Glan-yr-afon: Gwybodaeth

Trysorau

Mae arddangosfa o rai o eitemau mwyaf unigryw a hanesyddol Cymru yn cael ei chynnal ar hyn o bryd yn y Riverside (o’r 25ain o Fai hyd y 12fed o Hydref)

Ymhlith y Trysorau ceir yr hyn y gellir dadlau yw’r llyfr pwysicaf a mwyaf dylanwadol yn hanes yr iaith Gymraeg, sef Beibl William Morgan 1588, y cyfieithiad cyflawn cyntaf o’r testun i Gymraeg.

Trysor cenedlaethol arall sy’n cael ei arddangos yw sgôr wreiddiol a geiriau Anthem Genedlaethol Cymru, Hen Wlad Fy Nhadau, a gyfansoddwyd yn 1856 gan y tad a’r mab, Evan a James James.

Ymysg y deunydd gweledol mae darn gan yr arlunydd cyfoes, Claudia Williams, yn ychwanegol at ddelweddau eiconig yn darlunio’r diwylliant Cymreig gan gymeriadau enwog o faes ffotograffiaeth: John Thomas, Geoff Charles a Philip Jones Griffiths.

Bydd ymwelwyr i Trysorau hefyd yn cael cipolwg ar ddarlun gwreiddiol o waith Turner, Castell Dolbadarn, sy’n dangos sut y cafodd yr arlunydd tirluniau nodedig hwn ei ysbrydoli drwy ei ymweliadau mynych â Chymru yn ystod y 1970au.

Rhydd Trysorau gyfle prin i’r cyhoedd dyrchio’n ddyfnach i feddyliau rhai o awduron a beirdd mwyaf Cymru, gyda deunydd archifol yn cael ei arddangos gan gynnwys map yn darlunio pentref ffuglennol Llareggub, lleoliad y ddrama Under Milk Wood, yn llawysgrifen Dylan Thomas ei hun.

Mae copi gwreiddiol o gerdd fuddugol Hedd Wyn, Yr Arwr, yn yr hyn a adwaenir fel ‘Eisteddfod y Gadair Ddu’, hefyd ymhlith Trysorau’r Llyfrgell Genedlaethol yn y Riverside.

At hynny, arddangosir pedwar eicon fesul un yn ystod yr arddangosfa, gan gynnwys tair llawysgrif o bwys: Llyfr Du Caerfyrddin, y llawysgrif Gymraeg gynharaf, Cyfreithiau Hywel Dda, fersiwn Ladin wedi ei goleuo o gyfraith gynhenid Cymru, a Llyfr Taliesin, sy’n cynnwys y farddoniaeth Gymraeg hynaf.

Mae yna oddeutu 40,000 o lawysgrifau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a gyda’i gilydd maent yn ffurfio’r casgliad mwyaf cynhwysfawr o lawysgrifau Cymraeg yn y byd.

Casgliad Peniarth, sy’n cynnwys y tair llawysgrif sydd i gael eu harddangos yn y Riverside, yw’r pwysicaf o gasgliadau llawysgrifau’r Llyfrgell. Mae’r casgliad hwn yn adnabyddus yn rhyngwladol ac wedi ei gynnwys yng Nghofrestr Cof y Byd y Deyrnas Unedig UNESCO.

Y pedwerydd eicon i gael ei arddangos yw Yny Lhyvyr Hwnn. Mae’n ffurfio rhan o gasgliad coeth y Llyfrgell Genedlaethol o lyfrau prin a dyma’r llyfr cyntaf erioed i gael ei argraffu yn Gymraeg. Ysgrifennwyd Yny Lhyvyr Hwnn gan John Price a’i argraffu yn Llundain yn 1546. Un copi yn unig o’r gyfrol sydd wedi goroesi.

Am wybodaeth gyfredol ynghylch pa eicon sy’n cael ei arddangos ar hyn o bryd, ewch i dudalen Nawr yn Dangos yn yr Oriel.

Bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru hefyd yn cynnal rhaglen o ddigwyddiadau cyffrous a gweithgareddau addysgol i gyd-fynd â’r arddangosfa hon.

Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys manylion sut i archebu eich tocynnau am ddim, ewch i’n tudalen Digwyddiadau.

ID: 5251, adolygwyd 19/07/2019

Glan-yr-afon

Canolfan ddiwylliannol newydd arloesol yng nghanol tref Hwlffordd.

Mae’r datblygiad, sy’n cynnwys llyfrgell, oriel, gwybodaeth i ymwelwyr a siop goffi, yn ganlyniad partneriaeth gyffrous rhwng Cyngor Sir Penfro a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Daeth arian i adeiladu’r cyfleuster o amrywiaeth o ffynonellau gan gynnwys Cyngor Sir Penfro, Llywodraeth Cymru, Sefydliad Wolfson, Sefydliad Foyle ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Mae Cyngor Tref Hwlffordd wedi rhoi pecyn ariannu pum mlynedd er mwyn sicrhau bod y llyfrgell yn gallu agor ar brynhawniau Sadwrn drwy gydol y flwyddyn, yn wahanol i’r hen lyfrgell a oedd ond ar agor yn ystod y bore ar ddyddiau Sadwrn.

Cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg. Er mwyn rhedeg cwrs mae angen isafswm o bobl i gymryd rhan. Ein nod yw darparu cyrsiau dwyieithog ble mae’n ymarferol bosibl. Pan fyddwch yn gofyn am gymryd rhan mewn cwrs, byddwn yn gofyn i chi os hoffech chi gymryd rhan yn Gymraeg yn unig. Byddwn yn darparu cyrsiau mewn Cymraeg yn unig pan fydd y niferoedd wedi cyrraedd yr isafswn sydd ei angen i redeg cwrs.

ID: 4457, revised 19/07/2019