Go Tri

Sylwadau ac Adborth

1. Annwyl Jayne a’r Tîm GoTri,

Doeddwn i ond eisiau ysgrifennu i ddweud faint wnes i fwynhau’r digwyddiad heddiw. Roedd yn ffordd wych o deimlo sut fyddai triathlon, cyn rhoi cynnig ar un o rannau’r GoTri. Rwy’n credu y byddwn wedi bod yn rhy ofnus i fynd yn syth i un o’r rhai ‘go iawn’ heb gael y profiad yma. Roeddech chi a’ch tîm yn wych yn ateb ein holl gwestiynau a chefais help hyd yn oed i newid uchder y sedd ar fy meic ffordd newydd (i mi)! O’m rhan i fel rhywun sydd heb gorff arferol triathletwr, roedd y digwyddiad yn rhoi hwb go iawn i hyder ac wedi fy ngwneud yn benderfynol iawn o baratoi ar gyfer un o’r digwyddiadau GoTri llawn. Roeddwn yn teimlo i mi gael cefnogaeth drwy gydol y digwyddiad a llongyfarchiadau i bawb ohonoch am fore gwych o ymarfer a chystadleuaeth gyfeillgar.

Yn ddiffuant, Eva (Rees), Abergwaun

2. Roedd y blaswr GoTri yn rhagorol ac rwy’n awyddus i roi cynnig ar un arall er bod pob digwyddiadau GoTri yn gwrthdaro â rhywbeth arall yn anffodus.

Cefais y diwrnod wedi’i drefnu’n wirioneddol dda, roedd pawb yn wirioneddol gymwynasgar ac roedd yn anfygythiol iawn! Rwyf wedi cymeradwyo hyn i bobl eraill ac rwy’n meddwl ei fod yn gyfle gwych i roi cynnig ar ddigwyddiad sy’n llawn athletwyr haearnaidd ffit dros ben yn gyffredinol!

Diolch yn fawr a byddaf yn bendant yn dod eto!

Hwyl, Marja

3. Mwynheais y GoTri yn fawr. Roeddwn yn credu y cafodd ei drefnu’n dda dros ben a’r gefnogaeth yn rhagorol. Roedd pawb dan sylw mor gymwynasgar ac wrth law i roi cyngor a chefnogaeth. Dylai holl drefnyddion a staff fod yn falch dros ben ohonynt eu hunain a chael curo’u cefnau. Ni allai fod yn well!

Diolch yn fawr iawn. Sam :-)

4. Roedd y triathlon yn wych! Roedd y pellterau’n berffaith i mi. Rwy’n gobeithio gweld mwy sy’n cynnig pellterau byrrach. Da iawn i’r trefnyddion

Diolch, Hannah Harries

ID: 1672, adolygwyd 14/08/2017