Glan-yr-afon: Gwybodaeth

Siop Goffi

Mae Tŷ Coffi, a redir gan Café Rio, yn cynnig amrywiaeth o goffi o ansawdd uchel sydd wedi’u rhostio yng Nghymru, a bwydlen sy’n defnyddio cynhwysion lleol.

Bellach yn gweini Shmoo’s ac amrywiaeth eang o goffi oer, yn ogystal â phrydau arbennig bob dydd ac amrywiaeth o gacennau blasus.

Gellir trefnu archebion grŵp, gan gynnwys cyfarfodydd a dathliadau, trwy ffonio 01437 765411.

ID: 4461, adolygwyd 22/09/2022