Glan-yr-afon: Gwybodaeth

Heddychwyr

Dathlu Heddychwyr Cymru yn Oriel Glan-yr-Afon, Hwlffordd

Ar Ddydd Sadwrn 28 Medi mae arddangosfa newydd sbon sy’n dathlu hanes cyfoethog Cymru’n ymwneud â gwaith a mentrau heddwch yn agor yn Oriel Glan-yr-Afon, Hwlffordd.

Trwy gelf ac archifau o gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru, mae arddangosfa Heddychwyr, yn edrych ar y rôl ganolog y mae unigolion Cymreig wedi chwarae wrth hyrwyddo heddwch, ar lwyfannau cenedlaethol a rhyngwladol.

Ddeiseb Heddwch Menywod Cymru a Gwersyll Heddwch Menywod Cymru, i’r ‘Neges Heddwch ac Ewyllys Da’ a phrotestiadau Gwrthwynebwyr Cydwybodol, mae’r arddangosfa hon yn dod â hanesion yr unigolion a’r mudiadau rhyfeddol hyn yn fyw.

Meddai Rhodri Llwyd Morgan, Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru:  
“Mae stori’r Cymry sydd wedi ymgyrchu a gweithio’n ddiflino dros ganrifoedd i hybu heddwch yn edefyn cyfoethog. Mae’r arddangosfa hon yn dod â llawer o’r straeon hyn ynghyd, gan gynnwys Deiseb Heddwch Menywod Cymru, i’n hysbrydoli o’r newydd i ymdrechu am fyd mwy heddychlon.”

Yn ganolog i’r arddangosfa mae Deiseb Heddwch Menywod Cymru a’r gist. Yn dilyn colledion erchyll y Rhyfel Byd Cyntaf, cafodd cenhedlaeth gyfan o fenywod eu hysbrydoli i apelio am heddwch. Arwyddodd 390,296 o fenywod Cymru ddeiseb oedd yn apelio ar fenywod America i alw ar Lywodraeth yr Unol Daleithiau i ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd newydd fel cam tuag at heddwch tragwyddol dros y byd. Dychwelodd y Ddeiseb Heddwch i Gymru ym mis Ebrill 2023 fel anrheg gan y Smithsonian National Museum of American History i nodi ei chanmlwyddiant.

Yn ddiweddar, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi cwblhau’r gwaith o’i digideiddio a bellach wedi cychwyn ar brosiect uchelgeisiol i drawsgrifio’r gwrthrych ysbrydoledig yma fel bod modd ei chwilio’n electronig am y tro cyntaf.

Uchafbwynt arall yr arddangosfa yw’r gwaith celf tecstilau Edefyn Heddwch, wedi’i ysbrydoli gan hanes hynod ddiddorol Deiseb Heddwch Merched Cymru.

Wedi’i greu dan gyfarwyddyd yr artist tecstilau Bethan Hughes, gyda chefnogaeth gan Academi Heddwch Cymru a Chanolfan Grefft Rhuthun, mae’r gwaith yn cynnwys llofnodion wedi’u pwytho â llaw cyfranogwyr i’r gweithdai, sy’n adlais o weithred y menywod wrth arwyddo’r Ddeiseb yn 1923.

Meddai'r artist Bethan Hughes:

“Wrth weld delweddau o’r Ddeiseb, fe’m trawyd gan y llawysgrifen, a bod pob un o’r merched wedi cael gwahoddiad i arwyddo yn eu henwau eu hunain yn eu llaw eu hunain, rhywbeth anarferol iawn yn y cyfnod. Dewisais weithio gyda defnyddiau syml, calico ac edau ddu, i adlewyrchu papur ac inc syml y Ddeiseb.
 
Wrth bwytho’r cwilt gorffenedig, 16 medr o hyd, gyda enwau 169 o gyfranwyr, roeddwn hefyd yn meddwl am y cyfranwyr a’r cysylltiadau hen a newydd rhyngom. I lawer ohonyn nhw, roedd pwytho eu henwau yn fodd iddynt wneud safiad dros heddwch heddiw, fel y gwnaeth ein neiniau ganrif yn ôl. Trwy weithred dawel, myfyrgar a di-dwyll, mae lleisiau merched yn atsain ac yn cysylltu fel edefyn o heddwch.”

Ar ddangos ochr yn ochr ag arddangosfa Heddychwyr mae’r arddangosfa barhaol Sir Benfro: Ddoe a Heddiw, sy'n canolbwyntio ar hanes, diwylliant a thirwedd Sir Benfro, a fydd yn arddangos detholiad o eitemau newydd y tymor hwn.
 
Bydd y ddwy arddangosfa yn agored tan Ddydd Sadwrn 29 Mawrth 2025.

 Am fwy o wybodaeth, ewch i:

ID: 5251, adolygwyd 11/11/2024

Glan-yr-afon

Mae Canolfan Glan-yr-afon, a agorwyd yn 2018, yn brif gyfleuster diwyllianol sydd i’w chael yng nghanol tref Hwlffordd.

Dyma ganlyniad partneriaeth gyffrous rhwng Cyngor Sir Penfro a Llyfrgell Genedlaethol Cymru (yn agor mewn tab newydd)

mae Glan-yr-afon yn cynnig:

  • Llyfrgell - Gofod yr 21ain ganrif sy’n cyfuno stoc lyfrau draddodiadol gyda mynediad ar-lein a thechnoleg hunanwasanaeth.
  • Oriel - Lleoliad o arwyddocâd cenedlaethol yn dod â rhai o drysorau'r genedl i'r sir mewn partneriaeth â Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
  • Gwybodaeth i Ymwelwyr - Stop cyntaf i ymwelwyr y sir, sy’n tynnu sylw at fannau gwyliau poblogaidd a gemau cudd.
  • Plant - Ardal ar thema castell, ynghyd â thŵr darllen i blant a wal stori ryngweithiol.
  • Y Bywydfan - Mae’r Hwb Bywyd: Ffyrdd o Wella Lles yn rhoi sylw i gyfoeth o wybodaeth ar ‘Iechyd a Lles’, a 'Sgiliau Gwaith ac Arian’.
  • Siop Goffi - Lle perffaith i gwrdd â ffrindiau, i fwynhau llyfr neu i ymlacio gyda choffi a golygfa o lan yr afon.

Daeth arian i adeiladu’r cyfleuster o amrywiaeth o ffynonellau gan gynnwys

Mae Cyngor Tref Hwlffordd (yn agor mewn tab newydd) wedi rhoi pecyn ariannu pum mlynedd er mwyn sicrhau bod y llyfrgell yn gallu agor ar brynhawniau Sadwrn drwy gydol y flwyddyn, yn wahanol i’r hen lyfrgell a oedd ond ar agor yn ystod y bore ar ddyddiau Sadwrn.

ID: 4457, adolygwyd 30/10/2023