
Mae Cyngor Tref Hwlffordd (yn agor mewn tab newydd) wedi rhoi pecyn ariannu pum mlynedd er mwyn sicrhau bod y llyfrgell yn gallu agor ar brynhawniau Sadwrn drwy gydol y flwyddyn, yn wahanol i’r hen lyfrgell a oedd ond ar agor yn ystod y bore ar ddyddiau Sadwrn.