Glan-yr-afon: Gwybodaeth
CYFOES: Celf Cymru Heddiw
Dathlu celf gyfoes yng Nghymru mewn arddangosfa newydd
Ar 12 Ebrill bydd arddangosfa newydd sy’n dathlu celf gyfoes Gymreig, yn agor yn Oriel Glan-yr-afon, Hwlffordd. Bydd arddangosfa CYFOES: Celf Cymru Heddiw · Contemporary Welsh Art yn dwyn ynghyd detholiad o weithiau celf, wedi’u creu yn ystod y degawd diwethaf, o’r Casgliad Celf yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Bydd yr arddangosfa yn cynnwys gweithiau olew, cerfluniau a gweithiau aml-gyfrwng yn ogystal â gweithiau gan artistiaid ifainc a sefydledig. Mae’r mwyafrif yn weithiau gan artistiaid benywaidd.
Bydd arddangosfa CYFOES yn cynnig cipolwg ar fyd bywiog celf gyfoes yng Nghymru, gan ymdrin â dylanwadau modern themâu fel pandemig Covid-19 ac hunaniaeth. Bydd hefyd yn cynrychioli gwedd newidiol celf yng Nghymru heddiw wrth i syniadau newydd beiddgar a safbwyntiau ffres ar ddiwylliant Cymru cael eu cyfleu gan y gweithiau sydd ar ddangos.
Ymhlith uchafbwyntiau’r arddangosfa mae Dannedd Dodi gan Anya Paintsil, HorseHead gan Dr Adéọlá Dewis; Blodeuwedd gan Natalia Dias a Moelni Maith gan Lisa Eurgain Taylor.
Dywedodd Rhodri Llwyd Morgan, Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Mae’r Llyfrgell yn gartref i dros 60,000 o weithiau celf, ac mae’n hanfodol ein bod ni’n arddangos cymaint ohonyn nhw i’r cyhoedd â phosib. Mae ein horiel yn Llyfrgell Glan-yr-afon yn ein galluogi i’w rhannu a chynulleidfaoedd y tu hwnt i’n safle yn Aberystwyth. Mae’r gweithiau cyfoes yn yr arddangosfa hon yn gyfle i ni ddangos sut rydym yn casglu’n gyson er mwyn sicrhau bod y casgliad yn adlewyrchu Cymru gyfoes.”
Meddai Mari Elin Jones, Swyddog Dehongli, Adran Arddangosfeydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Rydyn ni’n falch iawn o’r cyfle hwn i rannu detholiad arbennig o weithiau celf gan rai o artistiaid cyfoes mwyaf blaenllaw Cymru ac yn hynod o falch gallu rhannu gymaint o weithiau gan artistiaid benywaidd. Nod yr arddangosfa yw dathlu cyfoeth celf gyfoes yng Nghymru a’i fywiogrwydd parhaus wrth ddehongli'r byd sydd ohoni.”
Bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal i gyd-fynd â’r arddangosfa a bydd manylion y rhain yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru (yn agor mewn tab newydd) dros yr wythnosau nesaf.
Ar ddangos ochr yn ochr ag arddangosfa CYFOES mae’r arddangosfa barhaol Sir Benfro: Ddoe a Heddiw, sy'n canolbwyntio ar hanes, diwylliant a thirwedd Sir Benfro.
Bydd y ddwy arddangosfa yn agored tan Ddydd Sadwrn 11 Hydref 2025.
Am fwy o wybodaeth, ewch i:
- dudalen Facebook Llyfrgelloedd Sir Benfro (yn agor mewn tab newydd), neu
- ffoniwch Glan-yr-afon ar 01437 775244.
Glan-yr-afon
Mae Canolfan Glan-yr-afon, a agorwyd yn 2018, yn brif gyfleuster diwyllianol sydd i’w chael yng nghanol tref Hwlffordd.
Dyma ganlyniad partneriaeth gyffrous rhwng Cyngor Sir Penfro a Llyfrgell Genedlaethol Cymru (yn agor mewn tab newydd)
mae Glan-yr-afon yn cynnig:
- Llyfrgell - Gofod yr 21ain ganrif sy’n cyfuno stoc lyfrau draddodiadol gyda mynediad ar-lein a thechnoleg hunanwasanaeth.
- Oriel - Lleoliad o arwyddocâd cenedlaethol yn dod â rhai o drysorau'r genedl i'r sir mewn partneriaeth â Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
- Gwybodaeth i Ymwelwyr - Stop cyntaf i ymwelwyr y sir, sy’n tynnu sylw at fannau gwyliau poblogaidd a gemau cudd.
- Plant - Ardal ar thema castell, ynghyd â thŵr darllen i blant a wal stori ryngweithiol.
- Y Bywydfan - Mae’r Hwb Bywyd: Ffyrdd o Wella Lles yn rhoi sylw i gyfoeth o wybodaeth ar ‘Iechyd a Lles’, a 'Sgiliau Gwaith ac Arian’.
- Siop Goffi - Lle perffaith i gwrdd â ffrindiau, i fwynhau llyfr neu i ymlacio gyda choffi a golygfa o lan yr afon.
Daeth arian i adeiladu’r cyfleuster o amrywiaeth o ffynonellau gan gynnwys
- Cyngor Sir Penfro
- Llywodraeth Cymru (yn agor mewn tab newydd)
- Sefydliad Wolfson (yn agor mewn tab newydd)
- Sefydliad Foyle (yn agor mewn tab newydd)
- Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (yn agor mewn tab newydd)
Mae Cyngor Tref Hwlffordd (yn agor mewn tab newydd) wedi rhoi pecyn ariannu pum mlynedd er mwyn sicrhau bod y llyfrgell yn gallu agor ar brynhawniau Sadwrn drwy gydol y flwyddyn, yn wahanol i’r hen lyfrgell a oedd ond ar agor yn ystod y bore ar ddyddiau Sadwrn.