Glan-yr-afon: Gwybodaeth
Y Bywydfan
Y Bywydfan: Ffyrdd o Wella Lles, wedi’i leoli yng Nglan-yr-afon yn Hwlffordd, yw’r 3ydd Bywydfan sydd wedi’i ddatblygu gan Lyfrgelloedd Sir Benfro.
Mae’r Bywydfan yng Nglan-yr-afon yn cyfuno themâu ‘Iechyd a Lles’ a ‘Sgiliau Gwaith ac Arian’ o’r 2 Bywydfan yn llyfrgelloedd Doc Penfro ac Abergwaun.
Mae pob Bywydfan wedi’i gynllunio er mwyn galluogi sefydliadau i ymgymryd â gwaith allgymorth yn y gymuned leol, ar ffurf ystafelloedd ymgynghori preifat a gofod ar gyfer gwaith hyrwyddo.
Mae’r Bywydfannau ar gael i’w defnyddio yn ystod oriau agor arferol y llyfrgell, ac mae archebu’n hanfodol.
Mae’r Y Bywydfan: Ffyrdd o Wella Lles yn cynnig:
Ardal gyhoeddus
- Llyfrau a phamffledi sy’n berthnasol i 'Iechyd a Lles' a 'Sgiliau Gwaith ac Arian'
- Teledu Plasma ar gyfer cyflwyniadau
- Wi-Fi am ddim
- Gwagle ar gyfer stondin hyrwyddo
Ystafell gyfarfod
- Ystafell amlbwrpas sy’n addas ar gyfer cyfarfodydd, hyfforddiant ac ymgynghoriadau, ar gyfer hyd at 12 o bobl
- Cynnig y ddarpariaeth o fyrddau sy’n plygu, cadeiriau pentyradwy a seddau meddal, felly gellir teilwra’r ystafell i weddu’ch anghenion
- Gall grwpiau cymunedol, unigolion ac elusennau ddefnyddio’r ystafell am ddim, os ydynt yn darparu gwybodaeth, cyngor, cefnogaeth a hyfforddiant am ddim. Gall cwmnïau preifat sy’n codi tâl am eu gwasanaeth ddefnyddio’r ystafell am bris o £10 yr awr
I archebu ystafell gyfarfod yr Y Bywydfan: Ffyrdd o Wella Lles cysylltwch â:
Kath Woolcock (Rheolwr Safle - Llyfrgell, Oriel a Chanolfan Wybodaeth y Sir)
kath.woolcock@pembrokeshire.gov.uk
01437 776098
Laura Evans (Swyddog Datblygu Llyfrgell)
laura.evans@pembrokeshire.gov.uk
01437 776639